3 llun: Lluniau pwysicaf Beti George
- Cyhoeddwyd
Os fyddai rhaid i chi ddewis tri llun sydd yn cynrychioli eich bywyd chi, pa luniau fydden nhw?
Y ddarlledwraig Beti George sy'n trafod rhai o'i hoff luniau gyda Cymru Fyw yr wythnos yma.
Iestyn, fy mab, pan oedd e'n rhyw 18 mis oed a Modlen y Newfoundland. Y ci anwylaf fu erioed. Ond pan fydden ni'n mynd i nofio yn un o draethau Gŵyr fe fuase hi'n boendod gan ei bod yn trio'n hachub ni. Roedd y brîd yn cael ei ddefnyddio i'r perwyl hwnnw. Yn y llyfr gwreiddiol, Peter Pan gan J M Barrie, ci Newfoundland oedd Nana oedd yn gwarchod y plant - fel roedd Modlen yn gwarchod Iestyn.
Y ffrind fu'n gwmni i mi am ryw bedair blynedd. Fe ymddangosodd yn syth bron wedi i mi golli David (cymar Beti fu farw yn 2017). Fe fuase wrth ffenest y stafell wely bob bore wrth i mi godi, ac yna deuai rownd i ffenest y gegin gan wybod y byddai brecwast iddo yntau hefyd. Ac os oedd y drws ar agor, fe fyddai'n camu i fewn yn gwbwl hyderus. Y tro diwetha i mi ei weld, ag yntau wedi nychu druan, oedd yn cael ei erlid o'r ardd gan ei fab.
Fe gefais y fraint o gwrdd â llwyth yr Hadza yn Tanzania fel un o gyflwynwyr cyfres ar S4C yn ymchwilio i'n gwreiddiau. Dim ond rhyw 400 o'r llwyth sy ar ôl yn y Rift Valley sy'n byw yn debyg iawn i'w cyndeidiau dros hanner can mil o flynyddoedd yn ôl. Hela a chasglu. A'r mwnci bach hwn oedd ar y fwydlen y diwrnod hwnnw. A - na - fe wrthodais y cynnig o'i flasu!
Hefyd o ddiddordeb: