Neil Foden: Cyhuddo prifathro o'r gogledd o fwy o droseddau

  • Cyhoeddwyd
Neil Foden
Disgrifiad o’r llun,

Mae Neil Foden bellach wedi'i gyhuddo o naw trosedd yn erbyn chwe achwynydd

Mae prifathro o'r gogledd sydd wedi'i gyhuddo o gam-drin plentyn yn rhywiol, wedi cael ei gyhuddo o chwe chyhuddiad ychwanegol gan bum achwynydd pellach.

Bydd Neil Foden, 66 oed o Hen Golwyn, Sir Conwy, yn ymddangos nesaf yn Llys Ynadon Caernarfon ar 23 Tachwedd.

Mae'r cyhuddiadau diweddaraf yn cynnwys tri chyhuddiad o weithred rywiol gyda phlentyn, ac un cyhuddiad o weithred rywiol gyda phlentyn dan 13 oed.

Cafodd ei arestio'n wreiddiol ym mis Medi, ac mae eisoes yn wynebu tri chyhuddiad, gan gynnwys gweithred rywiol gyda merch rhwng 13 a 15 oed.

Fe gafodd ei gadw yn y ddalfa, ac fe ymddangosodd yn y llys trwy gyswllt fideo o Garchar Berwyn Wrecsam fis diwethaf.

Ar hyn o bryd, mae disgwyl i'r achos yn ei erbyn ddechrau fis Ionawr.

Mae Mr Foden wedi cael ei wahardd o'i swydd fel prifathro.

Pynciau cysylltiedig