Marwolaethau M4: Babi newydd yn rhoi llawenydd i deulu
- Cyhoeddwyd
Mae mam sy'n dal i alaru wedi i yrrwr dan ddylanwad alcohol a chyffuriau achosi marwolaeth ei dau blentyn wedi disgrifio ei babi newydd fel "anrheg gan y plant".
Bu farw Gracie-Ann Lucas, oedd yn bedair oed, a'i brawd bach tair oed Jayden-Lee wedi i'w car gael ei daro ar lain galed yr M4 gan fan Martin Newman.
Dywed eu mam Rhiannon bod genedigaeth ei merch saith mis oed, Summer-Gracie, wedi helpu'r teulu i ailgydio yn eu bywydau wedi'r gwrthdrawiad.
"Mae hi wedi fy helpu yn emosiynol - anrheg yw hi ganddyn nhw," meddai.
Roedd Summer-Gracie i fod i gael ei geni ar y diwrnod y byddai Gracie-Ann wedi dathlu ei phen-blwydd yn chwech oed, ond fe gyrhaeddodd yn gynnar - ar 30 Mawrth eleni - gan bwyso chwe phwys.
"Mae hi'n edrych fel ei brawd a'i chwaer," dywedodd Rhiannon, 27, wrth y BBC. "Mae hi wastad yn gwenu ac yn fabi da - fel y ddau arall.
"Fydd hi byth yn cymryd lle Gracie a Jayden. Rwy'n ei gweld hi fel anrheg ganddyn nhw.
"Pan mae hi yn ei walker, mae hi'n edrych i fyny ar luniau ohonyn nhw ar y wal.
"Weithiau mae hi'n syllu ar eu lluniau ac yn chwerthin, felly rwy'n dweud 'dyna dy chwaer, y ges ti dy enwi ar ei hôl - a'r bachgen bach wrth ei hymyl yw dy frawd mawr'.
"Ry'n ni'n dweud wrth Summer beth roedden ni'n arfer ei wneud gyda nhw a pha mor dda oedden nhw."
Yfed gwin coch wrth yrru
Roedd Gracie a Jayden wedi bod mewn parti yn Nhredegar, Blaenau Gwent, ble roedden nhw'n byw ac yn teithio ar yr M4 gyda'u mam a'u llys-tad Adam Saunders i ganolfan wyddoniaeth Techniquest yng Nghaerdydd pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad ym mis Chwefror y llynedd.
Roedd Newman wedi cymryd cocên ac wedi yfed fodca a 10 can o seidr tan 05:00 ar fore diwrnod y gwrthdrawiad.
Clywodd yr achos yn ei erbyn ei fod â salwch bore trannoeth ac wedi blino gormod i fynd i'w waith ac fe benderfynodd yn hytrach i yrru i'w gartref yng Nghastell-nedd Port Talbot o Gaerlŷr ble roedd ar ganol job peintio ac addurno.
Roedd wedi yfed gwin coch wrth yrru, ac roedd ddwywaith dros y terfyn cyfreithiol yfed a gyrru. Roedd yna olion cocên hefyd yn ei waed adeg y gwrthdrawiad.
Fe hyrddiodd ei fan Ford Transit i gar Ford Fiesta coch y teulu wedi iddyn nhw stopio ar lain galed y draffordd ar gyrion Casnewydd am fod Gracie'n teimlo'n sâl.
Bu farw Gracie a Jayden yn yr ysbyty ac fe gafodd Rhiannon anafiadau mewnol difrifol a achosodd iddi ofni na fyddai'n gallu cael plentyn arall.
Dywedodd Adam, 28: "Pan gaethon ni wybod bod {Summer-Gracie] i fod i gyrraedd ar ben-blwydd Gracie-Anne, roedden ni'n gwybod y byddai'n fabi arbennig.
"I ni gael plentyn ein hunain ar ôl yr hyn fuon ni drwyddo, mae'n rhywbeth hapus a phositif. Pan gyrhaeddodd Summer wnes i lefain dagrau o lawenydd.
"I mi, Summer yw ffactor allweddol ailgydio yn ein bywydau. Dyna sydd wedi ein cadw i fynd a chael rhywfaint o normalrwydd.
"Yn amlwg wnawn ni fyth anghofio Gracie a Jayden. Byddan nhw wastad yn rhan enfawr o'n bywydau ac yn frawd a chwaer i Summer."
Sut ddigwyddodd y gwrthdrawiad?
Yn rhaglen The Crash Detectives y BBC, mae data electroneg fan Newman yn dangos iddo daro cefn y Ford Fiesta llonydd ar gyflymdra o 57mya. Dim ond dwyeiliad a hanner cyn y gwrthdrawiad y rhoddodd ei droed ar y brêc.
Datgelodd ymholiadau'r heddlu ei fod yn gyrru ar y linell rhwng llain galed a lôn fewnol y draffordd pan darodd y cerbyd.
Dangosodd lluniau CCTV yr M4 fod Newman wedi gyrru'r fan yn afreolaidd yn yr eiliadau cyn y gwrthdrawiad.
Amlygodd cofnodion ffôn symudol iddo wneud neu dderbyn 37 o alwadau o fewn dwy awr a hanner wrth yrru o Gaerlŷr i Gasnewydd, a hynny, yn ôl ymholiadau, heb ddefnyddio technoleg di-ddwylo.
Dywed yr heddlu bod Newman, oedd ag euogfarnau blaenorol am yfed a gyrru ac am ddefnyddio ffôn wrth y llyw, yn ffrydio cynnwys YouTube a Spotify.
Cafodd ddedfryd o dros naw mlynedd o garchar ar ôl pledio'n euog i ddau gyhuddiad o achos marwolaeth trwy yrru'n beryglus.
'Fe chwalodd fywydau'
Mae ffigyrau swyddogol yn amcangyfrif bod 220 o bobl yn marw bob blwyddyn ar ffyrdd Prydain oherwydd yfed a gyrru (15% o'r holl farwolaethau ffordd) a tua 80 oherwydd gyrru dan ddylanwad cyffuriau.
"Dychmygwch dweud wrth eich merch fod ei dau blentyn wedi marw," dywedodd tad Rhiannon, Jason Lucas. "Dyna fu'n rhaid i mi wneud.
"Fe chwalodd fywyd fy merch, fy mywyd i, bywyd pawb. Aethon ni drwy uffern a fydden i ddim eisiau i unrhyw un arall fynd trwy hynny.
"Mae yna bobl twp sy'n dal yn yfed a gyrru nawr. Plîs stopiwch yfed a gyrru. Meddyliwch am eraill. Gallai fod eich plentyn neu eich anwyliaid chi tro nesaf."
Dymuna Rhiannon i yrwyr feddwl am bobl eraill cyn gyrru, gan gynnwys yn y dref ble mae hi'n byw.
"Mae yna bobl hyd yn oed yn Nhredegar wnaiff jest mynd i'r car a gyrru yn feddw," dywedodd.
"Dyw e ddim yn iawn ac rwy' wedi mynd at nifer o bobl a dweud 'ry'ch chi'n mynd i golli rywun un diwrnod'.
"Weles i fachgen yn gyrru [ac] ar y ffôn yn ddiweddar a gwnes i weiddi arno i ddod oddi arno achos mae'n mynd i wneud niwed i rywun... fe gododd ei fysedd arna'i, fel peta'i'n meddwl 'be wyddost ti?'
"Gobeithio bydd pobl yn gweld o le rwy'n dod."
Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mai 2022
- Cyhoeddwyd8 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2022