Newid rheolau mewnfudo i bartneriaid yn 'greulon'
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o Wynedd wedi disgrifio newid i bolisi mewnfudo'r DU fel un "creulon", wrth iddo wynebu'r posibilrwydd na fydd ei gariad yn gallu symud i Gymru o Frasil i fyw gydag ef.
Roedd Daniel Griffith yn gobeithio y byddai modd i'w gariad symud draw ato y flwyddyn nesaf, ond ar hyn o bryd ni fydd hynny'n bosib oherwydd y rheolau newydd.
O Ebrill 2024, bydd yn rhaid i ddinasyddion neu bobl sydd wedi setlo yn y DU ddangos eu bod yn ennill £38,700 cyn i bartner o dramor allu symud yma i fyw gyda nhw.
Mae hynny'n gynnydd o dros £20,000 o'i gymharu â'r trothwy presennol, sef £18,600.
Dadl Llywodraeth y DU yw y bydd cynyddu'r trothwy incwm yn lleihau mewnfudo - sydd ar ei lefel uchaf erioed - a sicrhau bod modd i deuluoedd gefnogi eu hunain.
Mae achos Daniel wedi cael ei godi yn San Steffan hefyd, gyda Phlaid Cymru yn gofyn pam fod yn rhaid iddo ddewis rhwng ei bartner a'i wlad.
Mae Daniel Griffith, 30, yn wreiddiol o Bontnewydd ar gyrion Caernarfon ond bellach yn byw yn ardal Ceunant gerllaw.
Cyn i'r pandemig daro fe benderfynodd ddechrau dysgu Portiwgaleg, gan ddatblygu'n "eitha' rhugl" yn ystod y cyfnod clo.
Trwy'r gwersi hynny a siarad ei iaith newydd gyda phobl ar-lein, fe wnaeth Daniel gyfarfod ei gariad.
Wedi i'r cyfnod clo godi aeth allan i Frasil i'w chyfarfod wyneb yn wyneb, ac mae wedi treulio mwy o amser yno ers hynny hefyd.
Er bod y cwpl yn gallu siarad gyda'i gilydd yn ddyddiol, y gobaith oedd y byddai cariad Daniel yn symud i Gymru ddiwedd haf 2024.
'Chwalu'r freuddwyd'
"Fy mwriad oedd trio ei chael hi yma yn y flwyddyn newydd yn permanent, a chreu dyfodol i'n hunain yma, ond mae'r sefyllfa yma wedi chwalu'r freuddwyd yna," meddai.
Bydd cariad Daniel yn gwneud ei hymweliad cyntaf â Chymru dros y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd.
Dywedodd Daniel nad yw wedi dweud wrthi am y rheolau newydd eto am nad yw eisiau ei digalonni, ac y byddan nhw'n trafod y mater wyneb yn wyneb pan fydd hi yng Nghymru.
Ar hyn o bryd mae Daniel yn ennill cyflog o bron i £33,000 y flwyddyn - dros £5,000 yn fyr o'r trothwy newydd o £38,700.
"Dwnim os mai lwcus ydi'r gair, ond dwi efo'r opsiwn o drio ffeindio job ar weekends i drio cyrraedd y trothwy," meddai.
"So dyna'r sefyllfa dwi ynddi - yn y flwyddyn newydd, ar ôl iddi hi fynd 'nôl, dwi am chwilio am ail swydd, a chael digon o oriau er mwyn cyrraedd y trothwy 'na.
"Felly os oes 'na rywun sydd eisiau cynnig swydd i fi, 'sa hynna'n grêt! Ond ma'n g'neud i chdi feddwl 'pam ddylswn i wneud hynna'?"
'Hollol anfoesol'
Mae Llywodraeth y DU yn dadlau fod y trothwy newydd o £38,700 yn cyd-fynd â chyfartaledd cyflog y DU.
Ond yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, £34,963 oedd cyfartaledd cyflog gweithwyr llawn amser yn y DU ym mis Ebrill eleni.
Yn ôl ffigyrau a ryddhawyd fis diwethaf, mae'r cyfartaledd cyflog rhai miloedd yn is yng Nghymru - £32,371.
Mae'r llywodraeth yn rhagweld y bydd y newid i visas teulu yn arwain at 10,000 yn llai o bobl yn mewnfudo i'r DU pob blwyddyn.
Yn y 12 mis hyd at Fehefin 2023 roedd 39,000 o bobl wedi symud i'r DU ar visa o'r math yma.
Mae Daniel yn credu bod y swm newydd wedi ei seilio ar gyflogau yn Llundain, a heb ystyried mannau mwy gwledig fel Cymru.
"Dio'm yn deg codi [y trothwy] £20,000 off the bat fel'na, heb ddim rhybudd, a dim cynnydd cymedrol chwaith," meddai.
"Dio'm yn rhoi cyfle i chdi gynllunio ymlaen. Mae'n hollol anfoesol.
"Be' maen nhw 'di 'neud, fwy neu lai, ydi defnyddio cyflogau Llundain fel baseline, a dydyn nhw ddim yn meddwl am weddill y wlad, lle ma'r median income mor wahanol.
"Dydi o really ddim yn deg."
'Dewis rhwng ei wraig a'i wlad'
Mae aelod seneddol Daniel yn Arfon, Hywel Williams o Blaid Cymru, wedi codi ei achos yn San Steffan yr wythnos hon wrth drafod y rheolau newydd.
"Bydd y newid yma yn y trothwy cyflog yn cael effaith ar bobl go iawn, teuluoedd go iawn," meddai.
Yn crybwyll achos Daniel, dywedodd: "Maen nhw'n bwriadu gwneud eu cartref yng Nghymru.
"Mae hi'n aneglur iawn ar hyn o bryd a fydd modd iddynt wneud hynny dan y rheolau incwm newydd.
"Pam ddylai Daniel ddewis rhwng ei wraig a'i wlad?"
Fay Jones, is-weinidog yn Swyddfa Cymru, fu'n ymateb i'r AS Plaid Cymru, ond ni wnaeth hi ateb ei gwestiwn yn uniongyrchol.
Yn hytrach, dywedodd mai "llywodraeth Lafur Cymru - gyda chymorth Plaid Cymru dan y cytundeb cydweithio - sy'n anfanteisio Cymru, yn atal buddsoddiad a swyddi".
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Dywedodd Daniel fod yr ymateb yn un "erchyll".
"Maen nhw wedi dweud wrth bobl sydd ddim yn earnio digon, 'ti rhy dlawd i fod efo'r person ti'n ei garu' achos bo' nhw'n foreign," meddai.
"Mae'n afiach."
'Wedi'i ddylunio i fod yn greulon'
Cyfrifydd ydi gwaith cariad Daniel ym Mrasil, ond dyw sefyllfa'r partner ddim yn ystyriaeth yn y rheolau.
"Mae ganddi hi dŷ i fyw ynddo fo efo fi, mae'n ddigon hawdd iddi ffeindio swydd achos ma' hi'n berson proffesiynol, so dwi'm yn deall be' maen nhw'n trio 'neud yn targedu pobl fel ni," meddai Daniel.
Mae Daniel yn credu bod y llywodraeth, mewn ymdrech i leihau mewnfudo a chael penawdau ffafriol, "ddim yn gweld y bywydau maen nhw'n chwalu - maen nhw justyn gweld ffigyrau".
"Mae'r polisi yma wedi ei ddylunio i fod yn greulon. Maen nhw 'di 'neud o er mwyn i bobl roi'r ffidil yn y to."
Er bod Daniel yn obeithiol y bydd modd i'w gariad symud i Gymru os yw'n llwyddo i gael swydd ychwanegol er mwyn cyrraedd y trothwy newydd, mae achosion pobl eraill yn ei ddigalonni.
"Dwi'n trio bod yn bositif am y peth, achos dwi'n lwcus mewn ffordd 'mod i'n ddigon agos at y trothwy - mae gen i opsiwn," meddai.
"Ond dwi'n teimlo bechod dros y bobl sydd ddim yn gallu g'neud hynna.
"Dwi 'di darllen am bobl ifanc sydd isio symud gwlad achos bo' nhw ddim yn gweld dyfodol i'w hunain mewn cymdeithas fel'ma."
Yn ogystal â dadlau bod y trothwy'n cyd-fynd â chyfartaledd cyflog y DU, yn gynharach yn yr wythnos, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU bod modd anwybyddu'r trothwy newydd "mewn amgylchiadau eithriadol ble byddai goblygiadau annheg ar berson sy'n gwneud cais, eu partner, plentyn neu aelod arall o'r teulu".
Ychwanegodd y llefarydd bod cynilion a budd-daliadau hefyd yn gallu cael eu hystyried wrth wneud cais, er mwyn dangos bod modd cefnogi'r partner.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2023