Heddlu'n ymchwilio bygythiadau at Drakeford dros 20mya

  • Cyhoeddwyd
Mark Drakeford during First Ministers QuestionsFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mark Drakeford ei fod wedi derbyn bygythiadau i'w ddiogelwch a negeseuon "ffiaidd" oherwydd y gyfraith 20mya newydd

Mae Heddlu De Cymru'n ymchwilio i negeseuon maleisus a anfonwyd at y Prif Weinidog o ganlyniad i gyfraith 20mya newydd Cymru.

Dywedodd Mark Drakeford ei fod wedi derbyn bygythiadau i'w ddiogelwch a negeseuon "ffiaidd" yn sgil y rheolau newydd.

Cymru yw'r wlad gyntaf yn y DU i ostwng y cyfyngiad cyflymder arferol i 20mya.

Mae deiseb i gael gwared â'r gyfraith, a gafodd ei chyflwyno mis yma, wedi derbyn dros 430,000 o lofnodion.

Dywed gweinidogion mai nod y gyfraith newydd yw achub bywydau, lleihau anafiadau ac annog pobl i gerdded a seiclo.

Mae'r gyfraith a oedd yn rhan o faniffesto Llafur Cymru wedi profi'n hynod ddadleuol ers cael ei gyflwyno.

Wythnos diwethaf dywedodd y Llywydd, Elin Jones, ei bod hi a gwleidyddion eraill wedi derbyn negeseuon bygythiol oherwydd y mater.

Bydd Lee Waters, y gweinidog a gyflwynodd y gyfraith newydd, yn wynebu cynnig o ddiffyg hyder gan y Ceidwadwyr ddydd Mercher.

Mae disgwyl i Mr Waters ennill, gyda Llafur a Phlaid Cymru yn pleidleisio yn erbyn y cynnig.

'Annerbyniol'

Yn ystod Cwestiynau i'r Prif Weinidog ddydd Mawrth, gofynnodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, a oedd y ddeiseb yn cael ei chymryd o ddifrif gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd Mr Drakeford ei fod yn bwysig i wneud hynny, ond fod hyn yn fater "sy'n torri'r ddwy ffordd".

Dywedodd y byddai'n "hapus" i ddanfon rhai o'r negeseuon "ffiaidd" mae wedi eu derbyn gan bobl sy'n gwrthwynebu'r polisi at Mr Davies.

Anogodd Mr Davies i feirniadu'r "pobl yna sy'n barod i ddweud pethau sydd nid yn unig yn ddirmygus ond sydd hefyd yn bygwth diogelwch corfforol pobl yn uniongyrchol".

Cytunodd Mr Davies wneud hynny gan ddweud fod "dim lle o gwbl i'r math yna o beth yn ein cymdeithas".

"Mae'r fath yma o iaith yn annerbyniol, gresynus a dylai cael ei feirniadu ar bob cyfle," ychwanegodd.