Meddygon yn dechrau tridiau o streic dros gyflogau

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Dr Lowri Thomas ym mis Ionawr: 'Streicio er mwyn y cleifion'

Ar ddiwrnod cyntaf streic meddygon iau mae pryderon ymysg arweinwyr y gwasanaeth iechyd yng Nghymru am effaith y streic yn ystod un o wythnosau prysura'r flwyddyn.

Ddydd Llun mae meddygon iau ar draws y wlad yn ymuno â'r llinell biced am dridiau fel rhan o ymdrech i sicrhau cyflogau uwch.

Yn ôl Cyfarwyddwr Conffederasiwn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, Darren Hughes, mae arweinwyr y gwasanaeth iechyd yn ymwybodol nad yw'r penderfyniad i streicio yn un hawdd i staff oherwydd yr effaith ar gleifion a chydweithwyr.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, ei bod hi'n cydnabod rhwystredigaeth meddygon iau ond does yna ddim rhagor o arian i'w gynnig.

"Yr unig le allen ni fynd er mwyn dod o hyd i ragor o arian yw gwneud toriadau yn rhannau eraill o'r gwasanaeth iechyd a dydw i ddim yn credu y bydd y cyhoedd yn diolch i ni am hynny," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd meddygon ar streic yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin, ddydd Llun

Mae bron i 4,000 o feddygon iau yng Nghymru - mae'r rhain yn cynnwys y sawl sydd ym mlwyddyn gyntaf eu gyrfa a'r rhai sydd ar fin bod yn ymgynghorwyr meddygol.

O'r 65% o feddygon iau a bleidleisiodd yn ystod y balot ar weithredu diwydiannol y llynedd fe benderfynodd 98% i streicio'r gaeaf hwn.

'Digalon, rhwystredig a blin'

Dywedodd y BMA yng Nghymru bod eu haelodau "wedi cael eu gorfodi i wneud y penderfyniad anodd hwn" oherwydd bod eu cyflogau bron i draean yn llai erbyn hyn, o'i gymharu â 15 mlynedd yn ôl.

Dywedodd Dr Oba Babs-Osibodu a Dr Peter Fahey, cyd-gadeiryddion pwyllgor meddygon iau BMA Cymru: "Nid yw unrhyw feddyg eisiau streicio - roeddem wedi gobeithio y byddai Llywodraeth Cymru wedi deall yn iawn gryfder teimladau meddygon iau yng Nghymru.

"Yn anffodus, mae'r ffaith nad ydyn nhw wedi gweithredu ar y mater hwn wedi ein harwain ni yma heddiw, yn ddigalon, yn rhwystredig ac yn flin."

Disgrifiad,

Sara Dafydd: 'Rhai meddygon emosiynol y tu allan i Ysbyty Glangwili'

Mae un bwrdd iechyd wedi gohirio 80% o lawdriniaethau a 75% o apwyntiadau cleifion allanol yn sgil y streic.

Mae bron i chwarter yr holl feddygon iau yng Nghymru yn gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro sy'n darparu cyfran fawr o driniaethau arbenigol.

Mae Dr Ieuan Davies wedi bod yn ymgynghorydd iechyd yn ne Cymru am 20 mlynedd, ac mae'n gyn-gadeirydd meddygon iau y BMA yng Nghymru.

Dywedodd ei fod yn cydymdeimlo gyda meddygon iau ond efallai y dylent fod wedi cyflwyno eu hachos yn well, meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Dr Ieuan Davies: "Efallai y gallai meddygon iau fod wedi cyflwyno eu hachos yn well"

"Byddai'n well petaen nhw wedi aros tamed mwy ar ôl y ballot cyn cymryd y camau diwydiannol yma," meddai.

"Ond rwy'n cytuno bod angen i'r base salary fynd lan - be fuaswn i wedi hoffi ei glywed mwy clir ydi'r real rhesymau.

"Mae meddyg yn hyfforddi am bump neu chwe blynedd a phan mae'n dod allan o brifysgol mae gydag e ddyled o £100,000 - mae'n bwysig eu bod yn cael sicrhad y bydd cyfle da gyda nhw i ddechrau talu hyn yn ôl ac i ddenu pobl i fod yn feddygon a [sicrhau] bod meddygon yn aros yn y wlad yma."

Dywedodd hefyd y byddai wedi hoffi petai meddygon iau wedi sôn am yr orfodaeth sydd arnynt i weithio oriau ychwanegol am dâl isel.

Mae'n debygol y bydd effaith y streic yn sylweddol iawn.

Er y bydd y gwasanaeth iechyd yn ceisio diogelu gofal brys cymaint â bo modd, gyda meddygon ymgynghorol a staff eraill yn ymgymryd â chyfrifoldebau meddygon iau, fe fydd cannoedd yn llai o lawdriniaethau a miloedd yn llai o apwyntiadau yn digwydd dros y tridiau nesaf o gymharu â'r hyn sy'n arferol.

Ar ôl cael gwybod dyddiadau'r streic ganol Rhagfyr byddai byrddau iechyd wedi bod yn ceisio trefnu llai o apwyntiadau ar gyfer y cyfnod yma.

Yn ôl y Gweinidog Iechyd bydd lefelau gwasanaethau yn debycach i'r hyn sy'n cael ei gynnig yn ystod gwyliau banc - gydag Eluned Morgan yn cydnabod fod hyn yn her aruthrol.

Angen mynd i apwyntiad wedi'i drefnu

Bydd aelodau'r BMA yng Nghymru yn streicio rhwng 07:00 ddydd Llun 15 Ionawr a 07:00 dydd Iau 18 Ionawr.

Mae'r aelodau eisoes wedi cael codiad o 5% gan Lywodraeth Cymru sy'n is na'r 6% sy'n cael ei argymell gan y corff taliadau annibynnol.

Yn Lloegr, mae meddygon iau wedi derbyn codiad gwerth 8.8% ond wedi gwrthod cynnig ychwanegol gwerth 3% ar gyfartaledd.

Yn yr Alban mae cynnig gwell o 12.4% wedi'i dderbyn tra bod pleidlais ar y gweill yng Ngogledd Iwerddon.

Mae pob bwrdd iechyd yn dweud y dylai unrhyw gleifion sydd ag apwyntiad wedi'i gynllunio fynd iddo oni bai bod y bwrdd iechyd yn cysylltu â nhw i'w aildrefnu.

Mae disgwyl i'r streic effeithio ar ysbytai yn bennaf ond gallai rhai meddygfeydd gael eu heffeithio hefyd.

Y cyngor gan fyrddau iechyd yw i bobl ddefnyddio gwefan GIG 111 Cymru, dolen allanol i ddechrau i gael gwybodaeth am y gwasanaeth mwyaf priodol ar gyfer eu hanghenion.