S4C: Ail bwyllgor seneddol yn galw am gael cadeirydd newydd
- Cyhoeddwyd
Mae pwyllgor o aelodau Senedd Cymru wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU yn galw am benodi cadeirydd newydd i arwain S4C.
Daw ar ôl i Rhodri Williams roi tystiolaeth i Aelodau o'r Senedd ddydd Iau am y trafferthion sydd wedi wynebu S4C dros y misoedd diwethaf.
Ddydd Mercher fe alwodd aelodau'r Pwyllgor Materion Cymreig yn San Steffan am gadeirydd newydd i S4C, er i Mr Williams ddweud wrthyn nhw y byddai'n "hapus iawn" i barhau yn ei swydd.
Fe ategodd hynny yn y Senedd yng Nghaerdydd ddydd Iau, gan ddweud ei fod yn dawel ei feddwl ei fod yn "gwneud y peth iawn" drwy beidio ymddiswyddo.
Ond ychydig oriau wedyn, anfonodd pwyllgor diwylliant Senedd Cymru lythyr at Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU, Lucy Frazer.
"Rydym yn argymell y dylid penodi Cadeirydd newydd i arwain Bwrdd S4C wrth i'r sefydliad geisio adfer ac adnewyddu ei enw da," meddai'r pwyllgor.
Dywed y pwyllgor hefyd yn y llythyr ei fod yn "gwbl annerbyniol nad ydych chi fel Ysgrifennydd Gwladol, nac yn wir eich rhagflaenwyr, wedi gweld yn dda i gwrdd ag arweinyddiaeth S4C, darlledwr gwasanaeth cyhoeddus yn y DU, y mae gennych gyfrifoldeb yn y pen draw dros ei lywodraethiant".
'Syfrdanu'
Dywed y pwyllgor eu bod wedi eu "syfrdanu" o glywed na chafodd ceisiadau am gyfarfod rhwng S4C a'r ysgrifennydd gwladol i drafod y sefyllfa eu derbyn.
"Yn ein barn ni, mae'r difaterwch hwn wedi tanseilio'r egwyddor bod llywodraethiant S4C yn fater sydd wedi'i gadw'n ôl i Lywodraeth y DU," meddai'r llythyr.
Mae'r pwyllgor felly yn annog yr ysgrifennydd gwladol i "sicrhau bod gan Lywodraeth Cymru rôl ffurfiol yn y broses o benodi Cadeirydd nesaf S4C, fel bod cyfrifoldeb ar y cyd rhwng DCMS a Llywodraeth Cymru dros wneud y penodiad".
Llywodraeth y DU sydd â rheolaeth dros ddarlledu yng Nghymru, ac mae'r cadeirydd yn cael ei benodi gan yr Ysgrifennydd Diwylliant.
Nos Iau dywedodd llefarydd ar ran Yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS): "Ers lansio S4C yn 1982 gan Lywodraeth y DU mae'r darlledwr wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr i fywydau a lles siaradwyr a dysgwyr Cymraeg.
"Mae'r llywodraeth yn ehangu pwerau S4C yn y bil cyfryngau sydd ar hyn o bryd ar ei daith drwy'r senedd ac mae wedi cynyddu'r cyllid ers 2022 er mwyn cefnogi datblygiad digidol y sianel.
"Fel y noddwr, mae uwch-swyddogion y DCMS wedi cael cysylltiad cyson ag S4C, mae gohebu cyson wedi bod a nifer o gyfarfodydd wedi'u cynnal rhwng gwenidogion ag arweinwyr S4C."
Nid oedd S4C am wneud sylw am y llythyr.
'Pennod ofnadwy yn hanes S4C'
Mae'r pwyllgor yn ymhelaethu, "credwn fod y digwyddiadau diweddar yn y sianel yn bennod ofnadwy yn hanes S4C.
"Daeth yn amlwg o ddigwyddiadau diweddar y bu methiannau difrifol o ran arweinyddiaeth weithredol ac anweithredol yn y sianel."
Gan gyfeirio at Siân Doyle a gafodd ei diswyddo fel prif weithredwr S4C fis Tachwedd, a Llinos Griffin-Williams a gafodd ei diswyddo fel prif swyddog cynnwys S4C ym mis Hydref, meddai'r pwyllgor, "mae dau uwch arweinydd gweithredol wedi gadael y sefydliad o ganlyniad eisoes.
"Fodd bynnag, nid y tîm gweithredol yn unig sy'n gyfrifol am arwain y sefydliad. Rydym o'r farn bod gan y Bwrdd rôl hefyd o ran darparu arweinyddiaeth.
"Mae enghreifftiau clir lle dylai Cadeirydd y Bwrdd fod wedi bod yn ymwybodol o'r amgylchedd gwaith yn y sianel. Mewn sefydliad o faint S4C, dylai fod wedi bod yn amlwg i'r Cadeirydd bod problemau sylweddol. Dylai'r niferoedd uchel o staff a oedd yn gadael y sianel fod wedi ei rybuddio."
Daeth y pwyllgor i'r casgliad, "mae'r ffaith na sylwodd ar hyn yn awgrymu methiant ar ran y Cadeirydd o safbwynt trosolwg a llywodraethiant".
'Cyfnod anoddaf yn hanes S4C'
Yn siarad o flaen y pwyllgor diwylliant yn gynharach ddydd Iau, fe wnaeth Rhodri Williams gydnabod mai dyma'r "cyfnod anoddaf yn hanes S4C".
Dywedodd bod "llawer o niwed wedi cael ei wneud" i enw da S4C a bod "angen ail ennyn hyder yn y sefydliad".
"Dwi'n rhwystredig ein bod ni ddim wedi deall yn gynt beth oedd dyfnder y problemau a'r pryder oedd gan aelodau staff, ond ar y llaw arall doedd 'na ddim tystiolaeth," meddai wrth Aelodau o'r Senedd.
"Gethon ni rywfaint o dystiolaeth wrth gyfarfod yng Nghaernarfon ym mis Ionawr 2023 fod anesmwythyd - fydden i'n disgrifio fe - ond fy nehongliad i oedd bod staff S4C yng Nghaernarfon yn arbennig yn ystyried eu bod yn cael eu diystyru braidd, eu bod nhw allan ohoni.
"Nid y fath o gyhuddiadau difrifol oedd yn cael eu codi gan Bectu maes o law."
Pan holwyd ef gan yr AS Alun Davies pam nad oedd yn gwybod yn gynt am bryderon nifer o staff S4C, atebodd Mr Williams mai'r rheswm "pam nad oedd neb yn teimlo eu bod yn gallu dod ataf i neu aelod arall o'r bwrdd oedd eu bod nhw ofn y prif weithredwr".
Ddydd Iau, cyn yr ail lythyr yn galw am gadeirydd newydd, dywedodd Mr Williams wrth bwyllgor Senedd Cymru: "Mae unrhyw beth sy'n creu ansefydlogrwydd pellach i'n staff ni ddim yn help i'r staff a ddim yn help i'r sefydliad."
Cyfeiriodd yn benodol at sylw cadeirydd un o gwmnïau cynhyrchu mwyaf Cymru, a ddywedodd na fyddai cael gwared ar fwy o arweinyddiaeth S4C yn helpu'r sianel i symud ymlaen o'i thrafferthion.
Ychwanegodd Mr Williams nad oedd y Pwyllgor Materion Cymreig yn San Steffan wedi dangos "unrhyw bryder" am brofiadau staff S4C.
Roedd yn synnu, meddai, bod "pwyslais" y pwyllgor yn San Steffan ddydd Mercher "i gyd am faterion proses, ac ynglŷn â diwedd y broses yma, dim ffocws o gwbl ar yr hyn y mae staff S4C wedi dioddef".
Beth ydy'r cefndir?
Ym mis Mai 2023 fe gafodd cwmni cyfreithiol annibynnol, Capital Law, ei benodi i ymchwilio i honiadau o fwlio a "diwylliant o ofn" o fewn S4C.
Cafodd y prif weithredwr, Siân Doyle, ei diswyddo gan awdurdod y sianel ym mis Tachwedd oherwydd "natur a difrifoldeb y dystiolaeth" yn ei herbyn - cyhuddiadau mae hi'n eu gwadu.
Cyn hynny, cafodd Llinos Griffin-Williams ei diswyddo o'i rôl fel prif swyddog cynnwys y sianel hefyd wedi honiadau o "gamymddwyn difrifol" mewn bariau yn Ffrainc yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd.
Mae Ms Griffin-Williams wedi gwadu camymddwyn ac yn dweud bod ei diswyddiad yn annheg.
Unwaith eto ddydd Iau, fe wnaeth Mr Williams amddiffyn penderfyniad y bwrdd i beidio dangos adroddiad Capital Law i Ms Doyle a Ms Griffin-Williams cyn ei wneud yn gyhoeddus ar 6 Rhagfyr.
Roedd yr adroddiad - a glywodd dystiolaeth gan 92 o unigolion - yn cynnwys honiadau bod Ms Doyle wedi ymddwyn mewn modd "unbenaethol" ac yn creu diwylliant o ofn.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Ionawr
- Cyhoeddwyd10 Ionawr
- Cyhoeddwyd10 Ionawr