'Sarhad ar-lein yn atal menywod rhag bod eisiau arwain'
- Cyhoeddwyd
Mae ymosodiadau personol ar gyfryngau cymdeithasol yn atal menywod rhag ymgeisio i fod yn arweinydd Llafur Cymru, ôl Mark Drakeford.
Fe ddywedodd Mr Drakeford ei fod yn siomedig nad oes enw menyw yn y ras am yr arweinyddiaeth hyd yma.
Yr wythnos hon fe gyhoeddodd Mr Drakeford y byddai'n ymddiswyddo fel Prif Weinidog Cymru fis Mawrth.
Mae'r enwebiadau ar gyfer arweinydd newydd yn cau ddydd Iau, ond hyd yn hyn, mae'r ddwy fenyw a oedd yn cael eu hystyried ymysg y ffefrynnau i olynu Mr Drakeford - Eluned Morgan a Hannah Blythyn - wedi dweud na fyddan nhw'n ymgeisio am y rôl.
Mae Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, wedi sicrhau digon o enwebiadau gan gyd-aelodau Seneddol i fedru ymgeisio, ac mae disgwyl i'r Gweinidog Addysg, Jeremy Miles, ddatgan ei fwriad i sefyll yr wythnos nesaf.
Wrth siarad ar raglen Politics Wales ddydd Sul fe ddywedodd Mr Drakeford ei fod yn "siom".
"Byddai'n grêt gweld menyw ar y rhestr oherwydd 'mod i'n credu mewn cynnig cyfleoedd i bobl o fewn y blaid," meddai.
"Ac rydym wedi ei gwneud yn haws i bobl allu ymgeisio yn ystod y bum mlynedd ddiwethaf."
Dywedodd bod nifer o resymau bod merched yn peidio â chynnig eu henwau ar gyfer y rôl, ond nad yw diffyg talent o fewn y Blaid Lafur yn un ohonynt.
"Mae'n fyd caled allan yna mewn gwleidyddiaeth, gyda chyfryngau cymdeithasol a phopeth, mae pobl sy'n cynnig eu henwau yn gwybod y byddant yn darged, weithiau, ar gyfer ymosodiadau hynod annymunol a phersonol," meddai Mr Drakeford.
"Mae gennym ni 18 o fenywod a 12 o ddynion yn y grŵp Llafur. Mae criw talentog iawn yno.
"Mae rhai ohonynt yn gymharol newydd i'r byd gwleidyddol ac, o bosib y bydd angen ychydig yn fwy o amser arnynt cyn cael eu cydnabod yn rhan o'r genhedlaeth nesaf o wleidyddion."
Ychwanegodd: "Dyna un o'r rhesymau fy mod yn awyddus i ehangu ar faint y Senedd.
"Bydd criw gwahanol o bobl yn golygu enwau newydd ar gyfer y dyfodol.
"Ac rwy'n eithaf siŵr y bydd menyw eisiau - nid yn unig cynnig ei henw i fod yn Brif Weinidog - ond byddwn yn gweld menyw yn Brif Weinidog Cymru tra 'mod i dal o gwmpas i'w gweld."
Mae disgwyl i arweinydd newydd Llafur Cymru gael ei ethol cyn y Pasg.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd15 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2023