Euros Lyn: 'Pwysig dweud rhywbeth am fod yn Gymro ac yn hoyw'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Roedd Euros Lyn yn "gwybod o'r eiliad" y darllenodd sgript cyfres Heartbreaker y byddai'n llwyddo

"Ma' dweud rhywbeth am fod yn Gymro a byw yng Nghymru yn bwysig i mi, a ma' dweud rhywbeth ynglŷn â bod yn hoyw yn bwysig iawn i mi hefyd."

Mae Euros Lyn un o gyfarwyddwyr ffilm a theledu mwyaf nodedig Cymru a Phrydain, ac wedi gweithio ar gyfresi llwyddiannus fel Happy Valley, Broadchurch ac Y Llyfrgell.

Un o'i brosiectau diweddara' yw'r gyfres boblogaidd ar Netflix, Heartstopper.

Ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru fore Mercher, bu'n trafod cyfres diweddara' Heartstopper, a'r hyn sy'n ei ysbrydoli fel cyfarwyddwr.

Yn ôl Euros Lyn, sy'n wreiddiol o Gwm Tawe, mae'n hanfodol ei fod o yn ceisio "dweud rhywbeth" yn y gwaith y mae o'n ei wneud.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

"Be sy'n ddiddorol yw bod rhaid i mi fel gwneuthuriwr ffilm gael rhyw bwynt cyswllt gyda be fi'n 'neud," meddai.

"Felly ma' dweud rhywbeth am fod yn Gymro a byw yng Nghymru yn bwysig i mi, ac mae dweud rhywbeth ynglŷn â bod yn hoyw yn bwysig iawn i mi.

"Ma' bod yn berson, a bod yn fod dynol yn rhywbeth dwi eisiau ei rannu."

'Angen seren go iawn'

Ond dydy gwaith yn y diwydiant ffilm a theledu ddim yn fêl i gyd, ac yn ôl Euros mae sicrhau digon o arian ar gyfer gwahanol brosiectau yn her fawr o fewn y sector.

"Fi'n credu bod hi'n her i gael yr arian i wneud unrhyw beth.

"Er bod twf y streamers wedi bod yn aruthrol yn y blynyddoedd diwethaf, mae hi dal yn sialens i gael prosiect wedi ei gomisiynu, boed hynny yng Nghymru, yn Lloegr neu yn unrhyw le arall.

"Un o'r heriau sy'n gwneud pethe'n fwy cymhleth fyth ydi'r ffaith bod rhaid i'r darlledwyr a'r streamers gael seren 'go iawn'.

"Ma' raid i chemistry y prosiect fod yn gywir, er mwyn gwneud i'r bobl yn y siwts - sy'n rhoi eu harian ar y bwrdd - i deimlo yn hyderus bod 'na gynulleidfa i'r prosiect."

Ffynhonnell y llun, Sam Arbor
Disgrifiad o’r llun,

Euros yn cyfarwyddo'r gyfres Heartstopper - sydd wedi bod yn llwyddiant ar Netflix

Un o brosiectau diweddaraf Euros oedd ail gyfres Heartstopper, gafodd ei rhyddhau ar blatfform ffrydio Netflix ym mis Awst.

Drama yw hi sy'n canolbwyntio yn bennaf ar ddatblygiad stori serch dau fachgen yn eu harddegau.

"Mae Heartsopper wedi ei seilio ar gyfres o nofelau graffeg... Ro'n i'n gwybod bo' nhw'n boblogaidd yn barod achos o' nhw wedi gwerthu lot fawr," meddai Euros.

"O' nhw wedi dechrau fel rhywbeth oedd Alice [Oseman] y sgwennwr yn gwneud yn ei chartref, a wnaeth hi crowd fundo'r prosiect i ddechrau... ond dros amser fe wnaeth hi adeiladu fanbase eithaf mawr."

'Teimlo rhyw fath o alar'

"Ro'n i'n gwybod o'r eiliad darllenais i'r sgript gyntaf roedd 'na rywbeth arbennig am y stori yma... be o'n i ddim wedi sylweddoli oedd pa mor eang fyddai apêl y gyfres.

"Ma' pobl hŷn, fy oedran i, yn sbio ar y stori serch yma rhwng pobl yn eu harddegau ac yn teimlo rhyw fath o alar - bo' ni fel cenhedlaeth hŷn o bobl hoyw ddim wedi cael y profiad 'na yn tyfu lan.

"Mae hynny wedi bod yn syfrdanol."

Bydd Euros Lyn yn siarad mewn digwyddiad sy'n rhan o ŵyl ffilmiau Iris yng Nghaerdydd ddydd Mercher.

Pynciau cysylltiedig