'Risg i fyrddau iechyd Cymru orwario £800m'

  • Cyhoeddwyd
Modelau meddygon ar gyfrifiannell

Gall BBC Cymru ddatgelu bod yna risg y bydd gwasanaeth iechyd Cymru wedi gorwario dros £800m erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon.

Daw'r wybodaeth i'r amlwg wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi bod pob un o'r saith bwrdd iechyd yng Nghymru bellach ar lefel uwch o oruchwyliaeth yn sgil pryderon am "yr heriau ariannol eithafol maen nhw'n eu hwynebu".

Mae'r gweinidog iechyd wedi rhybuddio y bydd "penderfyniadau anodd" i'w gwneud i daclo'r "gorwario aruthrol".

Ond mae Eluned Morgan yn mynnu y dylai byrddau iechyd ddod o hyd i doriadau sy'n achosi'r "niwed lleiaf i gleifion."

Yn y gorffennol, mae'r gweinidog wedi rhybuddio bod y GIG yn ei ffurf bresennol yn "anghynaladwy".

Dywedodd Eluned Morgan bod y sefyllfa'n "siomedig".

"Nid ydym yn gwneud y penderfyniadau hyn yn ysgafn ac mae'n adlewyrchu'r sefyllfa ariannol anodd iawn rydym ynddi, o ganlyniad i chwyddiant a chyni, a'r heriau sy'n effeithio ar fyrddau iechyd.

"Rydym yn gweld pwysau gweithredol, rhestrau aros hir, a sefyllfa ariannol eithriadol heriol yn y GIG - ond nid yw hyn yn unigryw i Gymru."

'Storm berffaith'

Yn ôl prif weithredwr Cyd-ffederasiwn y GIG yng Nghymru mae'r gwasanaeth yn wynebu ei sefyllfa ariannol mwyaf anodd yn ei hanes, yn ceisio ymateb i "storm berffaith" o gynnydd mewn galw a chostau cynyddol.

Mae'r corff sy'n cynrychioli byrddau iechyd yn un o 32 sefydliad sy'n galw am "sgwrs genedlaethol gyhoeddus" ar ddyfodol gwasanaethau iechyd a gofal.

Yn ôl cyfrifon swyddogol a gyhoeddwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru wythnos diwethaf, roedd y saith bwrdd iechyd gyda'i gilydd wedi gorwario £150m yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf hyd at Ebrill 2023.

Ond nôl yn y gwanwyn, roedden nhw'n rhybuddio Llywodraeth Cymru yn eu cynlluniau y byddai'r gorwario yn gallu bod lawer uwch - tua £650m.

Mae astudiaeth BBC Cymru'n awgrymu y gallai hyn godi i dros £800m - oni bai bod y byrddau'n dod o hyd i arbedion mawr yn ystod y flwyddyn ariannol hon.

Hwn fydd y gorwariant mwyaf erioed yn hanes gwasanaeth iechyd Cymru.

line break

Pa mor bell aiff £800m o fewn GIG Cymru?

Er mwyn rhoi'r symiau ariannol mewn cyd-destun, dyma ambell gost i GIG Cymru:

  • £358m oedd cost codi Ysbyty Athrofaol Y Faenor - ysbyty mwyaf newydd Cymru - yn Llanfrechfa, ger Cwmbrân;

  • Mae Llywodraeth Cymru'n gwario ychydig dros £10bn y flwyddyn ar iechyd a gofal cymdeithasol;

  • Tua £4.5bn yw cost cyflogau'r 94,000 o aelodau staff sy'n gweithio i GIG Cymru.

line break
Huw Thomas, cyfarwyddwr cyllid Hywel Dda
Disgrifiad o’r llun,

Huw Thomas yw cyfarwyddwr cyllid Bwrdd Iechyd Hywel Dda

Un bwrdd iechyd sy'n agored am eu gorwariant yw Hywel Dda. Er bod y bwrdd wedi cynllunio i orwario £112.9m, mae eu cyfarwyddwr cyllid yn cydnabod bod y gwariant eleni wedi pasio hynny yn barod.

"Hon yw'r wasgfa fwyaf fi wedi gweld erioed yn fy ngyrfa i yn sicr ers datganoli," meddai Huw Thomas.

"Os edrychwn ni ar gostau ynni yn benodol fan hyn yn Glangwili… mae'n costau ynni ni wedi cynyddu o rhyw £5m ddwy flynedd nôl i £14m eleni. Felly mae'r cynnydd 'na'n gynnydd enfawr ar draws y bwrdd iechyd."

Sgaffaldiau yn Ysbyty Glangwili
Disgrifiad o’r llun,

Mae costau ychwanegol i'w hystyried o ran isadeiledd ysbytai, fel Ysbyty Glangwili, sydd rywfaint yn hŷn

Ychwanegodd Mr Thomas fod costau ychwanegol o ran gwella isadeiledd ysbytai, fel Ysbyty Glangwili, sydd rywfaint yn hŷn.

"Mae'r gwaith o edrych ar ein isadeiledd a gweld beth allwn ni wneud i wneud hwnnw'n fwy effeithlon yn hynod o bwysig," dywedodd.

"Yn amlwg ry'n ni yn gweld y pwysau yna yn lleol ac er falle na fydd y gwasanaeth cyhoeddus yn rhedeg mas o arian mae hwn yn her i ni i geisio cael rhyw fath o falans rhwng anghenion y cyhoedd, anghenion ein cleifion ni ond hefyd ein dyletswydd ni tuag at y trethdalwr."

'Sefyllfa ddifrifol'

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn beirniadu sefyllfa ble mae "pob bwrdd iechyd yng Nghymru nawr dan ryw fath o ymyrraeth gan y llywodraeth oherwydd perfformiad gwael".

Yn ôl eu llefarydd iechyd, Russell George, mae'n "bositif bod y Gweinidog Iechyd Llafur yn cymryd rhyw gamau trwy gydnabod cyflwr enbyd GIG Cymru".

Ond mae'n dweud nad yw'n ffyddiog "o weld cyn lleied o welliannau mewn byrddau iechyd sydd eisoes yn cael eu monitro, y bydd llawer yn newid yn y misoedd nesaf".

Mae llefarydd iechyd Plaid Cymru, Mabon ap Gwynfor AS, yn honni fod y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, wedi "colli gafael ar y sefyllfa" ar draws Cymru.

"Mae pob bwrdd iechyd yng Nghymru bellach dan ryw fath o ymyrraeth. Mae hyn yn ddifrifol," dywedodd.

"Ni ddylai fod wedi cymryd cyhyd i'r gweinidog sylweddoli difrifoldeb y sefyllfa yr oedd byrddau iechyd ynddi ac i weithredu."

Ychwanegodd fod angen "darparu darlun clir o les ariannol byrddau iechyd ar fyrder" gyda "chynllun sy'n rhoi hyder i gleifion, yn enwedig gyda phwysau'r gaeaf".