Effaith Covid yn dal i'w weld yng Ngheredigion - ymchwil

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Aberystwyth

Dyw busnesau Ceredigion ddim wedi dod dros effaith cyfnod Covid yn llawn, ac mae rhai dal angen cefnogaeth.

Dyna ganfyddiadau gwaith ymchwil newydd gan academyddion ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae dau adroddiad wedi eu cyhoeddi mewn cynhadledd yn y brifysgol yn edrych ar fusnesau ac ar aelwydydd.

Er taw Ceredigion welodd y gyfradd heintio isaf o ran achosion Covid ar dir mawr Prydain yn ystod blwyddyn gyntaf y pandemig, mae'r ymchwil yn awgrymu bod yr effaith ar fusnesau yn ddwfn ac wedi para amser hir.

Mewn arolwg, dywedodd 92% o fusnesau eu bod wedi wynebu problemau gyda gwahanol elfennau o'u busnes yn ystod cyfnod Covid.

Roedd y problemau'n cynnwys y gadwyn gyflenwi yn cael ei amharu, gostyngiad yn nifer y cwsmeriaid a phroblemau staffio.

Erbyn hyn mae 28% o fusnesau Ceredigion yn dweud nad ydynt yn teimlo'n hyderus yn nyfodol yr economi, ond mae 37% o'r rhai ymatebodd i'r arolwg yn ffyddiog y bydd pethau'n gwella.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Phillip John Jones Evans bod ei fusnes wedi diodde'n wael yn ystod y pandemig gyda llai o bobl yn gyrru eu ceir

Un o'r busnesau fuodd trwy gyfnod heriol oedd Garej Moduron Hafod ym Mhont-rhyd-y-groes. Roedd rhaid cau'r drysau am gyfnod, a doedd dim arian yn dod mewn i goffrau'r cwmni yn ôl y perchennog Phillip John Jones Evans.

"O'dd hi wedi mynd yn dawel, dim ceir ar yr hewl, dim gwaith yn dod mewn, so goffo ni gau'r dryse.

"A'th pob un o ni gatre a o'n ni'n lwcus o ffyrlo. Goffes i roi'r bois ar ffyrlo, ac o ni bant am tua pump, chwech wythnos."

"Cymrodd e amser i ddod nôl... credu o'dd pobl yn ofn beth odd yn mynd 'mlaen, ddim cweit yn siwr, ond erbyn heddi ma fe nôl fel oedd e."

Dywedodd bod y cyfnod wedi bod yn ansicr, gyda "neb yn gwybod beth oedd yn mynd mlaen - teulu gatre yn becso beth oedd yn mynd i ddigwydd i'r busnes".

Disgrifiad o’r llun,

Mae ymchwil Prifysgol Aberystwyth yn awgrymu bod effeithiau Covid yn dal i gael eu teimlo

Yn y cyfnod roedd nifer yn dibynnu ar system ffyrlo y llywodraeth, oedd yn gwarantu cyflogau i filiynau oedd yn methu gweithio oherwydd y pandemig.

Dywedodd Mr Evans: "O' ni yn lwcus o ffyrlo ond beth o ni becso am o'dd ddim ishe colli y bois a ddim ishe i'r bois fod mas o waith.

Ychwanegodd "O' ni'n teimlo'n guilty achos dim bai fi oedd e ond o ni'n teimlo ma' bai fi oedd e bod y garej wedi cau.

"Odd e'n dipyn o ergyd, o'n i byti cau. O'n i'n gorfod dod nôl neu bydde 'da ni ddim byd i ddod nôl iddo. Ond erbyn heddi ni wedi gweitho'n galed a wedi cael e nôl i fel oedd e."

Fe ddywedodd 55% o'r rhai a holwyd eu bod nhw'n teimlo'n ynysig yn ystod y cyfnod clo. Un o'r rhesymau y tu ôl i hynny oedd problemau cysylltedd yn deillio o isadeiledd a darpariaeth rhyngrwyd gwael.

Roedd sicrhau'r cysylltiad hwnnw yn fwy pwysig nag erioed yn ystod cyfnod lle roedd anwyliaid yn gorfod hunan-ysysu.

'Nawr ni'n dala lan'

Yn ôl Elin Fflur Thomas, sy'n rhedeg busnes coluro ers deg mlynedd, erbyn hyn mae hi'n brysurach nag erioed diolch i "glientiaid ffyddlon".

Ond ychwanegodd fod cyfnod Covid yn "ddiflas iawn" i'r rhai yn y diwydiant harddwch.

"Cnocodd e bob dim yn ôl ond nawr ni'n dala lan," meddai.

"Mae 'da fi briodasau bob wicend tan diwedd y flwyddyn.

Disgrifiad o’r llun,

Elin Fflur Thomas: "Cnocodd e bob dim yn ôl ond nawr ni'n dala lan"

"Halodd e sbel fach iddyn nhw ddod yn ôl, ar ôl bod yn y cyfnod clo doedd pobl ddim yn mynd straight mas.

"Oedden nhw'n dod lan yn slow bach ac fi'n credu nawr, ers two years, nawr mae pobl yn rili joio ac yn meddwl 'mae bywyd yn fyr, dewch i ni fynd i joio'."

'Poeni am Mam'

Roedd mam Eluned Evans o Gwmystwyth yn byw yng nghartref gofal Hafan y Waun yn Aberystwyth.

Roedd cyswllt band-eang ffeibr yn hollbwysig i fedru siarad ag eraill pan nad oedd modd mynd i'r cartref gofal ei hun.

"Yr unig beth oedd yn bryderus i ni oedd Mam. O'dd hi wedi mynd mewn i gartref gofal Hafan y Waun yn Aberystwyth y flwyddyn cyn daeth y Covid… ac o' ni arfer mynd i weld hi ddwywaith yr wythnos a wedyn daeth Covid a yn sydyn stop.

"Oedd Mam ar y pryd yn 98 ac o ni'n poeni wrth gwrs beth fyse'n digwydd."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Eluned Evans o Gwmystwyth ei bod yn poeni'n fawr am ei mam yn ystod cyfnod Covid

Er y pryder, dywedodd bod staff y cartref yn "yn ardderchog".

"Ond o' nhw'n cadw ni mewn cysylltiad â Mam yn bersonol trwy'r ffôn a thrwy rhyw fath o Skype.

"Os oedd unrhywbeth yn digwydd fydde ni'n cael galwad ffôn a thrwy lythyrau. Nid just trwy'r elusen oedd yn rhedeg y cartref ar y pryd ond o'r cartref ei hun.

"Felly o' ni yn teimlo yn hollol hapus bod Mam mewn dwylo cariadus iawn a gofalus iawn.

"O' ni yn poeni yn fawr iawn achos 'efo dementia mae'n bosib os nad ydych chi yn cael cymdeithasu yn weddol reolaidd ma' pethe yn gallu gwaethygu yn gyflym iawn, ac o' ni yn poeni am hynna efo Mam.

"A mae'n wir mi nath ei chyflwr hi waethygu o ran medru cymdeithasu efo ni ond mi ddaeth o nôl.

"Unwaith o' ni medru mynd yn ôl i'r cartref mae hi wedi dod nôl yn wych."