Castell Aberteifi 'ar seiliau ariannol cadarn iawn'
- Cyhoeddwyd
Mae cyfarwyddwr newydd Castell Aberteifi wedi dweud bod yr atyniad ar seiliau ariannol cadarn iawn wrth iddo ddechrau ar ei swydd.
Fe fagwyd Meirion Davies ym Mlaen-ffos ger Aberteifi, a fe yw'r pumed person i fod yn gyfarwyddwr ar y castell ers 2012.
Mae'n olynu Jonathan Thomas yn y swydd.
Fe wariwyd £12m ar brosiect adeiladu anferth i drawsnewid y castell - safle'r Eisteddfod gyntaf yn 1176 - gyda £6m yn dod o goffrau Cronfa Dreftadaeth y Loteri.
Cyn hynny, bu'r castell yn adfail am ddegawdau lawer.
Fe godwyd tŷ Sioraidd ar safle hen lys yr Arglwydd Rhys yn 1808, sydd erbyn hyn yn llety i ymwelwyr.
'Aberteifi yn gyrchfan bellach'
Yn ei gyfweliad cyntaf ers dechrau yn y swydd, dywedodd Meirion Davies bod y castell wedi bod yn "broffidiol ers tro" a bod yr "ymddiriedolwyr yn fasnachol yn ei gweledigaeth".
Mae'r castell yn safle aml bwrpas sy'n cwmpasu llety gwely a brecwast a hunanarlwyo ar gyfer hyd at 28 o bobl, bwyty, a lleoliad i gynnal cyngherddau, digwyddiadau a phriodasau.
Mae Mr Davies yn ymuno gyda'r castell ar ôl cyfnod fel prif weithredwr Cymdeithas y Merlod a'r Cobiau Cymreig.
Mae'n gweld cyfle i ddenu mwy o ymwelwyr i aros yn y castell a datblygu rhai atyniadau o fewn y muriau.
"Dwi'n meddwl bod Aberteifi yn gyrchfan bellach. Mae nifer o fusnesau eraill llewyrchus wedi sefydlu yma. Pobl ifanc yn dechrau mentrau newydd," meddai.
"Pan oeddwn i yma yn yr 80au roedd twristiaeth yn bwysig, ond i ryw raddau falle taw dioddef twristiaid roedden ni yn gwneud fel pobl leol!
"Bellach, dwi'n meddwl fod pobl yn croesawu nhw ac ymhyfrydu yn yr economi a'r ffordd maen nhw yn cyfrannu at yr economi.
"Mae'n debyg iawn i fel mae'r Gelli Gandryll ac Arberth wedi datblygu. Dwi'n meddwl bod potensial i ddenu pobl leol ac o bell. Mae cymaint i gynnig iddyn nhw nawr."
Roedd yna gryn feirniadaeth o'r arlwy yn y gyngerdd agoriadol yn 2015, gyda grŵp o Loegr - Bellowhead - wedi eu gwahodd i berfformio.
Ers hynny, mae yna newidiadau mawr wedi bod i aelodaeth Bwrdd Ymddiriedolwyr Cadwgan, sy'n gofalu am y castell, a mwy o bwyslais ar gynnal digwyddiadau Cymraeg ar y safle.
'Safle Cymraeg, Cymreig a dwyieithog'
Mae hynny'n rhywbeth sy'n hollbwysig yn ôl Meirion Davies.
"Mae'n ofnadwy o bwysig. Ni'n byw yng Nghymru. Mae hwn yn safle Cymraeg, Cymreig a dwyieithog," meddai.
"Dathlu hynny dylsen ni fod yn gwneud ac agor y drws i'r rheiny sydd yn ddi-Gymraeg.
"Mae angen hyrwyddo'r gronfa o dalent sydd yma.
"O'n i'n ffodus iawn - roedd Aelwyd Crymych yn ofnadwy o gefnogol i fi pan oeddwn i yn cychwyn fel person ifanc.
"Dwi'n meddwl bod eisiau i ni adlewyrchu mwy o hynny os yn bosib. Mae gymaint o bobl enwog iawn ym maes perfformio neu faes chwaraeon wedi deillio o'r ardal."
Yn ôl Non Davies, cadeirydd Ymddiriedolaeth Cadwgan, mae'n allweddol bod y castell yn parhau i newid a datblygu ffynonellau newydd o incwm er mwyn bod yn gynaliadwy.
"Mae hyn yn heriol - wrth gwrs ei fod e," meddai.
"Mae parhau i ddatblygu yn her i bob sefydliad, yn enwedig fel mae'r economi y dyddiau 'ma.
"Ni'n ffodus bod gyda ni dîm cryf o staff sydd yn deall y safle, ac mae ychwanegu Meirion i'r tîm yn rhoi hyder i ni symud ymlaen.
"Un o fanteision Castell Aberteifi yw bod gymaint o ffynonellau incwm i edrych arnyn nhw a chymaint mwy o botensial i greu ffynonellau newydd o incwm.
"Ni mewn sefyllfa ble ni'n creu elw nawr yn flynyddol. Mae gwaith i barhau i wneud hynny. Mae'n rhaid anelu at hynny blwyddyn ar ôl blwyddyn.
"Yn bersonol dwi'n meddwl taw'r castell oedd y catalydd ar gyfer tref Aberteifi i ffynnu fel mae e heddi. Mae'n bartneriaeth rhwng y castell a busnesau'r dref."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd3 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd9 Hydref 2017