Undeb myfyrwyr yn gwahardd crysau glas a 'chinos'
- Cyhoeddwyd
Mae trowsus 'chino' a chrysau glas wedi cael eu gwahardd gan Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd oherwydd "ymddygiad peryglus" gan rai myfyrwyr.
Dywedodd yr undeb y bydd pobl sy'n gwisgo dillad o'r fath - sy'n draddodiadol yn cael ei gysylltu â chlybiau chwaraeon - yn cael eu gwrthod ar nosweithiau Mercher.
Nos Fercher yw'r noson ble mae clybiau chwaraeon fel arfer yn mynd ar nosweithiau allan gyda'i gilydd.
Daw yn dilyn ymddygiad "difeddwl, peryglus a hynod anghyfrifol" gan grŵp o fyfyrwyr gwrywaidd yn y ciw i fynd i mewn i'r undeb ar 4 Hydref.
Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd bod y "cyfyngiadau presennol ar ddillad yn rhai dros dro, heb eu hanelu at grŵp penodol".
Ychwanegon nhw fod y gwaharddiad yn "ymateb yn uniongyrchol i ddigwyddiad diweddar penodol".
"Bydd cefnogi myfyrwyr i gael hwyl mewn modd diogel bob amser yn sylfaenol i'r ffordd rydym yn trefnu ac yn cyflwyno digwyddiadau."
'Gwellhad sylweddol mewn ymddygiad'
Mewn e-bost at aelodau Undeb Athletau y brifysgol, dywedodd Undeb y Myfyrwyr: "Yn ffodus fe lwyddodd staff diogelwch i ymyrryd a gwasgaru'r dorf, ond fe allai'r sefyllfa fod wedi datblygu'n ddigwyddiad mawr."
Dywedodd Undeb y Myfyrwyr eu bod wedi gweld "gwellhad sylweddol mewn ymddygiad yn y ciw" ers cyflwyno'r gwaharddiad.
"Os oes unrhyw un yn gwybod pwy oedd yn gyfrifol am achosi'r digwyddiad yma, rwy'n eu hannog i'w adrodd i staff yr Undeb Athletau fel y gellir delio gyda'r mater," meddai'r e-bost.
"Tra'n bod yn deall nad yw hyn yn ffafriol i bawb, nes ydyn ni'n hyderus fod ymddygiad o'r fath wedi diflannu, byddwn yn parhau gyda'r gwaharddiad."
Dywedodd Prifysgol Caerdydd mai mater i Undeb y Myfyrwyr a'r Undeb Athletau oedd y mater dan sylw.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd3 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd20 Mawrth 2019