Gweinidog Iechyd yn 'grac' o glywed beirniadaeth GIG
- Cyhoeddwyd
Mae'r Gweinidog Iechyd yn teimlo'n "grac" bod pobl yn dweud nad yw'r Gwasanaeth Iechyd yn gweithio yng Nghymru, gan ei fod yn gweithio i'r "nifer helaeth o bobl, a'r nifer helaeth yn cael gwasanaeth da".
Dywedodd Eluned Morgan bod 1.5 miliwn o bobl yn cael eu cyfeirio at ysbytai bob blwyddyn, a 1.5 miliwn yn gweld meddyg teulu bob mis.
Wrth drafod y pwysau cynyddol ar y gwasanaeth ar Dros Frecwast, dywedodd hefyd bod cyfrifoldeb ar y cyhoedd i gadw'n iach a pheidio bod dros eu pwysau.
Awgrymodd hefyd mai cyfrifoldeb teuluoedd oedd edrych ar ôl yr henoed, gan adlewyrchu yr hyn a arferai ddigwydd yn yr "hen ddyddiau pan roedd pobl yn gofalu am henoed ac ati".
'Rhan fwyaf yn cael gwasanaeth da'
Fe ddangosodd y ffigyrau diweddaraf dwf arall ym maint rhestrau aros am driniaeth ysbyty.
Roedd 760,300 o driniaethau yn aros i'w cwblhau ym mis Awst - y ffigwr uchaf erioed a 67.5% yn uwch o gymharu â Mai 2020.
Roedd y data hefyd yn dangos cynnydd yn nifer y bobl sy'n disgwyl dros flwyddyn am driniaeth.
Ond dywedodd y gweinidog bod y paratoadau at bwysau'r gaeaf wedi dechrau ym mis Ebrill, a bod llawer mwy o wasanaethau lleol na'r llynedd wedi'u cyflwyno.
"Mae miliwn a hanner o bobl yn cael referral i'n hysbytai ni yn flynyddol, mae miliwn a hanner yn mynd i'r GPs yn fisol yng Nghymru, mewn poblogaeth o dair miliwn o bobl.
"Felly mae'n hala fi'n grac pan mae pobl yn dweud nad ydi'r NHS yn gweithio - y ffaith yw mae'n gweithio i'r nifer helaeth o bobl, ac mae nifer helaeth yn cael gwasanaeth da.
"Mae gyda ni lot fwy o bobl yn gweithio yn y gwasanaeth ambiwlans, mae gyda ni hefyd gwasanaethau urgent primary care centres, ac mae mwy o capasiti yna na'r llynedd... felly mae 'na lot fawr o waith paratoi wedi mynd mewn i'r gaeaf yma."
Ddechrau'r mis fe rybuddiodd prif weithredwr y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru bod y GIG yn cynllunio gorfod ymateb i bwysau cynddrwg os nad gwaeth na gaeaf diwethaf - lle profodd y gwasanaeth y diwrnod prysuraf yn ei hanes.
Ychwanegodd Judith Paget ei bod yn pryderu am lefel y straen sydd eisoes wedi effeithio ar wasanaethau'r hydref hwn.
Dywedodd Ms Morgan mai'r broblem fwyaf mewn gwirionedd yw cael pobl allan o'r ysbyty am nad yw'n bosib cynnal asesiadau ar gyfer pecynnau gofal.
Dywedodd bod cynlluniau newydd wedi gostwng yr amser hwnnw 50%, a bod 760 o welyau cymunedol newydd y llynedd wedi lleddfu'r sefyllfa, ond bod pwysau ariannol yn golygu na fydd modd cynyddu ar y nifer hynny eleni.
Wrth gyfeirio at restrau aros, dywedodd y gweinidog ei bod yn cydnabod eu bod yn codi a bod 14% ychwanegol wedi dod ar y rhestrau aros.
"Beth ni'n drio'i wneud yw canolbwyntio ar y bobl sydd wedi bod yn aros hiraf, ond wrth gwrs, mae'n rhaid i ni hefyd, wastad roi blaenoriaeth i'r bobl sydd angen help ar unwaith," meddai.
Aeth ymlaen i drafod y newid pwyslais mae'n rhagweld sydd angen digwydd gyda'r cyhoedd wrth feddwl am wasanaethau iechyd.
"Rhaid i ni ailbwyso lle mae'r cyfrifoldeb yn aros", meddai.
"Ni gyd yn gwybod bod ysmygu yn wael i chi, bod yfed gormod yn wael i chi, bod bwyta bwyd iach yn dda i chi ac ymarfer corff.
"Mae 60% o bobl Cymru yn obese neu dros eu pwysau, felly mae 'na gyfrifoldeb arnom ni gyd i ofalu am ein hiechyd ein hunain."
Mae hynny'n ymestyn at ofal i'r henoed hefyd, meddai.
"Dwi'n meddwl bod rhaid i ni feddwl i ba raddau ni'n gorfod gofyn i deuluoedd helpu ni mas...
"Mae fyny i unigolion i ystyried sut maen nhw'n gallu helpu - yn enwedig yr henoed dros y gaeaf. Dwi'n meddwl fod hynny'n rhywbeth mae'n rhaid i ni gyd ystyried."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd13 Medi 2023
- Cyhoeddwyd3 Ionawr 2023