Non Evans yn ail-fyw ei brwydr ar Gladiators
- Cyhoeddwyd
Mae'r rhaglen Gladiators yn ôl ar ein sgrin gyda chenhedlaeth newydd o gystadleuwyr yn barod i wynebu'r her. Un wnaeth ymddangos ar y gyfres wreiddiol yn yr 1990au yw'r cyn-chwaraewr rygbi Non Evans.
Argraff gyntaf o'r rhaglen newydd
O'n i'n edrych 'mlaen gymaint i weld y rhaglen nos Sadwrn ac o'n i bach yn siomedig. Oedd e dal yn wych ond dwi ddim yn meddwl bod e mor dda â'r gyfres yn y 90au pan 'nes i gystadlu.
Falle bod fi bach yn biased - 'nes i fwynhau e ac oedd y Gladiators yn edrych yn grêt ond i fi doedd e ddim mor gorfforol ag oedd e 'nôl yn y 90au a dwi ddim yn meddwl oedd yr eliminator ar y diwedd cweit mor anodd ag oedd e. Dwi ddim yn siŵr os oedd y travelator yn mynd mor glou ag oedd e yn y 90au.
Ond oedd e dal yn wych - lot o bantomein, lot o sbort a grêt i weld e 'nôl ar yr awyr.
Holl bwynt y rhaglen yw 'neud i'r contenders i edrych yn fach a ddim yn gryf iawn ac i'r Gladiators i edrych yn wych. Ac oedd hwnnw'n wir i raddau.
Ond oeddet ti'n edrych ar gêm y gauntlet lle mae'r Gladiator yn dal y pads ac mae'r contender yn gorfod rhedeg trwyddo - yn y 90au oedd e mor anodd i fynd trwy hwnna, oedd y Gladiators yn smasho'r contenders mewn i'r ochrau, ar y llawr. Pethe bach oedd ddim cweit yr un peth.
'Cam' i Non
O'n i bach rhy gorfforol fel contender - o'n i'n chwarae rygbi, yn neud judo, o'n i'n codi pwysau felly o'n i'n gryf ac yn anodd i daclo. Yn powerball, er enghraifft, o'n i'n sgorio basgedi drwy'r trwch yn y canol a roies i lygad ddu i Vogue (y Gladiator).
Daeth e i'r eliminator ac o'n i rhyw bedair eiliad o flaen Audrey Garland, o'n i'n ennill yr holl ffordd rownd. Jest cyn i fi fynd lan yr ail si-so mae John Anderson yn chwythu chwiban a galw fi 'nôl. (Collodd Non yn y gystadleuaeth wedi i ddyfarnwr y rhaglen, John Anderson, honni nad oedd hi wedi rhoi ei throed yn y lle cywir ar y si-so.)
Oeddet ti'n gweld wyneb fy chwaer a'm mrawd yn y gynulleidfa yn dweud 'beth sy'n bod?' Oedd e'n galw fi 'nôl ac Audrey Garland yn pasio fi a ennill. Teledu gwych!
'Nath hi ddim neud yn dda iawn yn y gemau - fi'n neud yn dda yn y gemau, ennill yr holl ffordd rownd, fi'n cael fy ngalw nôl, hi'n pasio a hi'n ennill. Felly oedd e'n deledu da.
Dwi'n cofio gofyn i John Anderson, 'why did you call me back?' Dyma fe'n dweud, 'Non this isn't sport, this is television'.
A dwi dal ddim wedi dod drosto fe 20 mlynedd yn ddiweddarach.
Proses ffilmio'r gyfres
Oedd e'n enfawr. Y flwyddyn o'n i wedi cystadlu, 1997, roedd 26,000 o bobl wedi ymgeisio, mynd trwy'r profion ffitrwydd ac oedden nhw'n dewis 16 merch a 16 bachgen. Felly jest i fynd ar y rhaglen oedd e'n beth enfawr. Wedyn oeddech chi'n mynd lan i Birmingham ac oedd yr holl gyfres yn cael ei ffilmio ym mis Awst.
Oedd e'n cymryd rhyw bump awr i ffilmio'r peth yn y National Indoor Arena yn Birmingham. Oedd pawb eisiau tocyn i ddod i weld Gladiators.
Oedd e'n dipyn o broses.
Nostalgia
Nôl yn y 90au oeddech chi ddim yn gweld pobl cyffredin â chyhyrau mawr fel y Gladiators ond dyddie 'ma mae llwyth o bobl yn mynd i Crossfit ac i'r gampfa. I gymharu â'r 90au mae lot mwy o bobl yn ffit.
Dwi'n credu 'neith y rhaglen yn dda - oedd rhyw chwe miliwn 'di gwylio nos Sadwrn ond oedd rhyw 20 miliwn pan o'n i ar y rhaglen.