Hoff gerddi serch Marred Glynn Jones

  • Cyhoeddwyd
Marred Glynn JonesFfynhonnell y llun, Marred Glynn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Marred Glynn Jones

A hithau'n Wythnos Cariad mae'n gyfle i ddathlu cerddi serch Cymru ac mae Marred Glynn Jones, golygydd y llyfr newydd Cwtsh, wedi rhannu ei hoff gerddi o'r gyfrol am gariad gyda Cymru Fyw.

Meddai Marred: "Mae Cwtsh yn llyfr bach deniadol sy'n ein hatgoffa o rym cariad. Ac mi rydan ni i gyd angen cwtsh mawr a chariad yn y cyfnod anodd hwn yn hanes y byd."

Y dewis cyntaf yw'r gerdd Cariad gan Gwyn Erfyl.

Meddai Marred: "Mae'r gerdd hon yn hyfryd. Ar yr olwg gyntaf, mae'n syml ond mae'r geiriau a ddewiswyd yn ofalus yn creu darlun arbennig o'r cariad mae'r bardd yn ei deimlo tuag at y ferch a'i swynodd."

Cariad

gan Gwyn Erfyl

Gwelais ddawns y darnau arian

Pan fydd yr haul yn golchi'r marian,

Wedyn, oedi yn syfrdandod

Machlud ar y twyn a'r tywod,

Ond fe'm daliwyd gan dy lygaid dyfnion di.

Rhywle draw uwch swae y tonnau -

Galwad gwylan ar y creigiau,

A daw eto falm i'r galon

Wrth noswylio'r sŵn yr eigion,

Ond fe'i ffeiriwn oll am rin dy chwerthin di.

Clywais yno stori'r dryllio,

Y waedd am help a neb yn malio,

Ac yn chwilfriw ar y glannau

Bydd broc môr y torcalonnau,

Ond angor fawr i'm cadw fydd dy freichiau di.

Dewis nesaf Marred yw Rhwng dau glawr gan Sonia Edwards: "Dwi'n hoff iawn o sgwennu cynnil. A dyma a gawn ni yn y gerdd nesaf sy'n cynnig stori i ni - stori o gariad sydd ddim i fod. Does dim tristwch yma ond dathliad distaw o'r cariad sy'n bodoli rhwng dau."

Rhwng dau glawr

gan Sonia Edwards

Rwyt ti'n rhan

o'm rhyddiaith i,

yn rhan o'r llun

sy'n mynd a dod

rhwng dau glawr.

Roedd fy nghalon yn crygu

A rhoddaist iddi gân

ond fiw gweiddi'r geiriau,

dim ond sibrwd eu sïon,

anwylo'u hystyron,

gwrando'n hwian-llais-lleian sy' fel hisian y lli

ac ofn chwalu'r hud sy'n dy glymu i mi.

Rwyt ti'n rhan

o 'nghyfrinach i,

ond brifo braf yw dy garu di.

Mae'r drydedd gerdd yn ddewis sy'n agos iawn at galon Marred: "Cerdd fer nesaf sydd unwaith eto wedi fy swyno. Mae'r geiriau yn dawnsio oddi ar y dudalen (neu sgrin y cyfrifiadur!). Diolch i fy chwaer am ei sgwennu!"

Cyffwrdd

gan Annes Glynn

Y mae Rhywun - wna'i mo'i enwi -

sy'n fy swyno'n lân â'i gerddi,

pe bai'i awen yn gusanau,

canu wnâi ngwefusau innau.

Mae dewis olaf Marred yn gerdd am gariad o fath gwahanol: "A dyma orffen gyda chynildeb unwaith eto. Cariad mam a phlentyn sydd yma a dwi wedi gwirioni ar y pennill olaf, a bysedd y plentyn yn tynnu sbectol ei mam. Mi wnes i grio wrth ei darllen am y tro cyntaf."

Nos Da

gan Sian Northey

Bob nos rhoi'r genod yn eu gwlâu.

Ac yno fe gysgant dan gwiltiau Disney,

lleuad aur ar gotwm glas yn ffin i'w byd.

Yn ddeddfol,

sythaf gynfas,

codaf degan,

rhof lyfr gwaith cartref yn amlwg at y bore,

dant dan obennydd lliw.

Ond heno,

a hithau â'i phaneidiau diddiwedd

yn ddeuddeg heglog ynghlwm wrth ffilm,

gadewais hi.

Pendwmpian yn fy ngwely uwch fy llyfr,

ac eiliad ddwyawr wedyn,

rhwng cwsg ac effro,

rhwng heddiw ac yfory,

synhwyro bysedd ifanc

yn tynnu fy sbectol.

Pynciau cysylltiedig