GIG Cymru angen gwneud arbedion ychwanegol o £65m

NyrsysFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae byrddau iechyd eisoes wedi rhagweld y byddan nhw'n gorwario o leiaf £650m yn ystod y flwyddyn ariannol hon

  • Cyhoeddwyd

Bydd gofyn i'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru ddod o hyd i ddegau o filiynau o bunnau o arbedion, hyd yn oed ar ôl i Lywodraeth Cymru glustnodi cannoedd o filiynau o gyllid ychwanegol ar ei gyfer.

Mae'r Gweinidog Iechyd wedi gorchymyn byrddau iechyd i ddod o hyd i £65m o arbedion, ar y cyd, er mwyn gostwng eu gorwariant 10%.

Ond mae ‘na bryder y gallai hyn olygu bydd ‘na lai o welyau ar gael mewn ysbytai o'i gymharu â'r llynedd, a hynny yn ystod misoedd anodd y gaeaf.

Ond bydd byrddau iechyd yn derbyn £640m o gyllid ychwanegol gan y llywodraeth.

Daw hyn yn dilyn cyhoeddiad fod ysbyty mwyaf Cymru - yr Ysbyty Athrofaol yng Nghaerdydd - wedi datgan "digwyddiad difrifol" o ganlyniad i straen fawr ar yr uned frys ac "oedi digynsail" o ran trosglwyddo cleifion o ambiwlansys.

'Heriau ariannol aruthrol'

Mewn datganiad ysgrifenedig dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan fod yn rhaid i'r gwasanaeth iechyd ddod o hyd i arbedion oherwydd heriau ariannol aruthrol.

"Mae'r GIG yng Nghymru, fel systemau gofal iechyd eraill, yn wynebu'r pwysau ariannol mwyaf heriol ers sawl blwyddyn," meddai.

"Mae'r galw ar wasanaethau yn parhau i gynyddu, ac mae chwyddiant yn uchel o hyd gan effeithio ar gostau pethau fel ynni a meddyginiaethau ac arwain at bwysau ar gyflogau.

"Yn ogystal, mae'r pandemig a chostau parhaus sy'n gysylltiedig â Covid yn dal i gael effaith."

Mae byrddau iechyd eisoes wedi rhagweld y byddan nhw'n gorwario o leiaf £650m yn ystod y flwyddyn ariannol hon.

Nawr mae ‘na ofyn iddyn nhw leihau'r gorwariant hynny o leiaf 10%.

Beth mae'n ei olygu i fyrddau iechyd unigol?

  • Bydd angen i Fwrdd Iechyd Bae Abertawe ddod o hyd i £8.7m yn ychwanegol i sicrhau bod y gorwariant sy'n cael ei ragweld yn gostwng 10%;

  • Fe fydd angen i Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan arbed £11.3m yn ychwanegol;

  • Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr £13.4m yn ychwanegol;

  • Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro £8.8m yn ychwanegol;

  • Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg £7.9m yn ychwanegol;

  • Bwrdd Iechyd Hywel Dda yng ngorllewin a chanolbarth Chymru - sydd â'r gorwariant mwyaf - £11.4m yn ychwanegol;

  • Bydd angen i Fwrdd Iechyd Powys ddod o hyd i £3.4m arall.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae 'na ofyn i fyrddau iechyd Cymru leihau eu gorwariant o leiaf 10%

Os yw byrddau iechyd yn llwyddo i ddod o hyd i'r arbedion ychwanegol, y disgwyl yw y bydd Llywodraeth Cymru yn cyllido'r gorwariant sy'n weddill.

Fis diwethaf fe gafodd £425m ei gyfeirio at gyllideb iechyd Llywodraeth Cymru o adrannau eraill y llywodraeth.

Mae arian ychwanegol wedi cael ei glustnodi i'r gwasanaeth iechyd yn ogystal o'r gyllideb iechyd.

Y disgwyl yw y bydd y gwasanaeth iechyd yn derbyn £460.2m i ddelio â chostau ynni, chwyddiant, meddyginiaethau ac i lenwi bylchau yn y gweithlu.

Byrddau iechyd yn rhagweld mwy o orwariant

Ond mae BBC Cymru yn deall y bydd rhai byrddau iechyd yn cael anhawster mawr i ddod o hyd i'r toriadau angenrheidiol.

Awgrymodd Bwrdd Iechyd Hywel Dda ym mis Medi fod y sefydliad yn rhagweld y gallai eu gorwariant fod £35m yn fwy na'u cynllun gwreiddiol.

Mewn cyfweliad diweddar â BBC Cymru awgrymodd prif weithredwr Betsi Cadwaladr y gallai'r sefydliad orwario £20m yn fwy na'r disgwyl.

Mae BBC Cymru yn deall fod y sefyllfa ariannol ym Mwrdd Iechyd Aneurin Bevan hefyd yn arbennig o heriol.

Disgrifiad o’r llun,

"Mae'r GIG yng Nghymru yn wynebu'r pwysau ariannol mwyaf heriol ers sawl blwyddyn," meddai Eluned Morgan

Wrth siarad â phwyllgor iechyd y Senedd, dywedodd Eluned Morgan y gallai llai o welyau fod ar gael yn y gwasanaeth iechyd y gaeaf hwn oherwydd yr angen i wneud arbedion.

Mae'r gweinidog wedi galw ar fyrddau iechyd i leihau eu gwariant ar staff asiantaeth dros dro, er enghraifft.

Mae yna bryder y gallai hyn ei gwneud hi'n anoddach i ysbytai agor mwy o gapasiti gwelyau y gaeaf hwn er mwyn ymateb i gynnydd yn y galw gan gleifion sâl iawn.

"Mae'n rhaid i ni fod yn sensitif," meddai Ms Morgan wrth ASau.

"Byddwn ni'n cael amseroedd pan fo'r galw yn chwyddo... ac mae'n bosib y bydd problem yn ymwneud â nifer y gwelyau."

Ond mynnodd bod mwy o welyau yng Nghymru nag yn Lloegr o'i gymharu â maint y boblogaeth.

Yn gynharach yr wythnos hon mynnodd prif weithredwr GIG Cymru, Judith Paget, na fyddai'n caniatáu i fyrddau iechyd roi cleifion mewn perygl yn yr ymdrech i leihau costau.