'Dawn aruthrol Jac' ac 'egwyddorion Gatland'

  • Cyhoeddwyd
gareth daviesFfynhonnell y llun, Getty Images

Wedi'r fuddugoliaeth gofiadwy yn erbyn Awstralia ar 24 Medi, mae tîm Cymru'n chwarae Georgia yn eu gêm derfynol yng Ngrŵp C. Cennydd Davies oedd yn Lyon ar ran BBC Cymru, ac yma mae'n dadansoddi'r hyn ddigwyddodd yn erbyn y Wallabies, a beth sydd i ddod yn y gêm yn erbyn Georgia.

Rhaid i mi gyfaddef, fe gymerodd hi dipyn o amser i mi brosesu'r hyn ddigwyddodd yn Lyon. I rhywun oedd yn blentyn ar ddechrau'r 90au roedd gweld sgôr-fwrdd yn dangos Cymru 40-6 Awstralia yn brofiad anhygoel a swreal. Yn yr un modd fel yr oedd gweld cannoedd o grysau aur yn heidio i'r allanfeydd ymhell cyn y chwiban olaf.

Ar ôl blynyddoedd o ddioddef yn erbyn y gwŷr o hemisffer y de, nid dyma oedd i fod i ddigwydd yn erbyn tîm sydd wedi ennill Cwpan Webb Ellis ddwywaith. Ond gyda chymaint yn y fantol fe ddiflannodd y tensiwn, tyndra a'r holl nerfusrwydd mewn amrantiad wedi i Gareth Davies wibio at y llinell gais.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Awstralia wedi ymddangos yn rownd derfynol Cwpan y Byd bedair gwaith

Doedd dim plesio pawb serch hynny a gymerodd rhyw bum munud yn unig cyn cwrdd ag un o gefnogwyr pybyr Cymru yn barnu, "Dyma'r tîm gwaethaf erioed i ddod o Awstralia" - mae disgwyliadau rhai yn amlwg yn uchel! A bod yn deg roedd 'na rhywfaint o wirionedd yn y dadansoddiad, ond er tegwch i Gymru mi oedd hi'n berfformiad hynod broffesiynol ac yn gwbl ddi-drugaredd.

Jac eto'n cyrraedd yr uchelfannau

Mae Jac Morgan yn parhau i fynd o nerth i nerth wrth greu'r cynta' a sgorio'r cais olaf yn erbyn y Wallabies. Mae ei ddawn aruthrol ar y cae yn amlwg i bawb ond yr hyn sy'n fwy canmoladwy yn enwedig i ŵr sy'n dair ar hugain oed yw'r ffordd y mae'n arwain drwy esiampl, yn araethu'n angerddol ac yn ddiymhongar ei natur ar yr un pryd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Capten Cymru, Jac Morgan, yn hollti'r amddiffyn cyn pasio i Gareth Davies i groesi am y cais agoriadol

Cafodd hyn ei danlinellu gan Warren Gatland ei hun yn y gynhadledd wedi'r gêm ddiwethaf. Dyw rhoi cyfrifoldeb o'r fath i ŵr ifanc ddim yn beth newydd wedi i'r Prif Hyfforddwr wneud hynny gyda Sam Warburton wyth mlynedd yn ôl, ac hyd yma mae'r penderfyniad wedi dwyn ffrwyth. Mae 'na ddyfodol disglair i'r gŵr o'r Gwter Fawr! (Brynamman)

Cyhoeddi'r tîm yn gynnar

Gyda'n lle yn y chwarteri yn saff cyn gêm ola'r grŵp, fe allai Cymru ymlacio 'chydig cyn y gêm olaf yn erbyn Georgia. Doedd dim disgwyl cymaint o newidiadau a fuodd i wynebu Portiwgal yn Nice ond roedd y pymtheg cychwynnol yn gryfach nag oedd nifer o wybodusion wedi darogan.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dewi Lake fydd yn capteinio Cymru yn erbyn Georgia yn absenoldeb Jac Morgan

Roedd 'na rhywfaint o syndod pan gyhoeddwyd y tîm yn gynnar yr wythnos hon ac roedd 'na godi eiliau hefyd wrth weld enwau Louis Rees-Zammit a Taulupe Faletau ymhlith y pymtheg - yr unig ddau sydd wedi dechrau pob gêm yn y gystadleuaeth hyd yma.

Ar y llaw arall mae'r neges wedi bod yn glir ers Lyon na fydd 'na unrhyw elfen o lacio na chwaith cymryd y gwrthwynebwyr yn ganiataol, yn enwedig ar ôl digwyddiadau'r llynedd!

Talu'r pwyth yn ôl

Heb os roedd y gêm yn erbyn Georgia'r llynedd yn un o'r rhai gwaethaf yn hanes rygbi Cymru wrth i'r 'Lelos' gipio'i buddugoliaeth mwyaf nodedig erioed yng Nghaerdydd. Bron i flwyddyn yn ddiweddarach ers y diwrnod du hwnnw ac mae 'na dro ar fyd wedi bod o ran y tîm cenedlaethol.

Mae yna hyfforddwr newydd, ysbryd o'r newydd ac ymdeimlad bod 'na gysylltiad eto rhwng y cefnogwr cyffredin a'r tîm cenedlaethol oedd wedi dirywio cymaint dros y flwyddyn ddiwethaf yn sgil canlyniadau a pherfformiadau siomedig ac anrhefn llwyr o ran gweinyddiaeth y gamp.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Georgia'n dathlu buddugoliaeth enwog yn erbyn Cymru yng Nghaerdydd, 19 Tachwedd, 2022

Dyw hi ddim yn fêl i gyd wrth gwrs ac mae 'na ffordd i fynd eto ond o leia' mae Cymru yn glir yn yr hyn maen nhw'n ceisio ei gyflawni. Na, does dim byd ysgytwol o ran yr athroniaeth ond doedd byth disgwyl i hynny newid - mae Warren Gatland wedi glynu at yr hen egwyddorion a'r seiliau cadarn sef ffitrwydd, cryfder corfforol ac amddiffyn cry', a hyn oll yn golygu fydd Cymru'n dîm anodd i'w curo .

Llygadu Marseille

Mae'r cefnogwyr yn barod yn gwybod y byddan nhw nôl yn y De ar gyrion Môr y Canoldir ar gyfer y chwarteri, ond yr hyn sydd ddim yn glir eto yw'r gwrthwynebwyr. Os fydd Cymru'n cael o leia pwynt yn erbyn Georgia ac yn ennill y grŵp, y gwrthwynebwyr yn y chwarteri fydd unai'r Ariannin neu Japan. Ond ar sail y dystiolaeth hyd yma mi fydd Cymru'n hyderus yn erbyn y naill neu'r llall.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Os bydd Cymru'n gorffen ar frig y grŵp mae'n debygol mai Yr Ariannin neu Japan fydd y gwrthwynebwyr yn y chwarteri

Mae 'na ddigon o sôn wedi bod eisoes fod llwybr Cymru wedi bod gymaint haws na gwledydd eraill a'r ffordd mae'r gystadleuaeth wedi'i threfnu wedi bod yn annheg, sydd wrth gwrs yn bwyntiau dilys. Ond mae hynny i gyd tu hwnt i reolaeth Cymru ac am y tro rhaid anghofio am y chwarteri a thu hwnt a chanolbwyntio ar y presennol.

Ennill y grŵp a gorffen yn argyhoeddedig yw'r nôd, mae'n bosib wedyn y cawn gofio Nantes am y rhesymau cywir.