Canolfan Islamaidd: Starmer wedi ein 'cam-gyfleu yn ddifrifol'

  • Cyhoeddwyd
Canolfan Islamaidd De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Ymwelodd Syr Keir â Chanolfan Islamaidd De Cymru

Mae canolfan Islamaidd yr ymwelodd Syr Keir Starmer â hi yng Nghaerdydd wedi dweud bod datganiad a gyhoeddodd ar ôl y digwyddiad wedi eu "cam-gyfleu yn ddifrifol".

Ddydd Sul ymwelodd Syr Keir â Chanolfan Islamaidd De Cymru a chyfarfod â chynulleidfaoedd ac arweinwyr o'r gymuned Foslemaidd.

Mewn datganiad a gyhoeddwyd yn ddiweddarach ar X, Twitter gynt, dywedodd ei fod wedi cwrdd â phobl yn y ganolfan a "chlywed eu poen a'u harswyd ynghylch dioddefaint sifiliaid yn Gaza".

Ychwanegodd: "Fe wnes i'n glir nad yw, a na fu erioed, fy marn fod gan Israel yr hawl i dorri cyflenwadau dŵr, bwyd, tanwydd neu feddyginiaethau.

"Rhaid dilyn cyfraith ryngwladol."

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae Keir Starmer wedi bod yn Arweinydd y Blaid Lafur ac yn Arweinydd yr Wrthblaid ers 2020

Dywedodd hefyd ei fod wedi "ailadrodd ein galwadau i bob gwystl gael ei ryddhau, mwy o gymorth dyngarol i ddod i mewn i Gaza, i'r dŵr a'r pŵer gael eu troi yn ôl ymlaen, a ffocws o'r newydd ar yr ateb dwy wladwriaeth".

'Siom'

Ond yn hwyr ddydd Mawrth, fe gafodd ymateb ei gyhoeddi ar ran y ganolfan gan Gyngor Moslemiaid Cymru yn mynegi "siom" gyda'r datganiad, ac yn ymddiheuro am y "boen a'r dryswch" yr oedd y penderfyniad i gynnal yr ymweliad wedi achosi i "nifer yn y gymuned Foslemaidd".

"Ein bwriad oedd codi pryderon y gymuned Foslemaidd am ddioddefaint y Palesteiniaid," meddai.

"Cafwyd sgwrs gadarn a gonest a oedd yn adlewyrchu teimladau'r cymunedau Mwslimaidd ar hyn o bryd.

"Hoffem bwysleisio bod neges a delweddau cyfryngau cymdeithasol Keir Starmer wedi cam-gyfleu ein cynulleidfaoedd a natur yr ymweliad yn ddifrifol.

"Rydym yn cadarnhau, yn ddiamwys, yr angen am Balesteina rydd."

Pan ofynnwyd iddo am y datganiad, dywedodd llefarydd Llafur ar y Trysorlys, Darren Jones AS, wrth y BBC ei bod yn iawn i Syr Keir gwrdd â chymunedau Moslemaidd ac Iddewig i "wrando ar eu pryderon".

Ychwanegodd fod yr arweinydd Llafur wedi "ail-gadarnhau" polisi'r blaid yn dilyn yr ymweliad.

Cyn yr ymweliad, roedd Syr Keir wedi wynebu beirniadaeth ers ymddangos ei fod wedi dweud bod gan Israel yr "hawl" i dorri cyflenwad dŵr ac ynni Gaza.

Yn ddiweddarach fe eglurodd ei safbwynt, gan ddweud bod gan y wlad hawl i amddiffyn ei hun.

Pynciau cysylltiedig