Busnes Cymraeg dramor: 'Ydy bwys lle mae fy nghod post?'
- Cyhoeddwyd
Mae menyw o'r gogledd sy'n cynnig gwasanaeth i ferched beichiog trwy gyfrwng y Gymraeg o Seland Newydd wedi apelio am gymorth i ddatblygu'r busnes.
Mae Lliwen McRae yn rhedeg busnes Geni Grymus neu hypnobirthing ar-lein, ac mae'n dweud ei bod wedi methu a chael cefnogaeth gan sefydliadau fel Busnes Cymru oherwydd nad yw ei chwmni wedi'i leoli yng Nghymru.
Fe ymfudodd y teulu ddwy flynedd yn ôl, a rhyw flwyddyn yn ôl fe benderfynodd ddechrau busnes yn cynnig cyngor geni grymus i fenywod beichiog a'u partneriaid, ar ôl methu a dod o hyd i wasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg.
"Pryd o'n i'n disgwyl hefo'n nhrydydd plentyn, mi nes i fynd allan i chwilio am gwrs hypnobirthing, sef cwrs geni grymus, cwrs sy'n helpu chi i ddod i ddeall be sy'n digwydd yn y corff yn ystod genedigaeth, ond hefyd dod i ddeall be sy'n digwydd yn feddyliol, ac yn hormonol yn ystod beichiogrwydd a genedigaeth," meddai.
Mae'n dweud bod 'na alw am y gwasanaeth, a hithau wedi cynnig cymorth i tua 60 o gyplau ers sefydlu'r busnes.
"Mae 'na lot o ferched allan yna hefyd sydd ddim yn gwybod beth ydy cwrs geni grymus, ddim yn sylweddoli bod y gwasanaeth yma ar gael iddyn nhw, ac yn fy marn i mae gwneud gwaith ymchwil a pharatoi yn feddyliol - yn ogystal ag yn gorfforol - yn rhywbeth hollbwysig i ferched allu cael y profiad grymus da ni i gyd yn deilwng ohono."
'Ydy bwys beth ydy nghod post i?'
Pan benderfynodd chwilio am gymorth gan sefydliadau busnes yng Nghymru, er mwyn datblygu'r cwmni, dywedodd ei bod wedi cael gwybod na fyddai modd iddi gael help, oherwydd ei lleoliad.
"Dwi wedi cysylltu efo nifer o sefydliadau gwahanol," meddai, "a chael yr un ymateb bob tro yn anffodus - gan nad ydw i yn byw yng Nghymru ei hun, dwi ddim yn deilwng i dderbyn unrhyw fath o gymorth o gwbl ar ran yr ochr busnes.
"Ond fy nadl i ydy - ydy bwys beth ydy nghod post i?
"Mae'r gwasanaeth dwi'n gynnig yn wasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg - gwasanaeth sy'n hollbwysig i ferched, a gwasanaeth lle mae 'na alw amdano fo, ac os ydy'r pandemig wedi dysgu unrhyw beth i ni, hwnnw ydy bo' ni'n gallu gwneud bob dim ar-lein dyddiau 'ma."
Ychydig filltiroedd y tu hwnt i Glawdd Offa, mae siop Cwlwm yng Nghroesoswallt wedi bod yn gwerthu llyfrau a nwyddau Cymraeg ers dros ddegawd.
Mae'r perchennog, Lowri Roberts, yn dweud ei bod hi hefyd wedi cael trafferthion wrth ofyn am gefnogaeth busnes o Gymru yn y gorffennol.
"Yn yr 13 mlynedd ddiwetha' 'da ni heb gael llawer o gefnogaeth o gwbl gan Lywodraeth Cymru, na Busnes Cymru fel rhan o'r llywodraeth," meddai
"'De ni yn cael cefnogaeth da iawn gan Gyngor Llyfrau Cymru - nhw 'di un o'n prif gyflenwyr ni, ac maen nhw'n ystyried ni justfel siop lyfrau Cymraeg arall,just digwydd bod yn Sir Amwythig.
"Ond Busnes Cymru, ddaru fi ofyn iddyn nhw - falle wyth i 10 mlynedd yn ôl - i gael bod yn rhan o'r cyfeiriadur busnes sydd ganddyn nhw - so nes i ddim gofyn am unrhyw beth ariannol neu unrhyw nawdd.
"Ond fe ddywedon nhw achos bo' chi tu allan i Gymru chewch chi ddim bod yn rhan o gyfeiriadur busnes Cymru.
"O'n i'n teimlo'n gry' am hybu'r Gymraeg - mae pob peth 'da ni'n neud yn ddwyieithog, a'r iaith yn ganolog - ond doedd hynny ddim digon da i Busnes Cymru - 'odd lleoliad ar y map yn fwy pwysig, so 'odd hynna'n siomedig iawn."
'Y Gymraeg yn bwysig iawn i'n heconomi'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae busnesau sy'n defnyddio'r Gymraeg yn bwysig iawn i'n heconomi, gan eu bod yn chwarae rhan allweddol yn hyrwyddo'r iaith a chynyddu'r defnydd o'r Gymraeg wrth gyfrannu tuag at nodau Cymraeg 2050.
"Gall busnesau y tu allan i Gymru, lle mai'r Gymraeg yw eu prif iaith, eisoes gael mynediad at y Gwasanaeth Cymorth Busnes Ar-lein a Helo Blod trwy wefan Busnes Cymru.
"Mae'r heriau ariannol enfawr sy'n wynebu cyllideb Cymru ar hyn o bryd yn effeithio ar yr ystyriaethau ynghylch ymestyn y cymorth y tu hwnt i hyn."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Medi 2022
- Cyhoeddwyd18 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd10 Mehefin 2022