Arweinydd Llafur: Eluned Morgan AS ddim am sefyll

  • Cyhoeddwyd
Eluned Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Eluned Morgan AS ei bod hi am ganolbwyntio ar y gwasanaeth iechyd am y tro

Mae'r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan AS, wedi cadarnhau na fydd hi'n sefyll i fod yn arweinydd nesaf Llafur Cymru.

Dywedodd mai ei phrif nod am y tro oedd llywio'r gwasanaeth iechyd drwy'r hyn mae'n ei ddisgrifio fel un o'r gaeafau mwyaf heriol.

Hyd yma, dim ond Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething AS, sydd wedi dweud ei fod yn ymuno â'r ras i geisio olynu Mark Drakeford.

Mae gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, ddigon o gefnogwyr i ymuno â'r ornest i arwain Llafur Cymru a dod yn Brif Weinidog, ond dyw e ddim wedi cyhoeddi ei fwriad i sefyll eto.

Fe gadarnhaodd Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, nos Wener na fydd hithau'n ymgeisio, gan ddatgan cefnogaeth i Mr Miles.

Cafodd y ras i arwain Llafur Cymru ei sbarduno ar ôl i Mark Drakeford gyhoeddi ddydd Mercher y bydd yn ildio'r awenau ym mis Mawrth.

Disgrifiad,

Mark Drakeford yn cyhoeddi ei fod yn ymddiswyddo fel Prif Weinidog Cymru

Wrth gyhoeddi nad oedd yn sefyll dywedodd Eluned Morgan ei bod yn gwerthfawrogi'n fawr gyfraniad ymroddgar y Prif Weinidog, Mark Drakeford, i Gymru a'i gefnogaeth iddi hi'n bersonol fel gweinidog.

Ychwanegodd ei bod yn ddiolchgar am bob anogaeth gan Aelodau o'r Senedd, Aelodau Seneddol, cynghorwyr ac aelodau o'r Blaid Lafur i ymuno yn ras yr arweinyddiaeth.

Ond wedi ystyriaeth ddwys ac i roi taw ar unrhyw ddyfalu, meddai, "rwyf wedi penderfynu peidio sefyll i fod yn arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru".

"Yn y cyfnod hwn fy mhrif nod yw parhau i lywio'r gwasanaeth iechyd drwy aeaf a fydd, heb os, gyda'r mwyaf heriol yn sgil y cyfyngiadau ariannol a heriau economaidd sydd wedi'u cyflwyno gan y Ceidwadwyr."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Hannah Blythyn yn cynrychioli Delyn ym Mae Caerdydd ers 2016

Mewn neges nos Wener, dywedodd Hannah Blythyn: "Mewn gwleidyddiaeth fel mewn bywyd, amseru yw popeth.

"Er fy mod yn ddiolchgar am y gefnogaeth sydd wedi ei roi i mi ar draws y mudiad Llafur, ar ôl ystyried yn ofalus, rwyf wedi penderfynu cefnogi Jeremy Miles i fod yn arweinydd nesaf Llafur Cymru.

"Mae ein cymunedau ac ein gwlad yn parhau i wynebu cyfnod tymhestlog gyda phwysau ariannol digynsail ar ein gwasanaethau cyhoeddus...

"Rwy'n credu mai Jeremy yw'r person cywir i'n harwain trwy'r heriau yma ac i symud ein gwlad ymlaen."

'Pwysig cael menyw yn y ras'

Yn gynharach yn yr wythnos dywedodd y Cwnsler Cyffredinol a Phrif Ymgynghorydd Cyfreithiol Llywodraeth Cymru, Mick Antoniw, ei bod hi'n bwysig bod menyw yn y ras.

Ategu'r alwad honno wnaeth aelod dwyrain Abertawe, Mike Hedges: "Dwi'n meddwl bod angen y dewis mwyaf eang posib wrth fynd ati i benodi'r arweinydd nesaf, ac rydyn ni'n bendant angen menyw yn y ras."

Mae yna 17 o fenywod yng ngrŵp Llafur yn y Senedd ac 13 o ddynion.

Pynciau cysylltiedig