Dysgu Cymraeg: Tips i siaradwyr newydd
- Cyhoeddwyd
Wyt ti'n dysgu Cymraeg ond heb gyfle i ymarfer dros y gwyliau?
Mae Marian Brosschot yn diwtor Cymraeg ac yn byw ym Mhen Llŷn. Dyma syniadau gan Marian am sut i ddefnyddio'r Gymraeg dros y gwyliau.
Tips Marian
Mae'r haf yn hir, ac yn braf gobeithio! Mae 'na gyfle i fynd i'r traeth, mynd i fynydda, ymweld â ffrindiau a gweld Taid a Nain, a chael hoe o'r ysgol.
Mae'r gwersi Cymraeg wedi gorffen ers tro, ac mae'n bwysig cau y ffeil am dipyn bach.
Ond sut mae ymarfer eich Cymraeg dros y gwyliau?
Sut mae cadw'r Gymraeg yn fyw yn eich tŷ chi dros yr haf? Sut mae cadw'r plant i ddysgu Cymraeg dros yr haf heb ysgol?
Dyma ychydig o syniadau i ddefnyddio'r Gymraeg dros y gwyliau.
Gwneud amser
Mae'n bwysig rhoi amser cyson i'r iaith yn eich bywyd o ddydd i ddydd. Does dim rhaid i hyn fod yn llawer o gwbl.
Mae bywydau pawb yn brysur iawn felly efallai mai dim ond ychydig bach o amser gallwch chi ei roi, mae hyn yn iawn.
Yr hyn sy'n bwysig ydy eich bod chi'n rhoi amser i gynnwys y Gymraeg yn eich bywyd bob dydd a'i fod yn cael lle i fyw, i dyfu ac i ddatblygu.
Gofynnwch i chi eich hun faint o sylw ydw i wedi ei roi i'r Gymraeg heddiw?
Gwylio a gwrando
Mae gan S4C lawer o raglenni difyr i'w dilyn ar y teledu a hefyd ar S4C Clic ar-lein, dolen allanol. Mae opsiwn cael is-deitlau hefyd.
Beth am chwilio am raglen ddiddorol ar ddiwrnod glawog ym mis Awst?
Cofiwch does dim rhaid i chi ddeall popeth, mae'n bwysig eich bod chi'n clywed yr iaith cymaint â phosibl. Mae llawer o raglenni plant doniol hefyd. Chwiliwch am Cyw i'r plant lleiaf neu beth am edrych ar Hansh neu Stwnsh ar YouTube efo'r plant hŷn.
Mae gwrando ar y Gymraeg bob dydd yn mynd i fod o fudd mawr i chi. Beth am wrando ar y radio neu ar bodlediadau Cymraeg?
Gallwch wrando yn y car ar y ffordd i'r gwaith, yn y tŷ wrth goginio, efallai efo'ch plant tra'n chwarae gêm.
Does dim rhaid i chi ddeall popeth sy'n cael ei ddweud o gwbl, y peth pwysig ydy trochi'r synhwyrau.
Os 'dach chi'n dechrau adnabod geiriau neu'n sylwi ar ymadroddion neu ebychiadau yn cael eu hailadrodd - gwych!
Mae clywed yr iaith mewn gwahanol gyd-destunau yn mynd i helpu eich sgiliau gwrando a bydd yn cael dylanwad bositif ar eich ynganu hefyd.
Cysylltu efo pobl Gymraeg
Un o'r pethau pwysicaf un pan 'dach chi'n dysgu'r iaith ydy gwneud cyswllt efo pobl Gymraeg leol. Mae hyn yn hanfodol i ddatblygu eich sgiliau iaith ond hefyd i wneud ffrindiau yn yr iaith newydd.
Oes pobl Gymraeg yn byw yn eich ardal chi? Ewch i chwilio amdanyn nhw!
Gallwch chi ymuno efo gweithgareddau lleol, clybiau ieuenctid i'r plant, cyfarfodydd, digwyddiadau a dathliadau lleol. Holwch bobl yn y pentref neu edrychwch ar y cyfryngau cymdeithasol.
Prynwch y papur bro Cymraeg lleol. Bydd rhywbeth i bawb a byddwch yn sicr o gyfarfod pobl newydd i siarad Cymraeg efo nhw. Gynta'n byd byddwch yn gwneud cysylltiadau, gorau'n byd i chi.
Astudio
Os 'dach chi'n awyddus i ddysgu mwy o Gymraeg dros yr haf does dim byd yn bod ar droi at eich ffeil ac adolygu.
Mae llawer o ffyrdd eraill i fynd ati i astudio hefyd. Beth am gymryd gwersi 1-1 efo tiwtor ar-lein? Neu edrych ar gyrsiau haf, apiau ffôn fel Duolingo neu ddewis llyfr Cymraeg i'w ddarllen?
Wyth o lyfrau i'w darllen dros yr haf
Mae darllen yn ffordd wych o'ch gwthio chi i ddysgu cystrawen brawddegau mwy cymhleth a hefyd mae'n rhoi rhywbeth i chi siarad amdano gyda phobl iaith gyntaf! Does dim rhaid i chi fod yn rhugl o gwbl i ddarllen llyfr.
Gyda geiriadur, pensil, a tipyn bach o amynedd ewch chi'n bell iawn!
Agwedd at yr iaith
Eich agwedd chi tuag at ddysgu sy'n mynd i fynd â chi yn bell wrth ddysgu iaith.
Mae medru chwerthin ar eich pen eich hun a bod yn ocê efo teimlo embaras yn bethau hanfodol pan 'dach chi'n dysgu unrhyw iaith! Mae'r haf yn gyfle gwych i ymarfer eich Cymraeg mewn siopau a chaffis o gwmpas y wlad.
Cofiwch does dim rhaid i chi ddweud llawer! Beth am ddweud 'bore da' neu ofyn am hufen iâ yn Gymraeg? Byddwch chi'n teimlo'n fwy a mwy hyderus wrth i'r wythnosau fynd ymlaen.
Rhowch her i chi eich hun i ddechrau pob sgwrs yn y Gymraeg neu ddechrau o leiaf un sgwrs yn y Gymraeg bob dydd.
Bydd yn heriol ac yn gyffrous a dw i'n siŵr byddwch chi'n teimlo'n nerfus - ond bydd yn wych. Ewch amdani!
Hefyd o ddiddordeb