Datgelu rhedwyr dirgel Ras Nos Galan 2023

  • Cyhoeddwyd
Gareth Thomas a Laura McAllister
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gareth Thomas a Laura McAllister wedi cynrychioli eu gwlad mewn Rygbi a Phêl-droed

Mae'r Athro Laura McAllister a'r cyn-chwaraewr Rygbi Gareth Thomas wedi eu datgelu fel y rhedwyr dirgel ar gyfer ras enwog nos Galan.

Ers 1958 mae'r ras blynyddol ei cael ei chynnal yn Aberpennar i goffau'r rhedwr lleol enwog, Guto Nyth Bran.

Mae gwesteion arbennig yn cael eu dewis i gymryd rhan yn y ras bob blwyddyn ond mae eu henwau yn cael eu cadw'n gyfrinach tan y noson.

Yn draddodiadol mae'n nhw'n gosod torch ger bedd y rhedwr hanesyddol.

Mae'r digwyddiad yn denu tua 2,000 o gystadleuwyr bob blwyddyn ac hyd at 10,000 yn gwylio.

Laura McAllister, sef un o'r ddau redwr dirgel, oedd y Cymraes gyntaf i sicrhau lle ar bwyllgor gwaith Uefa.

Mae hi hefyd yn academydd ac yn athro polisi cyhoeddus ym Mhrifysgol Caerdydd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Gareth Thomas 100 o gapiau dros ei wlad

Yn ymuno a hi fydd Gareth Thomas, a enillodd 100 o gapiau i Gymru yn ystod ei yrfa Rygbi dros Ben-y-bont, Caerdydd, Toulouse a Gleision Caerdydd.

Daeth ei yrfa i ben gyda thîm rygbi'r gynghrair Cymru Crusaders cyn ymddeol yn 2011.

'Am garreg filltir'

Dywedodd y Cynghorydd Ann Crimmings, Cadeirydd Pwyllgor y Ras Nos Galan: "Rydym wedi cyrraedd 65 mlynedd! Am garreg filltir!

"Flwyddyn ar ôl blwyddyn mae strydoedd Aberpennar wedi'u llenwi â gwylwyr wrth i redwyr o bob rhan o'r byd gadw'r chwedl yn fyw.

"Pa ffordd well o ddathlu 65 mlynedd na thrwy gael dau o ffigyrau pwysicaf y byd chwaraeon yn niwylliant Cymru i ymuno â ni fel rhedwyr dirgel.

"Mae'r rhedwyr dirgel bob amser yn wledd i'r dorf ac yn ysbrydoliaeth i'r cystadleuwyr ac eleni maent yn sicr yn ysbrydoledig.

"Rwyf mor falch o gael groesawu Gareth Thomas a Laura McAllister i Aberpennar yn 2023."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd miloedd yn gwylio'r ras yn 2022

Mae'r ras nos Galan yn cael ei redeg dros 5km o gwmpas canol tref Aberpennar.

Mae yna ddigwyddiadau rhedeg elitaidd gwrywaidd a benywaidd, yn ogystal â rasus hwyliog a rasus plant.

Yn ôl yr hanes gallai Guto redeg mor gyflym fel ei fod yn dal adar yn ei ddwylo wrth iddyn nhw hedfan.

Wedi iddo redeg ras o Gasnewydd i Fedwas, bu farw ym mreichiau ei gariad, Sian o'r Siop, yn 1737.