Buddsoddiad gwaith dŵr yn hwb i gynllun rheilffordd Y Bala
- Cyhoeddwyd
Mae gobaith y bydd gwaith sylweddol i ehangu gwaith trin dŵr gwastraff yn "codi rhwystr sylweddol" rhag ehangu atyniad twristiaid yng Ngwynedd.
Yn gynharach eleni fe wrthodwyd cais cynllunio i ymestyn Rheilffordd Llyn Tegid i ganol tref y Bala.
Byddai'r cynllun, medd y rheilffordd, yn dyblu nifer y teithwyr o 29,000 i 60,000 y flwyddyn ac yn hwb sylweddol i economi ardal Penllyn.
Un o brif resymau Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i wrthod y cais oedd pryderon dros effaith mwy o ymwelwyr â'r dref ar lefelau ffosffad Afon Dyfrdwy.
Ond gyda gwaith nawr wedi dechrau ar gynllun £6m i gynyddu capasiti y gwaith trin dŵr lleol - gyda'r bwriad yn ei dro i wella ansawdd dŵr afonydd cyfagos - mae gobaith o'r newydd y bydd hwnnw a datblygiadau eraill yn gallu mynd yn eu blaenau.
'Wrth fy modd'
Ar hyn o bryd mae'r trên stêm yn dod i derfyn ym Mhen y Bont, sydd tua chilomedr o ganol tref Y Bala.
Ond ers blynyddoedd mae Rheilffordd Llyn Tegid yn dyheu i godi gorsaf newydd yn agos i'r stryd fawr, ac wedi codi dros £1.4m o roddion tuag at y cynllun fyddai'n costio oddeutu £5.4m.
Er nad yw'r holl gyllid yn ei le, roedd gobaith y byddai caniatâd cynllunio yn cryfhau'r achos i ddenu arian grant ac o ffynonellau eraill er mwyn casglu'r £4m arall.
Roedd swyddogion cynllunio'r parc wedi "cefnogi egwyddor y datblygiad", oedd hefyd wedi denu cefnogaeth llawer o bobl yr ardal.
Ond roedd pryderon, serch hynny, y byddai'r cynnydd yn nifer yr ymwelwyr â'r Bala yn gorlwytho'r gwaith trin carthion, gan arwain at gynnydd yn y ffosffadau sy'n cael eu gollwng i Afon Dyfrdwy, ac felly nid oedd modd argymell caniatáu.
Bellach, gyda Dŵr Cymru'n cadarnhau cychwyn ar y gwaith i gynyddu'r capasiti, mae un o ymddiriedolwyr y rheilffordd wedi croesawu'r datblygiad fel "cam mawr ymlaen" i wireddu'r cynllun.
Dywedodd Julian Birley wrth Cymru Fyw ei fod "wrth ei fodd" ac y bydd yn eu galluogi i fwrw 'mlaen gyda chais cynllunio o'r newydd.
Ond ychwanegodd fod sicrhau caniatâd cynllunio "yn hanfodol" er mwyn gallu parhau â'r cynllun.
"Mae llygredd afonydd yn broblem eang yn y DU ac mae hwn yn gam mawr ymlaen i sicrhau bod y rhan hon o Barc Cenedlaethol Eryri yn parhau'n ddiogel," meddai.
"Rydym yn bwriadu ymestyn Rheilffordd Llyn Tegid i ganol y dref, fyddai'n denu ymwelwyr i'r ardal.
"Gan mai twristiaeth yw'r prif ddiwydiant, mae'n dda gwybod pan fyddwn yn ailymgeisio am ganiatâd cynllunio y dylai'r prif reswm gynt dros wrthod fod wedi'i ddileu."
'Eisoes ar y gweill'
Yn ôl Dŵr Cymru mae'r gwaith ar y safle eisoes wedi dechrau, a bydd yn cynnwys uwchraddio a gosod asedau ac offer newydd i gynyddu faint o ddŵr gwastraff a gaiff ei drin yn y ganolfan.
"Bydd y buddsoddiad hwn yn helpu i wella ansawdd dŵr afonydd a hefyd yn helpu i baratoi ar gyfer twf yn yr ardal yn y dyfodol," medd llefarydd wrth Cymru Fyw.
"Mae'r gwaith yn y gwaith trin yn dilyn buddsoddiad o £500,000 yn rhwydwaith dŵr gwastraff y dref i wella ei berfformiad trwy leihau faint o ddŵr wyneb sy'n mynd i mewn i'r rhwydwaith.
"Mae'r gwaith o ddatblygu gwaith trin dŵr gwastraff Y Bala eisoes ar y gweill a dylai gymryd tua 20 mis i'w gwblhau.
"Bydd y buddsoddiad ar y safle yn cynyddu capasiti a bydd yn elwa'r gymuned leol a'r amgylchedd am ddegawdau i ddod."
Mae'r newydd fod y gwaith nawr ar droed wedi ei groesawu gan gynghorwyr lleol, fydd hefyd, medden nhw, yn galluogi datblygiadau eraill i fynd yn eu blaenau.
"Yn amgylcheddol, bydd y gwaith yn helpu i wella ansawdd dŵr yr afon a fydd yn ei dro yn hwb i fywyd gwyllt ardal Penllyn," meddai'r Cynghorydd Elwyn Edwards, Llandderfel.
"Mae hefyd o fudd i'r gymuned wrth sicrhau y bydd y safle â'r gallu i drin gwastraff, yn wyneb unrhyw dwf mewn poblogaeth, i'r dyfodol."
Ychwanegodd y Cynghorydd Alan Jones Evans, sy'n cynrychioli Llanuwchllyn: "Roeddem wedi treulio cyfnod o amser gyda dyfodol economaidd Y Bala a Phenllyn ar stop oherwydd yr heriau oedd yn wynebu'r dref gyda'r ganolfan wastraff dŵr yn ei ffurf bresennol.
"Dwi'n hynod o falch bod y buddsoddiad yn digwydd a gall y gymuned leol a busnesau'r dref edrych ymlaen at ddyfodol mwy llewyrchus."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2021