Hermon: Bwriad i droi capel yn gaffi a fflatiau fforddiadwy

  • Cyhoeddwyd
Capel Bryn MyrnachFfynhonnell y llun, Cris Tomos
Disgrifiad o’r llun,

Mae Capel Bryn Myrnach yn Hermon wedi bod ar gau ers tua blwyddyn oherwydd difrod i'r to

Mae gwaith wedi dechrau i drawsnewid hen gapel yn Sir Benfro i fod yn ganolfan dreftadaeth, caffi a fflatiau fforddiadwy.

Gyda chymorth ariannol o £21,000 drwy brosiect Perthyn Llywodraeth Cymru, y nod yw datblygu hen gapel Bryn Myrnach yn Hermon er budd y gymuned.

Mae'r gymuned ar fin prynu'r adeilad, sydd wedi bod ar gau ers tua 12 mis yn sgil difrod i'r to.

Bellach mae swyddogion prosiect wedi'u penodi, cynlluniau pensaernïol wedi'u creu ac archwiliadau safle wedi'u cynnal.

Dywedodd Cris Tomos, cydlynydd Prosiect Perthyn, ei bod hi "mor bwysig bod cymunedau lleol yn cael y cyfle i gadw a defnyddio asedau lleol ar gyfer mentrau lleol".

Dyfarnwyd y cyllid drwy gynllun Grantiau Bach Prosiect Perthyn - a'r nod yw helpu i greu cyfleoedd economaidd, darparu tai fforddiadwy o dan arweiniad y gymuned a chefnogi cymunedau Cymraeg sydd â dwysedd uchel o ail gartrefi.

Mae dros 20 o grwpiau eisoes wedi elwa o'r cynllun.

Disgrifiad,

Cris Tomos, cydlynydd Prosiect Perthyn yn trafod y prosiect

Dywedodd Mr Tomos, sy'n byw yn Hermon, wrth raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru eu bod wedi penderfynu i greu ymddiriedolaeth i gadw'r capel fel "adnodd cymunedol".

"Mae'n mynd 'nôl rhyw flwyddyn pan oedd yr aeldoau'n gweld bod y to yn mynd yn wael iawn ar y capel ac yn gorfod penderfynu beth i wneud ac yn anffodus penderfynu bod yn rhaid cau achos bod dim digon o arian i wneud y gwaith.

"Ond yn lle ei roi e ar y farchnad a gwerthu fe i bwy bynnag, penderfynu wedyn 'ny i greu ymddiriedolaeth ar gyfer edrych i ail wneud y capel, cadw fe fel adnodd cymuendol ar penderfynaid i fentro am y grantiau'.

"Fel hyn bydd y capel yn cael ei berchnogi gan y gymuned gyfan," meddai.

Bydd fflatiau yn cael eu hadeiladu hefyd ar safle'r capel, meddai, gan fod "cyflenwad tai yn broblem fawr".

Codi arian

Y camau nesaf i'r criw yw i "gynnig rhandaliadau yn y fenter" a "mynd ati i godi arian."

"Os ma' syniadau gan bobl yn y gymuned i achub adeilad cymdeithasol cymunedol, fe allwn ni helpu i wneud hynny".

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles: "Pan fydd capel yn cau, mae'n aml yn golygu bod canolfan gymunedol bwysig yn cael ei cholli.

"Mae'n braf gallu cefnogi'r fenter gyffrous hon a sicrhau y bydd cyfleoedd i bobl fyw a chymdeithasu yn y Gymraeg.

"Mae creu tai fforddiadwy yn gwneud gwahaniaeth mawr i gynaladwyedd ein cymunedau Cymraeg."

Pynciau cysylltiedig