Llywydd y Senedd yn gwrthod cais am godi baner Israel

  • Cyhoeddwyd
Mae'r Senedd wedi pylu ei goleuadau
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Senedd wedi pylu ei goleuadau gyda'r nos

Mae cais i chwifio baner Israel y tu allan i Senedd Cymru wedi cael ei wrthod gan y llywydd.

Dywedodd Elin Jones, sy'n AS Plaid Cymru, nad oedd hi'n meddwl y dylai gael ei chwifio tra bod Israeliaid a Phalestiniaid yn dioddef.

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Andrew RT Davies, oedd wedi gofyn am y faner, ei fod yn "hynod siomedig".

Mae'r goleuadau yn y Senedd yn cael eu pylu bob nos tan ddiwedd yr wythnos, fel arwydd o barch.

'Gwrthun'

Dywedodd Ms Jones fod y "creulondeb a achoswyd ar bobl Israel gan Hamas" yn "wrthun" ond dywedodd mai heddwch yw'r unig ateb go iawn.

Mae Senedd Cymru wedi chwifio baner Wcráin ers goresgyniad Rwsia o'r wlad ym mis Chwefror 2022, ac wedi goleuo'r adeilad yn lliwiau'r faner yn y nos.

Galwodd arweinwyr y pleidiau yn y Senedd am heddwch mewn areithiau yno ddydd Mawrth.

Mae Llywodraeth y DU wedi gofyn i'w hadeiladau eu hunain chwifio baner Israel tan ddydd Gwener, os ydyn nhw'n gallu gwneud hynny.

Disgrifiad,

Rhyfel Israel-Gaza: Cymraes yn ofni am ffrindiau a chydweithwyr

Daeth y sylwadau gan y llywydd, sydd â gofal am fusnes y Senedd o ddydd i ddydd, mewn llythyr i Mr Davies.

Yn wreiddiol, gofynnodd Mr Davies ddydd Llun i'r adeilad gael ei oleuo mewn glas a gwyn, ac wedi hynny penderfynodd Ms Jones bylu golau'r Senedd yn y nos.

Dywedodd iddi wneud y penderfyniad "i adlewyrchu'r teimlad bod ymosodiadau o'r fath yn cynrychioli cyfnod tywyll arall i ddynoliaeth yn y Dwyrain Canol ac yn destun tristwch mawr i sefydliad democrataidd fel ein un ni".

'Neges gref'

Ysgrifennodd Mr Davies lythyr arall ddydd Mercher, yn dweud bod "adeiladau cyhoeddus yn y DU a ledled y byd yn chwifio baner Israel mewn arwydd o undod" a gofynnodd i'r Senedd wneud yr un peth.

"Byddai chwifio baner Israel y tu allan i'r Senedd yn anfon neges gref ein bod ni i gyd yn sefyll yn erbyn terfysgaeth a'r erchyllterau rydyn ni wedi'u gweld," meddai.

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood/Getty
Disgrifiad o’r llun,

Elin Jones yw llywydd y Senedd

Atebodd Aelod o'r Senedd Plaid Cymru dros Geredigion: "Fel y gwnaethoch chi ac arweinwyr y pleidiau eraill ei nodi mewn cyfres o gyfraniadau meddylgar ar ddechrau trafodion y cyfarfod llawn ddoe, mae'r creulondeb a achoswyd ar bobl Israel gan Hamas yn wrthun ac ni ellir ei gyfiawnhau.

"Roedd pob datganiad hefyd yn meddwl am gyflwr poblogaeth Palestina yn dioddef o ganlyniad i'r trais hwn, yn ogystal ag awydd cyffredin ar draws y Siambr am heddwch fel yr unig ateb gwirioneddol.

"Er gwaethaf yr arswyd o ymosodiadau a lladd cynyddol yn ystod y dyddiau diwethaf sy'n effeithio ar ddinasyddion Israel a Phalestina, mae'r gwrthdaro hwn, fel y gwyddom, yn hirsefydlog ac yn gymhleth.

"Dydw i ddim yn ystyried y dylai baner Israel gael ei chwifio yn y Senedd pan mae pobl ym Mhalestina ac Israel bellach yn dioddef."

Ychwanegodd y llywydd y "bydd y Senedd yn parhau heb olau fel arwydd o barch at bawb sydd mewn profedigaeth ac mewn perygl yn y Dwyrain Canol".

Wrth ysgrifennu ar X, Twitter gynt, dywedodd Mr Davies ei fod yn "hynod siomedig fod llywydd y Senedd" wedi gwneud y penderfyniad.

"Gadewch i ni fod yn glir: roedd hwn yn ymosodiad terfysgol heb ei ysgogi, gan Hamas ar bobl Israel."

Pynciau cysylltiedig