'Rhaid newid diwylliant Morgannwg wedi ymadawiad Maynard'

  • Cyhoeddwyd
Tom CullenFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gadawodd Tom Cullen dîm Morgannwg ddiwedd tymor diwethaf ar ôl cael ei ddadrithio â bywyd yn y clwb

Mae'n rhaid i Glwb Criced Morgannwg ddefnyddio ymadawiad Matthew Maynard fel cyfle i ailsefydlu a symud ymlaen o ddiwylliant o "ffrindgarwch" (cronyism), yn ôl un o gyn-chwaraewyr y sir.

Ddydd Iau cyhoeddodd y prif hyfforddwr Maynard y bydd yn rhoi'r gorau iddi ar ôl pum mlynedd o'i ail gyfnod wrth y llyw, flwyddyn cyn i'w gytundeb ddod i ben.

Mae'r cyn-wicedwr Tom Cullen yn credu bod Morgannwg wedi cael eu dal yn ôl yn sgil eu polisi o benodi cyn-chwaraewyr - yn eu plith Matthew Maynard, y cyfarwyddwr criced Mark Wallace a'r prif weithredwr sy'n gadael, Hugh Morris - i swyddi rheoli.

Mae'n sefyllfa y mae'n ei ystyried fel un o "ffrindgarwch".

Roedd Cullen yn aelod o dîm buddugol Cwpan Undydd Morgannwg 2021 o dan David Harrison ond, mewn criced pêl-goch, mae'n dweud bod Maynard wedi arolygu amgylchedd "glicaidd" a "chlyd" sydd wedi cyfrannu at fethiant y sir dro ar ôl thro i ennill dyrchafiad o Adran Dau Pencampwriaeth y Siroedd.

Yn ystod ei bum mlynedd ym Morgannwg, mae Cullen hefyd yn honni bod "gormod o alluogi diwylliant o yfed yn y clwb".

"O fy mhrofiad i maen nhw just yn dal i wneud yr un pethau a pheidio gwneud unrhyw newidiadau o gwbl," meddai Cullen wrth BBC Chwaraeon Cymru.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ddydd Iau cyhoeddodd y prif hyfforddwr Matthew Maynard y bydd yn rhoi'r gorau iddi ar ôl pum mlynedd o'i ail gyfnod wrth y llyw

"Y diffiniad o wallgofrwydd yw gwneud yr un pethau a disgwyl canlyniadau gwahanol.

"Dwi'n teimlo bod lefel o gyffredinedd, sydd ond yn cael ei dderbyn flwyddyn ar ôl blwyddyn.

"Dwi'n meddwl bod yna ormod o ffrindgarwch yn yr amgylchedd.

"Mae gormod o unigolion mewn swyddi arweinyddiaeth sy'n rhy gyfeillgar â'i gilydd, a 'da chi'n gwybod pa mor anodd yw hi i ddal ffrindiau yn atebol.

"Mae angen edrych ar hynny oherwydd yn amlwg dydy o ddim wedi gweithio dros y 10 mlynedd diwethaf."

Wrth ymateb dywedodd cadeirydd Morgannwg Mark Rhydderch-Roberts: "Rydyn ni bob amser yn agored i adborth gan unrhyw un o'n chwaraewyr, staff, aelodau neu gefnogwyr.

"Gyda Matt [Maynard] a Hugh [Morris] ill dau yn gadael y clwb, mae 'na gyfle i ystyried y llwyddiannau dros y ddegawd dwetha' ond hefyd adolygu sut mae'r clwb yn datblygu o'r tymor nesa' ymlaen.

"Mae'r bwrdd a'r uwch reolwyr yn adolygu'n gyson holl agweddau o weithdrefnau'r clwb ar ac oddi ar y cae."

Gadael yr 'opera sebon'

Gadawodd Cullen, 31, Forgannwg ar ddiwedd y tymor diwetha' er mwyn dychwelyd i'w wlad enedigol, Awstralia - a hynny ar ôl cael ei ddadrithio â bywyd ym Morgannwg.

Mae 'na ymadawiadau nodedig eraill wedi bod dros y 12 mis diwethaf, gan gynnwys Michael Hogan, un o arwyr y clwb, i Gaint, ac mae'r capten David Lloyd hefyd ar fin symud i Sir Derby.

"Michael Hogan, David Lloyd a Nick Selman - dyna i chi nifer o fois sydd wedi gadael o'u gwirfodd," meddai Cullen.

"Mae'n rhaid i chi ofyn, a yw Morgannwg yn canfod y rhesymau pam eu bod nhw'n gadael, ac ydyn nhw'n dal pobl yn atebol am hynny?

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Michael Hogan ymhlith y rhai sydd wedi neu ar fin gadael y clwb yn ddiweddar

"Dwi ddim yn meddwl eu bod nhw, a dwi ddim yn meddwl eu bod nhw erioed wedi bod, achos dydych chi erioed wedi clywed am unrhyw newid nac unrhyw newidiadau gafodd eu gwneud oherwydd y pethau hynny.

"Mae'n drist, ond dyna'r realiti.

"Roedd o'n teimlo fel bod tipyn o ffafriaeth tuag at rai unigolion.

"Dwi'n credu bod gormod o alluogi diwylliant yfed yn y clwb, a dwi wedi bod i ffwrdd ohono ers blwyddyn felly dwi ddim yn gwybod os yw hynny'n dal yn wir.

"Roedd yn teimlo fel y gallai gael ei opera sebon ei hun."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Maynard yn fatiwr i Forgannwg yn y '90au

Mae gan Maynard gysylltiad hir â Morgannwg.

Mi wnaeth wasanaethu'r sir yn llwyddiannus fel batiwr am 20 mlynedd cyn dychwelyd fel prif hyfforddwr yn 2008 am gyfnod o ddwy flynedd - cyfnod a ddaeth i ben yn chwerw ar ôl i'r tîm fethu cael dyrchafiad o Adran Dau.

Cymerodd Maynard yr awenau am yr eildro yn 2019 ar ôl dau dymor fel ymgynghorydd batio o dan Robert Croft. Eleni, roedd yn gyfrifol am griced y Bencampwriaeth yn unig.

Roedd Morgannwg yn cystadlu am ddyrchafiad tan ddechrau mis Medi ond mi wnaeth eu gobeithion bylu ar ôl cael eu trechu yng Nghaerwrangon.

Dydy'r sir ddim wedi blodeuo yn y gemau pelawdau penodol dan Maynard. Dydyn nhw heb gyrraedd unrhyw rowndiau terfynol (knockout stages) T20 ers 2017.

Ond yn 2021 pan oedd Harrison yn gyfrifol am y tîm llwyddwyd i ennill y Cwpan Undydd tra roedd Maynard yn gweithio i fasnachfraint Welsh Fire yn y gystadleuaeth 100 pêl.

'Pobl ofn siarad'

"Yn ystod y cyfnod roeddwn i yno, roedd 'na lot o ymddygiad clicaidd yn mynd ymlaen," dywedodd Cullen.

"Roedd 'na lawer o bobl ofn siarad. Roedd gan rai pobl drosolwg gwahanol o'u dyheadau ac uchelgeisiau.

"Roedd hynny'n wir am yr hyfforddwyr hefyd. Dwi ddim yn credu bod llawer o'r hyfforddwyr yn dal llawer o'r chwaraewyr yn atebol i safon gyfartal.

"Doedd o ddim yn ddiwylliant o berfformiad uchel chi'n ei ddisgwyl gan dîm chwaraeon proffesiynol, ac unwaith eto mae'r canlyniadau'n siarad drostynt eu hunain.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r drefn o benodi cyn-chwaraewyr i swyddi rheoli yn dal Morgannwg yn ôl, medd Cullen

"Dros y 10 mlynedd dwetha', mae lefel cyffredinedd yno wedi bod yn amlwg i'w weld, siom ar ôl siom, methiant ar ôl methiant a dydy pethau ddim yn newid.

"Dwi'n gwybod fod ambell un o'r bois gan gynnwys fi fy hun wedi codi rhai materion gan bo' ni eisiau gwthio'r clwb ymlaen.

"Roedden ni eisiau gwthio pethau ymlaen, ond roedd [ein sylwadau] bob amser yn cwympo ar glustiau byddar, a dwi'n credu bod llawer o bobl yn ffraeo ynglŷn â hyn, oherwydd roedd rhai wedi gadael o ganlyniad.

"Dwi'n meddwl ei bod hi'n rhy glyd yno, ac os nad ydych chi 'fewn' fel petai yna mae'n gwneud hi'n anodd iawn i chi ddatblygu eich gyrfa eich hun, ond hefyd helpu'r clwb i symud ymlaen."

Daeth Cullen, o Orllewin Awstralia, trwy system MCCU Caerdydd, sydd wedi'i anelu at fyfyrwyr sydd â'r potensial i chwarae criced o'r radd flaenaf drwy roi cyfle iddynt hyfforddi a chwarae ar y lefel uchaf wrth fynd ymlaen â'u haddysg, ac mae ganddo gyfartaledd batio undydd o 35.

Ond cyfyngodd ei statws fel wicedwr wrth gefn Morgannwg tu ôl i Chris Cooke ei gyfleoedd, gan gyfrannu at ei ymadawiad.

"Mae yna bethau da o fewn y sefydliad sy'n gweithio'n dda," meddai Cullen. "Ond wedyn mae yna hefyd rai pethau mae angen i'r bwrdd edrych arnyn nhw.

"Does gen i ddim ffydd y byddan nhw'n newid oherwydd dwi'n credu y byddan nhw'n penodi o'r tu fewn eto. Byddwn i wrth fy modd yn cael fy mhrofi'n anghywir, go iawn.

"Yn bersonol, dwi nawr yn ffan o Glwb Criced Morgannwg, byddai bob amser yn un oherwydd y cyfeillgarwch ges i gyda phobl yn y clwb.

"Dwi just isio gweld nhw'n gwneud newidiadau er budd, ac mae'n rhaid iddo ddod rwan tra mae ganddyn nhw'r cyfle i wneud hynny."

Pynciau cysylltiedig