Ehangu'r sector niwclear: Wylfa yn un o'r ceffylau blaen

  • Cyhoeddwyd
WylfaFfynhonnell y llun, Christopher Furlong
Disgrifiad o’r llun,

Mae atomfa'r Wylfa'n cael ei digomisiynu ar ôl stopio cynhyrchu ynni yn 2015

Mae atomfa'r Wylfa yn Ynys Môn ymhlith y safleoedd sydd fwyaf tebygol, ym marn arbenigwyr, o gael pwerdy newydd dan gynlluniau Llywodraeth y DU i ehangu'r sector niwclear.

Mae'r llywodraeth wedi cyhoeddi'r cynlluniau ynni niwclear mwyaf mewn 70 mlynedd gyda'r gobaith o gyflenwi trydan ar gyfer chwe miliwn o gartrefi.

Maen nhw'n dweud y byddai atomfa fawr newydd yn pedryblu cyflenwadau erbyn 2050, gan leihau biliau a'r ddibyniaeth ar gyflenwadau o dramor.

Mae'n fwriad hefyd i adeiladu adweithyddion llai erbyn 2050, gan gymeradwyo "un neu ddau" bob pum mlynedd o 2030 ymlaen.

Ond ym marn yr REA (Association for Renewable Energy and Clean Technology) mae angen symud ymlaen yn gynt er mwyn darparu ynni sy'n fwy caredig i'r amgylchedd.

Mae'r mudiad gwrth-niwclear PAWB hefyd yn dadlau bod angen canolbwyntio ar ffynonellau ynni adnewyddadwy, gan ddweud mai methiant bu pob ymdrech hyd yma i leoli adweithyddion niwclear mawr newydd ar safle'r Wylfa.

Ar hyn o bryd, mae ynni niwclear yn darparu tua 15% o anghenion trydan y DU ond fe fydd sawl pwerdy'n cael eu digomisiynu yn ystod y ddegawd nesaf.

Mae'r cynlluniau a gafodd eu cyhoeddi ddydd Iau yn nodi'r angen i godi atomfa newydd o'r un maint â'r un gwerth - £30bn - sy'n cael ei chodi yn Hinkley Point yng Ngwlad yr Haf, ac un arfaethedig yn Sizewell yn Suffolk.

Yn ôl ffynonellau o fewn y diwydiant, fe fyddai'r prif ymgeiswyr yn cynnwys Wylfa a Moorside, Cumbria.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Gwaith adeiladu un o adweithyddion cyntaf Hinkley Point C yng Ngwlad yr Haf

Fe fyddai pwerdy newydd, medd y llywodraeth, yn cefnogi miloedd o swyddi ac yn lleihau gafael Rwsia ar y farchnad fyd-eang.

Dywedodd y Prif Weinidog Rishi Sunak mai ynni niwclear fyddai'r "ateb perffaith i'r heriau ynni sy'n wynebu Prydain".

'Mwy o bendantrwydd'

Yn ôl un sy'n gweithio yn y diwydiant niwclear, mae'r cyhoeddiad yn rhoi "chydig yn fwy o bendantrwydd" i ba gyfeiriad y mae'r llywodraeth yn mynd, ac mae hynny'n "treiddio lawr" i'r sefyllfa ar lawr gwlad.

Dywedodd Huw Brassington wrth raglen Dros Frecwast bod ei gwmni ar fin symud eu swyddfa i ganolfan M-Sparc ar Ynys Môn ac yn gobeithio recriwtio dylunwyr gyda phrofiad yn y diwydiant niwclear.

Mae'r cwmni, meddai, "yn mynd i gadw llygad ar be' sy'n digwydd yng ngogledd Cymru... a 'dan ni'n chwilio i ga'l gwaith o hynna".

Bydd cynyddu'r capasiti fel bod Prydain yn gallu pedryblu cyflenwadau trydan o ynni niwclear yn golygu "lot o waith i bobl bob dydd i gwmnïau bach" fel ei gwmni ei hun.

Ffynhonnell y llun, Horizon
Disgrifiad o’r llun,

Tynnodd Hitachi yn ôl o gynllun Wylfa Newydd yn 2019

Mae Mr Brassington yn hyderus bod y cynlluniau diweddaraf yn rhai realistig, er yn "ymwybodol iawn bod ni wedi bod yma o'r blaen" cyn i gwmnïau Hitachi, ac yna Horizon, atal eu cynlluniau ym Môn yn 2019 a 2021.

"Mae'r context wedi newid, mae'r sefyllfa yn hollol wahanol efo be' sy' wedi digwydd yn Wcráin," dywedodd.

"Ma' pris uranium wedi mynd i fyny... mae pob gwlad isio bod yn self-sufficient... a ma'r technoleg yn newydd hefyd. Mae'r SMR's 'ma [adweithyddion niwclear bychan] efo llai o risg ... mae lot o betha' yn pwyntio i'r ffordd iawn."

Mae Cyngor Môn wedi croesawu'r cyhoeddiad "gyda gobaith gofalus".

Dywedodd yr arweinydd, Llinos Medi, ei bod yn "bwysig ein bod ni rŵan yn gweld gwir fomentwm a gweithredu" yn y maes.

"Rydym yn edrych am sicrwydd, manylion ac amserlenni gan Lywodraeth y DU mewn perthynas â datblygiad yn Wylfa gan fod y posibilrwydd o ddatblygiad niwclear wedi bod ar y gweill ers dros ddegawd bellach."

'Y sector adnewyddadwy yw'r dyfodol'

Dywedodd y mudiad gwrth-niwclear Pobl Atal Wylfa B (PAWB): "Rydym wedi arfer yng ngogledd-orllewin Cymru ers 1988 â chyfres o ymdrechion i godi gorsaf niwclear newydd ar safle'r Wylfa, pob un ohonynt yn fethiant, ac o glywed cyfres o ddatganiadau yn mynegi gobaith bod dadeni niwclear ar fin digwydd.

"Y gwir yw mai dim ond hanner prosiect niwclear newydd sydd wedi'i gwblhau yn Hinkley Point yng Ngwlad yr Haf, a dim arwydd amlwg y gellir ymgymryd â chynllun mawr arall tebyg."

Ychwanegodd: "Ni all ynni niwclear ein gwneud yn hunangynhaliol o ran cynhyrchu trydan. I'r gwrthwyneb, mae'n aruthrol o ddrud ac yn dibynnu ar fuddsoddiadau mawr gan gwmnïau o'r tu allan i Brydain, a mewnforio wraniwm o wledydd lle mae'r cloddfeydd hyn wedi gadael gwaddol o wenwyn amgylcheddol ac effeithiau iechyd angeuol ar weithwyr yn y diwydiant cloddio wraniwm a'r cymunedau o'u cwmpas.

"Mae'r atebion i'n hanghenion trydan i'r dyfodol yn y sector adnewyddadwy sy'n carlamu yn ei flaen yn fyd-eang gan adael ynni niwclear ymhell ar ôl o ran pris, cyflymder cyflawni prosiectau a chynnig atebion go iawn i leihau allyriadau carbon yn sylweddol."

Pynciau cysylltiedig