Stopio gwasanaeth bws Llandegla oherwydd terfyn 20mya
- Cyhoeddwyd
Bydd cael gwared ar y gwasanaeth bws o Landegla yn Sir Ddinbych yn sgil y terfyn cyflymder newydd o 20mya yn gwbl "niweidiol" ac yn golygu na fydd rhai yn cymdeithasu o gwbl, medd trigolion lleol.
O ddydd Sul 14 Ionawr dywed cwmni Arriva na fydd y bysiau sy'n teithio o'r Rhyl i Wrecsam yn mynd i Landegla gan bod "hi'n cymryd gormod o amser ar y cyfan i weithredu'r gwasanaeth yn sgil terfyn cyflymder is".
Fe fydd teithwyr felly yn gorfod mynd i'r safle bws nesaf ar yr A525 - safle sydd hanner milltir o ganol pentref Llandegla. Does dim palmentydd ar y llwybr na chwaith golau mewn mannau.
Nos Wener mae trigolion lleol yn cynnal cyfarfod cyhoeddus er mwyn trafod y camau nesaf ac maen nhw'n dweud na fu unrhyw ymgynghori ar y newid.
Hefyd, mae deiseb yn galw am gadw'r gwasanaeth bws wedi'i threfnu.
Dywed Sandra Ellis Rogers o Gyngor Cymuned Llandegla ei bod hi ond wedi clywed am y newid wrth iddi fynd oddi ar y bws ar ei ffordd adref o'r gwaith wythnos diwethaf.
"Gyrrwr y bws ddywedodd wrtha'i. Doedd ganddo ddim llawer o fanylion. Does yna ddim hyd yn oed nodyn yn y cysgodfannau bysiau yn ein hysbysu o'r newid," meddai.
"Fe fydd hyn yn cael effaith niweidiol iawn ar y pentref. Fe fyddwn ni wedi cael ein cau ffwrdd. Mae yma bobl hŷn a phobl ag anableddau sy'n methu gyrru.
"Mae'r bws yn pasio Ysbyty Maelor Wrecsam ac mae pobl yn dal y bws ar gyfer mynd i apwyntiadau. Mae nifer yn defnyddio'r bws i fynd i Ruthun. Sut maen nhw'n mynd i deithio rŵan?"
Dywed Wendy Spires, sydd hefyd yn byw yn y pentref, nad yw rheswm Arriva yn gwneud synnwyr gan bod mynd i Landegla ond yn cymryd pum munud o'r daith.
"Fydd dim modd cynnal bywyd yn y pentref fel hyn - fe fyddwn yn teimlo heb gysylltiad ac wedi'n hynysu."
Dywed Jasmine Rose, sy'n gwirfoddoli yng nghaffi'r pentref, y byddai'r newid yn cael effaith arni hi'n bersonol ond ei bod hi hefyd yn poeni am "bobl fregus".
"Mae gennym bobl sydd â phroblemau symud - fyddan nhw methu mynd i'r arhosfan nesaf.
"Mae'r ffaith bod y bws yn aros yng nghanol y pentref yn eu galluogi i deithio yn ehangach yn y gymuned - i Ruthun a Wrecsam."Dywed llefarydd ar ran Arriva Cymru bod y terfyn cyflymder newydd o 20mya wedi cael "effaith" ar eu teithiau."Mae canlyniadau i'r newid mewn cyflymder wedi bod yn fawr ac yn golygu nad oes modd cyrraedd ar amser.
"Rydym wedi trafod ein pryderon gyda Trafnidiaeth Cymru, Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol. Mae'r mater hefyd wedi cael ei drafod yn y Senedd wedi i ni godi pryderon."
Mae yna newid hefyd i wasanaeth bws arall sef gwasanaeth 51 - fydd y bws ddim yn stopio yn Tweedmill ger Llanelwy bellach er mwyn arbed amser.Dywed AS Gorllewin Clwyd, Darren Millar, ei fod am i Lywodraeth Cymru drafod y mater gydag Arriva Cymru a'i fod yn "rhannu pryderon" trigolion lleol.Dywedodd Carolyn Thomas sy'n cynrychioli Gogledd Cymru yn y Senedd ei bod hi'n poeni am yr "effaith enfawr" y bydd y newid yn ei gael ar drigolion Llandegla.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Ionawr 2024
- Cyhoeddwyd21 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd17 Medi 2023