Josie Russell: 'Mor brysur' ac yn gyffrous am y dyfodol
- Cyhoeddwyd
Mae gyrfa artist o Wynedd - a gollodd ei mam a'i chwaer mewn ymosodiad erchyll yn yr 1990au - yn mynd o nerth i nerth.
Wrth siarad â Cymru Fyw, dywedodd Josie Russell o Ddyffryn Nantlle fod cyfnod prysur o'i blaen rhwng nawr a'r Nadolig.
"Mae mynyddoedd Eryri a Chymru wedi bod yn gymaint o ysbrydoliaeth ac wedi rhoi lot o syniadau i fi," meddai.
"Dwi mor ffodus i 'neud y swydd dwi'n ei gwneud."
Yn y gorffennol mae hi wastad wedi dweud mai un sydd wedi goresgyn digwyddiad erchyll yw hi yn hytrach na dioddefwr, ac o'i holi dywedodd ei bod yn dal i gredu hynny.
"Dwi'm yn meddwl bod fy ngwaith yn mynd â'm meddwl rhag yr hyn sydd wedi digwydd - bod yn artist yw fy ngwaith i a dwi wrth fy modd."
Cyfres ddogfen ar Sky
Fis diwethaf, cyhoeddwyd y byddai adolygiad o euogfarnau Michael Stone am lofruddiaethau Lin Russell a'i merch Megan yng Nghaint ym mis Gorffennaf 1996.
Roedd hynny dri mis ar ôl i adolygiad blaenorol ddiystyru anfon yr achos i'r Llys Apêl.
Roedd Lin Russell yn cerdded adref o'r ysgol gyda'i phlant ar hyd lôn wledig yn Chillenden, ar ôl symud i fyw yno o Ddyffryn Nantlle, pan ymosodwyd arnyn nhw.
Bu farw Ms Russell, 45, a'i merch chwe blwydd oed, Megan, ond fe oroesodd Josie Russell, a oedd yn naw mlwydd oed ar y pryd.
Yn y cyfamser, mae cyfres ddogfen ar y llofruddiaethau - The Russell Murders: Who Killed Lin & Megan? - newydd ei darlledu ar deledu Sky.
Wrth gael ei holi gan Cymru Fyw, dywedodd Josie Russell ei bod yn ymwybodol o'r datblygiad diweddaraf am Michael Stone, ond doedd hi ddim am ymhelaethu.
Dywedodd ei bod hefyd yn ymwybodol o'r gyfres ddogfen am y llofruddiaethau a bod y cwmni cynhyrchu wedi cysylltu â hi ond nad oedd hi wedi gweld y gyfres.
'50 o gomisiynau'
Arlunydd tecstilau yw Josie ac ers iddi gael gradd mewn graffeg o Barc Menai ym Mangor mae'r galw am ei gwaith wedi tyfu'n aruthrol.
"Does dim modd i mi gael arddangosfeydd ar hyn o bryd gan bod yna gymaint o bobl yn comisiynu gwaith penodol," meddai.
"Mae gen i ryw hanner cant o gomisiynau ar y gweill - nifer ohonyn nhw'n dai pobl a mae llawer yn anfon lluniau o'u hanifeiliaid."
Ers yn gynnar yn ei gyrfa, dywed Josie ei bod yn ymwybodol nad oes yn rhaid i waith celf gostio cannoedd o bunnoedd a nad oes rhaid iddo chwaith fod yn andwyol i'r amgylchedd.
"Dwi'n ailddefnyddio deunyddiau o hyd," meddai, "weithiau dwi'n prynu dillad o siopau elusen, neu weithiau dwi'n defnyddio dillad fy hun - dillad dwi ddim yn eu gwisgo rhagor ac mae lot o bobl yn rhoi dillad i fi - yn enwedig grwpiau patchwork.
"Maen nhw'n torri'r darnau nad ydyn nhw eisiau ac yn cadw bag i fi."
Dad ac Iwan yn helpu
Mae Josie yn byw yn y tŷ yr oedd hi'n arfer byw ynddo pan yn ifanc ac yn byw'n agos iddi mae ei thad Shaun Russell.
"Mae 'nhad yn helpu llawer yn ystod tymor y ffeiriau a fy mhartner Iwan yn dod i gerdded gyda fi ac yn cynnig ambell syniad."
Ond ychwanegodd nad yw'n gwybod "a allwn fod wedi g'neud y cyfan heb y mynyddoedd".
"Mae Cymru wedi rhoi cymaint o syniadau i fi," meddai.
Wrth i'r Nadolig agosáu, mae nifer o'i chwsmeriaid yn disgwyl i'w comisiynau fod yn barod mewn pryd. Cyn hynny, bydd hi'n mynd i nifer o ffeiriau crefft.
"Dwi'n hynod o llym wrth drefnu fy niwrnod," meddai Josie. "Fel arfer dwi'n gweithio 9-5 ond mae'r oriau rŵan yn 12 awr y dydd.
"Dwi'm yn meindio bod yn rhy brysur ond yn ystod yr haf dwi'n dueddol o fod yn llai prysur ac yn mwynhau cerdded y mynyddoedd."
Mae poblogrwydd ei gwaith wedi tyfu yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mae dros 18,000 yn ei dilyn ar ei chyfrif Facebook.
"Mae'n braf cael platfform digidol a chael barn cwsmeriaid ar y cynnyrch - ac yn wir mae'n well gan bobl luniau o robin neu gath ar coasters na golygfeydd.
"Mae o'n help mawr i fi pan mae cwsmeriaid yn dweud be maen nhw'n hoff ohono a dwi innau wrth gwrs, yn hoff iawn o anifeiliaid - mae gen i nifer o gathod."
Ychwanegodd bod cyfnod Covid wedi bod yn llewyrchus iddi ac mai ei bwriad y flwyddyn nesaf yw crwydro Cymru gyfan.
"Ar hyn o bryd does gen i ddim digon o luniau i gynnal arddangosfa gan fod yna gymaint o gomisiynau.
"Ond flwyddyn nesaf dwi'n gobeithio teithio, gwersylla a mynydda yng ngogledd, canolbarth a de Cymru gan gael arddangosfeydd o fy ngwaith hefyd.
"Mae creu lluniau newydd wastad yn brofiad gwbl gyffrous."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd6 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2017