Dychwelyd cerrig beddi wedi ffrae maes parcio Powys
- Cyhoeddwyd
Fe fydd cerrig beddi gafodd eu symud er mwyn adeiladu mynediad at faes parcio ger capel ym Mhowys yn cael eu dychwelyd i'r safle.
Bu'r heddlu yn ymchwilio i'r mater gan fod teuluoedd pobl sydd wedi'u claddu yng Nghapel Bethany yn Hodley ger Y Drenewydd yn anfodlon â'r datblygiad.
Fe gafodd Ymddiriedolaeth Neuadd Dolafan - rhan o eglwys Gristnogol y Plymouth Brethren - ganiatâd cynllunio y llynedd i "newid defnydd tir i greu maes parcio a mynediad i gerbydau".
Ond ar ôl cwblhau'r gwaith, roedd y perthnasau'n anhapus bod rhai cerrig beddi wedi diflannu o'r safle.
Yn dilyn ymchwiliad gan yr heddlu i niwed troseddol honedig, mae'r teuluoedd bellach wedi cael sicrwydd y bydd y safle yn cael ei adfer, ac mae'r ymddiriedolaeth yn dweud eu bod wedi atal unrhyw waith yno.
Mewn datganiad blaenorol, dywedodd llefarydd ar ran yr ymddiriedolaeth eu bod yn deall bod rhai perthnasau i bobl a gladdwyd ar dir Capel Bethany yn pryderu am y gwaith.
Gan ychwanegu eu bod yn "ymrwymedig i weithio gyda'r gymuned i sicrhau bod y gwaith yng Nghapel Bethany yn cael ei gwblhau gyda'r parch a'r tosturi mwyaf i ail-sefydlu'r capel fel man addoli".
Mewn datganiad nos Iau, dywedodd llefarydd ar ran yr ymddiriedolaeth: "Bod yn gymdogion da a gwasanaethu ein cymuned leol fu ein prif flaenoriaeth erioed.
"Dros y pythefnos diwethaf rydym wedi gwrando'n astud ar adborth y gymuned, ac yn dilyn trafodaethau pellach gyda Chyngor Sir, rydym wedi atal yr holl waith yng Nghapel Bethany."
Mae'r trafodaethau gyda'r cyngor, meddai, yn parhau i fynd i'r afael ag unrhyw broblemau ac maen nhw'n "cydweithio'n llawn... ag unrhyw ymchwiliadau".
Ychwanegodd: "Rydym yn ymroddi i ddysgu o gamgymeriadau ac adfer y sefyllfa gyda'r gymuned leol."
'Synnwyr cyffredin'
Dywedodd y cynghorydd Elwyn Vaughan, arweinydd grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Powys bod y mater wedi cael ei ddatrys.
"Mae'r datblygwyr wedi cytuno adfer y fynwent, i rwystro mynediad i gerbydau, darparu llwybr cerdded i ymwelwyr a chyflogi arbenigwr i ddychwelyd y cerrig beddi i'w mannau gwreiddiol.
"Mae hyn yn fuddugoliaeth i synnwyr cyffredin. Dyma'r peth iawn i wneud er mwyn rhoi tawelwch meddwl i'r teuluoedd, ond mae hi'n biti fod hyn wedi digwydd yn y lle cyntaf.
"Dwi'n falch ein bod ni'n gweld y ffordd ymlaen, ond mae hyn yn bendant yn codi cwestiynau o ran a fyddai Powys wedi gallu delio â'r mater yn well."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Medi 2023