Tom Lockyer wedi ei ryddhau o'r ysbyty wedi ataliad ar y galon

  • Cyhoeddwyd
Lockyer yn ystod y gem ddydd sadwrnFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr amddiffynnwr ei gludo oddi ar y cae hanner ffordd drwy ail hanner y gêm ddydd Sadwrn

Mae amddiffynnwr Cymru, Tom Lockyer, wedi cael ei ryddhau o'r ysbyty ar ôl iddo ddioddef ataliad ar y galon wrth chwarae i Luton ddydd Sadwrn.

Fe gafodd y gêm yn erbyn Bournemouth yn Uwch Gynghrair Lloegr ei gohirio yn fuan wedi i'r chwaraewr 29 oed lewygu ar y cae.

Cafodd driniaeth yn yr ysbyty, gyda Luton yn dweud dydd Sul fod ei gyflwr yn "sefydlog".

Mae'r clwb bellach wedi cyhoeddi rhagor o fanylion ynglŷn â'r hyn ddigwyddodd i Lockyer, gan ddweud bod y digwyddiad dydd Sadwrn yn wahanol i pan lewygodd yr amddiffynnwr yn ystod rownd derfynol gemau ail gyfle'r Bencampwriaeth.

Cafodd yr achos hwnnw ym mis Mai ei ddisgrifio fel ffibriliad atrïaidd - cyflwr sydd yn aml yn achosi curiad calon anghyson a chyflym.

Ychwanegodd Luton, y clwb lle mae Lockyer yn gapten, fod diffibriliwr cardiaidd bellach wedi cael ei osod yn ei fron.