Cyn-weithwyr S4C yn 'hapus' wedi diswyddiad Sian Doyle
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-weithiwr S4C wedi dweud ei bod yn "afresymol o hapus" wedi i'r prif weithredwr Sian Doyle gael ei diswyddo, gydag un arall yn dweud mai diwrnod y diswyddiad oedd "y diwrnod gorau ever".
Cyhoeddodd S4C ddydd Gwener diwethaf ei bod yn terfynu cyflogaeth Ms Doyle wedi "penderfyniad anodd ond unfrydol" gan aelodau anweithredol y bwrdd.
Fe darodd hi'n ôl gyda datganiad chwyrn drwy law cwmni cysylltiadau cyhoeddus o Lundain yn dweud iddi gael ei diswyddo'n annheg, iddi wella perfformiad S4C ac nad oedd hi'n ymwybodol o ganfyddiad o fwlio yn ei herbyn.
Dros y misoedd diwethaf, mae Newyddion S4C wedi siarad gyda sawl cyn-aelod o staff yn y sianel Gymraeg oedd yn dweud iddyn nhw adael eu swyddi oherwydd ymddygiad Ms Doyle.
Datgelodd cais Rhyddid Gwybodaeth i 27 aelod o staff adael ym mlwyddyn ariannol 2022/23.
Fe adawodd 15 yn y flwyddyn ariannol flaenorol a 13 yn 2020/21. Yn y flwyddyn ariannol yma, mae 13 wedi cyhoeddi eu bod nhw'n gadael neu yn bwriadu gwneud.
Yn 2022/23, roedd 118 yn gweithio i S4C. Dechreuodd Sian Doyle ei chyfnod fel prif weithredwr ar 1 Ionawr 2022.
'Awyrgylch tocsig'
Dywedodd cyn-brif swyddog cyfathrebu y sianel, Gwyn Williams: "Mae yna staff wedi dioddef yno.
"Ma' 'na staff oedd yn dilyn gyrfaoedd llwyddiannus yno 'di gadael oherwydd yr awyrgylch tocsig yno."
Mae rhai yn galw hefyd am wella llywodraethiant y sefydliad.
Dywedodd Ron Jones, cadeirydd cwmni cynhyrchu Tinopolis: "'Dwi yn meddwl bod yr awdurdod ar fai. Dwi'n meddwl y bod dyle nhw wedi gweithredu'n gynt."
Fel aelod o fwrdd clwb rygbi'r Scarlets, mae'n gweld tebygrwydd rhwng y sefyllfa yn S4C a'r sgandal a rwygodd Undeb Rygbi Cymru yn gynharach eleni.
"Ry'n ni'n araf yng Nghymru i gymryd problemau o ddifrif yn ein sefydliadau cenedlaethol pwysig.
"Ddylai llywodraethiant ddim bod yn anodd. Mae ynglŷn â gwneud pethau synhwyrol yn y ffordd cywir."
Problemau 'ddim yn rhai soffistigedig'
Wrth siarad ar Dros Frecwast ddydd Mawrth, dywedodd fod y problemau yn "dilyn penderfyniad wnaethpwyd rai blynyddoedd yn ôl lle roedd yna bolisi o arwahanrwydd - ble roedd gwahaniaeth mawr rhwng dyletswyddau'r bwrdd a dyletswyddau'r swyddogion".
Dywedodd nad yw'r pwerau sydd gan y bwrdd yn "caniatau iddyn nhw ymyrryd yn ddigon cynnar yn fy marn i - a'r problemau difrifol sy'n codi ar ochr y swyddogion, a dyna dwi'n credu ddigwyddodd fan hyn".
"Felly pan dwi'n son am broblemau llywodraethiant, dyw rhain ddim yn rhai soffistigedig iawn - mae'n bosibl datrys rhain yn weddol fuan."
Ychwanegodd: "Mae'r problemau o fewn S4C yn hysbys i bron i bawb sy'n gweithio yn y diwydiant a rhai tu fas ers o leiaf blwyddyn, a dwi ddim yn credu bod y pwerau yn ddigonol i sicrhau fod gan y Bwrdd y cyfle a'r hawl i ymyrryd yn ddigon cynnar."
Aeth ymlaen i nodi sut mae'r sefyllfa yn effeithio'r sector yn ehangach.
Dywedodd nad yw'n credu bod "sefydliadau yng Nghymru yn cymryd llywodraethiant yn ddigon i'w calon gan feddwl am be' sy'n digwydd".
"Ni'n gweld y perygl trwy y cyfnod hir wnaeth hyn bara yn Undeb Rygbi Cymru, 15 mlynedd falle a mwy... diwylliant tu fewn y corff ddim yn iach, a neb wrth gwrs mewn sefyllfa i ymyrryd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd25 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd24 Tachwedd 2023