Nifer marwolaethau 'yn ôl i'r lefelau cyn y pandemig'
- Cyhoeddwyd
Roedd nifer y marwolaethau yng Nghymru ychydig yn is na'r cyfartaledd yn 2022, yn ôl ffigyrau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Ar ôl ystyried maint ac oedran y boblogaeth, fe wnaethon nhw ganfod bod cyfradd y marwolaethau 1.1% yn is na'r disgwyl.
Wrth edrych ar gyfradd marwolaethau mis Rhagfyr, mae ffigyrau'n awgrymu eu bod bellach wedi dychwelyd i'r lefelau a welwyd cyn pandemig Covid-19.
Dementia oedd prif achos marwolaethau ym mis Rhagfyr yng Nghymru, fel mae wedi bod am y pum mis diwethaf - ond clefyd y galon oedd yn gyfrifol am y nifer fwyaf o farwolaethau drwy gydol 2022.
Llai yn marw o'r ffliw
Covid oedd y seithfed achos mwyaf o farwolaethau yn 2022, gyda chyfradd o 38.5 marwolaeth am bob 100,000 o bobl.
Daeth hynny wedi iddo fod yn ail achos mwyaf o farwolaethau yn 2021, ar ôl clefyd y galon, a'r prif achos o farwolaethau ar frig y pandemig yn 2020.
Ym mis Rhagfyr 2022 roedd ffliw a niwmonia'n bedwerydd ar y rhestr achosion marwolaeth, a Covid yn wythfed.
Fe wnaeth dadansoddiad nifer y marwolaethau ychwanegol - sef y nifer uwchben beth fydden ni fel arfer yn ei weld - ganfod bod marwolaethau yng Nghymru yn 2022 5% yn uwch na'r cyfartaledd.
Ond ar ôl addasu'r niferoedd ar gyfer oedran a phoblogaeth roedd y cyfradd 1.1% yn is na'r cyfartaledd, a 0.7% yn is na'r cyfartaledd yn Lloegr.
Prif achos y marwolaethau ychwanegol oedd symptomau, arwyddion a chyflyrau heb eu diffinio, sy'n cynnwys eiddilwch yn ymwneud â henaint.
Roedd nifer y rheiny 30% yn uwch na'r arfer, ac hefyd ymhlith y ffactorau cyffredin mewn bron i draean o'r marwolaethau Covid.
Ond roedd nifer y marwolaethau o ffliw a niwmonia yng Nghymru 28% yn is na'r cyfartaledd.
Ar gyfer Cymru, y cyfradd marwolaeth ar gyfer 2022 ar ôl ystyried oedran oedd 1,029 am bob 100,000 person - ffigwr sydd yn is na'r rhan fwyaf o flynyddoedd ers i gofnodion y Swyddfa Ystadegau Gwladol ddechrau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd6 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd30 Tachwedd 2022