Anghydfod prifathrawon yn dod i ben wedi cynnig newydd
- Cyhoeddwyd
Bydd undeb prifathrawon yn dod ag anghydfod dros gyflogau i ben wedi iddyn nhw dderbyn cynnig newydd.
Mewn pleidlais a gafodd ei chynnal yn ystod hanner tymor, fe wnaeth 74% dderbyn y cynnig newydd.
Mae'r cynnig yn cynnwys cyflog gwell am ddwy flynedd yn ogystal ag addewid o gytundeb llwyth gwaith ac adolygiad cyllid.
Roedd y cynnig cyflog yn gynnydd o 6.5% ar gyfer 2022/23 yn ogystal â thaliad untro 1.5% a chynnydd o 5% ar gyfer 2023/24.
Mae aelodau o Undeb NAHT yng Nghymru wedi bod mewn anghydfod swyddogol ers mis Chwefror, ond bydd y gweithredu yn dod i ben ddydd Gwener.
Ysgolion mewn sefyllfa 'amhosib'
Dywedodd Cyfarwyddwr NAHT Cymru, Laura Doel, bod y camau sydd wedi'u cymryd gan brifathrawon eleni wedi "diogelu'r ddarpariaeth addysg yn fwriadol, ond wedi amlygu heriau sy'n wynebu ysgolion a oedd wedi mynd yn rhy hir heb i neb sylwi arnynt".
Ychwanegodd fod diffyg ariannu ysgolion yn eu rhoi mewn "sefyllfaoedd amhosib lle'r oedd yn rhaid iddyn nhw ddiswyddo staff er mwyn arbed arian".
Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol NAHT, Paul Whiteman na ddylai fod angen protestio "er mwyn cael cytundeb sy'n dderbyniol i'r aelodau ac er budd plant a phobl ifanc yng Nghymru".
"Mae'r cyllid ychwanegol sydd wedi ei sicrhau trwy weithredu yn gymorth mawr i ysgolion."
Dywedodd bod y cytundeb llwyth gwaith hefyd yn hanfodol er mwyn "rhyddhau athrawon a phenaethiaid i ganolbwyntio ar yr hyn sydd wirioneddol yn bwysig sef addysg o'r radd flaenaf i bawb".
Fe dderbyniodd athrawon o undeb NEU gynnig am gyflog gwell ym mis Mawrth yn dilyn streicio.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd24 Mawrth 2023