'Fe gostiodd £500,000 i mi brofi 'mod i'n ddieuog'
- Cyhoeddwyd
"Pan gefais fy rhoi yn y gell, eisteddais yno drwy'r nos a jest crio a chrio."
Roedd hi'n 2017 ac roedd rheithgor newydd gael Brian Buckle yn euog, ar gam, o 16 cyhuddiad hanesyddol o gam-drin plentyn yn rhywiol.
Cafodd ddedfryd o 15 mlynedd o garchar, ond byddai achos arall flynyddoedd yn ddiweddarach yn ei ryddhau ar ôl i ddadansoddiad newydd ganfod bod tystiolaeth DNA a ddefnyddiwyd yn ei erbyn yn y gwrandawiad gwreiddiol yn ddiffygiol.
Wedi pum mlynedd a hanner dan glo roedd Brian, o Sir Benfro, yn wynebu costau cyfreithiol o gannoedd o filoedd o bunnoedd.
'Treth diniweidrwydd'
Mae gan ei gyhuddwr yr hawl fod yn anhysbys trwy ei oes, ond doedd Brian ddim yn gymwys hyd yn oed i gael cymorth cyfreithiol - cymorth ariannol gan y llywodraeth at gost cyflogi tîm cyfreithiol - gan fod incwm gwario'r aelwyd yn fwy na £37,500 y flwyddyn.
Ac felly, fel sawl diffynnydd sy'n ddieuog yn y pen draw, roedd ar ei golled yn ariannol - yr hyn a elwir gan rai ymgyrchwyr fel y "dreth diniweidrwydd".
Dyma pryd "rydych chi'n ddieuog ac yn cael eich trethu gan y wladwriaeth - mae'n rhaid i chi dalu am eich amddiffyniad pan na ddylech chi," meddai Stuart Nolan o Gymdeithas y Cyfreithwyr - corff proffesiynol annibynnol cyfreithwyr yng Nghymru a Lloegr.
Mae'r trothwy incwm gwario o £37,500 yn dyddio'n ôl i benderfyniad yn 2014, a dyw heb newid ers hynny, gan effeithio ar filoedd o bobl.
Bob blwyddyn mae tua 40% o'r rhai sy'n pledio'n ddieuog mewn llysoedd yng Nghymru a Lloegr yn cael eu canfod yn ddieuog.
Yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2023 fe wnaeth 31,000 o bobl bledio'n ddieuog, ac o'r rhain aeth 12,000 ymlaen i glirio'u henwau.
Wedi blynyddoedd o feirniadaeth, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ym mis Mai y bydd cymorth cyfreithiol ar gael i bawb yng Nghymru a Lloegr sy'n wynebu achos Llys y Goron ac yn gwneud cais amdano, ond ni fydd hyn yn digwydd am hyd at ddwy flynedd.
Hyd yn oed wedi i'r newid ddod i rym, mae Cymdeithas y Cyfreithwyr yn cwestiynu a fydd digon o gyfreithwyr cymorth cyfreithiol ar gael oherwydd y tâl isel mae'r gwaith hwn yn ei gael.
Mae'r corff yn dweud bod yna lefydd lle mae'n amhosib dod o hyd i gyfreithiwr cymorth cyfreithiol profiadol, hyd yn oed i'r rhai sydd â hawl i un.
Yn y cyfamser, mae pobl fel Brian yn gorfod ysgwyddo'r baich o glirio'u henwau eu hunain, a dyw Brian heb lwyddo eto i hawlio dim o'i gostau yn ôl.
Dyma'r tro cyntaf i Brian, 51, drafod ei euogfarn. Ar ôl cyrraedd y carchar, dywedodd mai goroesi o ddydd i ddydd oedd ei flaenoriaeth.
"Rydych chi'n eistedd yno gyda throseddwyr rhyw go iawn ac rydych chi'n clywed straeon erchyll," mae'n cofio.
"Rydych chi'n clywed pobl yn brolio'u troseddau ac mae'n gwneud i'ch gwaed ferwi."
Doedd gwraig Brian, Elaine, ddim yn fodlon derbyn y rheithfarn. Ynghyd â mam Brian, Jackie, ei fodryb, Daphne a'i ferch Georgia, penderfynodd ei deulu ymladd dros ei ryddid.
"Dywedais: 'Does dim ots gen i beth rydyn ni'n ei wneud, faint mae'n ei gostio, mae'n rhaid i ni brofi ei fod yn ddieuog,'" meddai Elaine, 58.
Mae hi'n meddwl bod yr heddlu wedi credu'r honiadau yn erbyn ei gŵr yn rhy gyflym.
Dyw'r rhuthr i sicrhau euogfarn ddim yn anghyffredin, meddai un o ffigyrau cyfreithiol amlycaf gwledydd Prydain, cyn-farnwr yr Uchel Lys, Syr Richard Henriques.
Mae'n dweud y gall fod gormod o bwysau ar yr heddlu ar adegau iddyn nhw fedru astudio'r holl dystiolaeth berthnasol yn annibynnol, a gall hynny arwain at benderfyniad brysiog i gyhuddo neu erlyn.
Ychwanegodd: "Cyn gynted â'u bod yn dod o hyd i dystiolaeth sy'n tueddu i gefnogi honiad, mae cyhuddiad yn dilyn a daw'r broses ymchwilio i ben - ac mae hynny'n anghywir."
Yn y blynyddoedd diwethaf mae ymgyrchwyr wedi codi ymwybyddiaeth o wendidau yn y system sy'n effeithio ar ddioddefwyr troseddau - yn enwedig rhai troseddau rhyw.
Mae'r rhai sydd wedi'u cyhuddo o droseddau ac a gafwyd yn ddiweddarach yn ddieuog yn dweud nad yw'r system yn gweithio iddyn nhw chwaith.
Roedd Brian yn ffodus i gael teulu i'w gefnogi a brwydro i glirio'i enw.
Trodd eu cartref yn Sir Benfro yn bencadlys eu hapêl wrth i'r merched dreulio oriau, dyddiau ac wythnosau'n darllen trwy drawsgrifiadau llys ac ymchwilio i arbenigwyr cyfreithiol a fforensig.
Yn ôl Elaine, o dan y system bresennol, "rydych chi'n euog nes y gallwch chi brofi eich bod chi'n ddieuog, a chi sy'n gorfod gwneud y gwaith".
Bu'n rhaid i'r teulu hefyd dalu costau herio'r euogfarn eu hunain. Gan ddefnyddio arian etifeddiaeth, rhoddion gan berthnasau a benthyciadau, roedd modd creu cronfa.
Fe wnaethon nhw astudio pob llinell o achos yr erlyniad, gan chwilio am unrhyw beth a allai helpu Brian, a galw ar ymchwilwyr preifat ac arbenigwyr fforensig.
'Rydych chi'n mynd adref'
Trobwynt mawr oedd cael arbenigwr fforensig i ail-brofi dadansoddiad o'r samplau DNA a oedd yn rhan o'r achos gwreiddiol, gan ddod i gasgliad yr oedd bargyfreithiwr Brian yn gwybod fyddai'n bwrw amheuaeth ar yr euogfarn.
Gwnaeth gais llwyddiannus am wrandawiad Llys Apêl lle dywedodd wrth y tri barnwr y gallai'r DNA fod wedi'i blannu.
Dywedwyd wrth y teulu Buckles i beidio â chodi eu gobeithion gan mai dim ond gwrandawiad rhagarweiniol oedd hwn.
Gwyliodd Brian yr achos o'r carchar trwy gyswllt fideo ond roedd yn ei chael hi'n anodd i'w ddilyn.
Yna siaradodd clerc y llys â Brian
"Dywedodd wrtha i: 'Mr Buckle, ydych chi'n gwybod beth sy'n digwydd yma nawr?' A dywedais: 'Na, ddim mewn gwirionedd'."
Dywedodd y clerc y byddai Brian yn cael ei ryddhau ar unwaith: "Bydd y gwaith papur yno o fewn yr awr. Rydych chi'n mynd adref."
Roedd y barnwyr wedi dileu pob un o'r 16 dyfarniad euog. Fe wnaethon nhw ddyfynnu'r dystiolaeth DNA newydd a dweud nad oedd ganddyn nhw hyder bod y rheithgor wedi ystyried pob cyfrif ar wahân.
Dywedodd swyddogion y carchar wrth Brian nad oedden nhw erioed wedi gweld carcharor yn cael ei ryddhau ar unwaith o'r blaen o ganlyniad i benderfyniad o'r fath.
Ond, ddyddiau'n ddiweddarach daeth ergyd arall i Brian a'i deulu pan gyhoeddodd Gwasanaeth Erlyn y Goron eu bod yn mynd am ail achos.
Brwydro am yr eildro
Fis Mai eleni, roedd Brian yn ôl yn y llys yn ymladd am ei ryddid yr eildro.
Nawr, fodd bynnag, roedd gan ei dîm cyfreithiol amddiffyniad llawer mwy manwl a mynediad i'r dystiolaeth fforensig newydd.
Wedi tair wythnos, dechreuodd y rheithgor drafod. Ar ôl dim ond awr ac 20 munud o drafod, cafodd Brian wybod fod y rheithgor wedi dod i benderfyniad.
"Y cyfan y gallwn i feddwl amdano bryd hynny oedd, 'Beth os af yn ôl i'r carchar?'
"Ac yna [aeth] y fforman trwy'r 16 cyfrif, a phob un cyfrif yn ddieuog."
Wedi dau achos a thros bum mlynedd yn y carchar, roedd Brian, unwaith yn rhagor, yn ddyn rhydd, ond roedd cost sicrhau cyfiawnder yn enfawr.
"Rydym wedi gwario dros £500,000," meddai Brian.
Ar ben gorfod talu am ei dîm cyfreithiol, roedd Brian wedi colli ei swydd fel rheolwr adeiladu.
"Rwyf wedi colli fy mhensiwn. Mae ein holl gynilion wedi diflannu," meddai.
Trawma a straen
Teimla Brian fod yna gosbau eraill oedd yn fwy na'r rhai ariannol.
"Bu farw fy nhad ac rwy'n argyhoeddedig bod hynny oherwydd straen," meddai.
"Collais i ben-blwydd fy merch yn 18 oed, yn 21, mynd â hi am ei gwers yrru gyntaf. Allwch chi ddim cael hynny'n ôl."
Talodd hefyd bris gyda'i iechyd meddwl. Mae Brian wedi cael diagnosis o anhwylder straen wedi trawma - PTSD.
Dywed Elaine ei fod yn dangos arwyddion o ymddygiad obsesiynol. Bob bore mae'n deffro'n gynnar ac yn glanhau'r tŷ o'r top i'r gwaelod.
Nawr, mae Brian yn ceisio gwneud i bob diwrnod gyda'i deulu gyfrif. Heb eu cariad a'u cefnogaeth, meddai, byddai'n dal yn y carchar.
Mae'n gallu edrych i'r dyfodol erbyn hyn, ond mae'r holl brofiad wedi gadael marc arno. "Nid fi yw'r hen Brian Buckle," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2018