Cyngor Conwy yn cefnogi premiwm 100% ar dai haf
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Conwy wedi cefnogi cynlluniau i godi premiwm o 100% yn nhreth y cyngor ar ail gartrefi ac eiddo gwag.
O fis Ebrill nesaf, fe fydd premiwm yn cael ei godi oni bai bod y tŷ gwyliau'n cael ei osod ar gyfer rhent am o leiaf 182 o ddyddiau'r flwyddyn.
Yn ôl Llywodraeth Cymru mae caniatáu i awdurdodau lleol gynyddu costau o'r fath yn creu marchnad eiddo tecach mewn ardaloedd lle mae trigolion lleol yn ei chael hi'n anodd prynu tŷ.
Ond mae rhybuddion o'r newydd y bydd y newidiadau'n lleihau nifer y llety gwyliau ac yn niweidio economi twristiaeth Cymru.
Mae Cynghrair Twristiaeth Cymru yn dweud fod y sector yn wynebu "argyfwng" oherwydd rheolau o'r fath.
Mae deddfwriaeth newydd yn golygu bod gan awdurdodau lleol y pŵer i godi premiwm - sef swm ar ben treth cyngor - o hyd at 300% ar ail gartrefi neu eiddo gwag yng Nghymru.
Mae'r pwerau, sydd wedi'i gynnwys mewn cytundeb cydweithredu rhwng Llafur a Phlaid Cymru, yn rhan o ymdrechion i'w gwneud hi'n haws i bobl brynu tai ym mro eu mebyd.
Mae'r rheolau ar lety hunanarlwyo wedi'u tynhau hefyd.
Yn y gorffennol byddai unrhyw lety sy'n llawn am o leiaf 70 diwrnod yn gymwys ar gyfer ardrethi busnes, yn hytrach na gorfod talu'r premiwm treth cyngor.
Mae'n rhaid i eiddo gael ei osod am o leiaf 182 diwrnod i fod yn gymwys bellach.
Mae cwynion fod perchnogion llety gwyliau yn ei chael hi'n anodd cyrraedd y trothwy newydd, ac felly yn gorfod talu treth cyngor uwch.
'Dim modd cynllunio'
Mae Gwion Llwyd yn bennaeth asiantaeth bythynnod gwyliau yng ngogledd Cymru.
Cyn i'r cyngor wneud penderfyniad, dywedodd fod ganddo sawl perchennog llety gwyliau yng Nghonwy oedd yn poeni.
"Dwi 'di colli ambell i berchennog yn Sir Conwy yn barod achos bod nhw'n poeni bod nhw ddim yn mynd i allu cyrraedd y targed newydd o 182 diwrnod, ac yna yn mynd i orfod ceisio talu'r premiwm treth cyngor newydd yma," meddai.
"Does dim modd cynllunio am fil fel yr un yma, ac mae'n mynd i fod yn anodd iawn ffeindio'r math o arian fydd angen os yw'r cyngor yn cynyddu'r premiwm i 100% neu fwy.
"Mae sawl un o'm mherchenogion i yn poeni am y dyfodol."
'Rhestrau aros yn cynyddu'
Ond yn ôl aelod cabinet y cyngor dros yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau, mae'r angen am gynyddu'r premiwm treth cyngor yn y sir yn amlwg.
Dywedodd y Cynghorydd Goronwy Edwards: "Mae'r rhestr aros am dai yn cynyddu pob wythnos yma yng Nghonwy.
"Mae 'na bron i 2,000 o bobl yn aros am dai ar hyn o bryd, tra bod yna dros 1,500 o dai gwag tymor hir yma ac wedyn dros 1,000 o dai haf.
"Felly 'da ni'n trio cael y bobl yma i feddwl am werthu eu tai nhw neu roi nhw ar y farchnad rentu er budd pobl leol.
"Mae Conwy yn le poblogaidd o ran twristiaeth, felly dwi'n ffyddiog y bydd modd i rheiny sydd wir am redeg busnes llety gwyliau allu gwneud hynny beth bynnag y premiwm treth cyngor."
'Rhaid mynd i'r afael â'r broblem'
Mae Mari Hughes ac Iolo Edwards yn gyfarwydd â'r trafferthion o brynu tŷ yn y sir.
Wedi eu magu ym mhentref Llansannan roedd y ddau yn gobeithio prynu tŷ yno i fagu eu plant.
Ond gyda phrisiau tai mor uchel â phroblemau cael caniatâd cynllunio, bu'n rhaid i'r ddau symud.
Mae Mari felly yn cytuno bod angen codi premiwm treth cyngor, ond yn cwestiynu os yw hynny'n ddigon i wella pethau.
"Ni oedd y trydydd teulu i orfod gadael pentref Llansannan oherwydd y sefyllfa tai mewn cyfnod eithaf byr," meddai.
"Collodd y pentref naw o blant oherwydd hynny, sy'n golled i'r ardal.
"Dwi'n teimlo bod pobl wedi darganfod prydferthwch gogledd Cymru, yn enwedig yn ystod Covid, gan greu problem i bobl leol.
"Felly dwi yn cytuno gyda'r hyn mae'r cyngor am wneud oherwydd mae'n rhaid mynd i'r afael gyda'r broblem neu bydd dim cymunedau cefn gwlad ar ôl, ac yn sicr dim rhai llawn teuluoedd ifanc Cymraeg."
Ychwanegodd: "Ond nid dyma'r unig broblem - mae'n rhaid edrych yn ddyfnach i wir wella pethau.
"Mae rheolau cynllunio er enghraifft hefyd wedi atal ni rhag byw yn ein pentref ni. Felly mae angen gwneud mwy."
'Argyfwng' yn y sector dwristiaeth
Yn ôl arolwg diweddar gan Gynghrair Twristiaeth Cymru a PASC UK - sy'n cynrychioli llety gwyliau hunanarlwyo yng Nghymru - dim ond 50% o'r 1,500 a atebodd sy'n hyderus o gyrraedd y trothwy o 182 diwrnod er mwyn cymhwyso ar gyfer ardrethi busnes yn lle treth cyngor.
Mae'n disgyn i 25% o'r flwyddyn nesaf, ac mae'r posibilrwydd o orfod talu premiwm uwch yn golygu bod 40% naill ai yn y broses o werthu, neu yn ystyried gwerthu eu llety gwyliau oherwydd y rheolau newydd.
Mae'n sefyllfa sy'n cael ei disgrifio fel argyfwng gan gadeirydd y gynghrair dwristiaeth Suzy Davies.
Dywedodd: "Dydyn ni ddim yn sôn am ail gartrefi yma. Ni'n sôn am fusnesau bach lleol sy'n gweithio'n galed ac yn cefnogi eu cymunedau.
"Mae'n hawdd iawn i sôn am argyfwng ond dyna sydd gyda ni yn y sector twristiaeth.
"Os ydyn ni'n mynd i golli hanner y llety gwyliau hunanarlwyo yng Nghymru mae'n mynd i gael effaith fawr ar yr economi.
"Bydd awdurdodau lleol yn colli treth wrth i'r busnesau yma gau, a hefyd bydd gyda ni sawl adeilad yn eistedd yn wag - adeiladau sydd ddim yn addas fel tai llawn amser."
'Angen sicrhau cydbwysedd'
Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae twristiaeth yn gwneud cyfraniad pwysig i economi Cymru ac i fywyd pob dydd ein gwlad.
"Fodd bynnag, mae angen sicrhau cydbwysedd priodol.
"Credwn fod gan bawb hawl i gartref teilwng, fforddiadwy i'w brynu neu ei rentu yn eu cymunedau eu hunain er mwyn iddynt allu byw a gweithio'n lleol.
"Mae'r newidiadau i'r rheolau treth lleol ar gyfer llety hunanddarpar ac ail gartrefi wedi'u cynllunio i helpu datblygu marchnad dai decach a sicrhau bod perchnogion eiddo yn gwneud cyfraniad teg i'r cymunedau lle maen nhw'n berchen ar gartrefi neu'n rhedeg busnesau."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd6 Medi 2023
- Cyhoeddwyd28 Gorffennaf 2023