Bachgen wedi marw ar ôl cael ei wthio'n fwriadol i afon - cwest
- Cyhoeddwyd
Bu farw bachgen 13 oed o ganlyniad i gael ei wthio'n fwriadol i afon gan fachgen arall, yn ôl cwest i'w farwolaeth.
Wrth roi ei ganfyddiadau yng nghwest Christopher Kapessa, dywedodd y dirprwy grwner David Regan nad oedd yn credu y byddai wedi mynd i'r dŵr pe na bai wedi cael ei wthio.
Ond dywedodd y crwner nad oedd yn credu bod "bwriad maleisus" y tu ôl i'r gwthiad, a'i fod yn debygol fod Christopher wedi cael ei wthio gan y bachgen - Jayden Pugh - a oedd ond yn cael ychydig o "hwyl".
"Roedd y gwthiad yn branc peryglus," meddai.
"Ond wnaeth y bachgen oedd yn gyfrifol ddim bwriadu achosi marwolaeth Christopher, ac fe neidiodd e i mewn gyda phlant eraill mewn ymgais aflwyddiannus i'w achub."
Wrth roi canfyddiad naratif, ychwanegodd nad oedd unrhyw dystiolaeth fod y farwolaeth wedi dod "o ganlyniad i unrhyw weithred neu fwriad hiliol".
Roedd y cwest hefyd wedi clywed "pethau anghyson" am allu Christopher i nofio, ond fe ddywedodd y crwner ei fod yn dod i'r casgliad ei fod yn "gallu nofio, ond ddim yn dda".
Roedd teulu Christopher wedi gofyn am ddyfarniad o ladd anghyfreithlon, ond gwrthod hynny wnaeth y crwner gan ddweud y gallai dyfarniad o'r fath gael ei "gamddeall" a gwneud y canfyddiadau yn "llai clir".
Mewn datganiad y tu allan i lys y crwner ym Mhontypridd, fe roddodd mam Christopher, Alina Joseph, deyrnged i'w mab gan ddweud nad oedd "diwrnod yn mynd heibio lle nad yw e yn ein meddyliau".
Ychwanegodd fod y teulu wedi dioddef o "ymarferion hiliol sefydliadol" ers dechrau'r ymchwiliad, a bod Heddlu'r De wedi dangos "rhagfarn" tuag ati fel mam sengl ddu oedd yn byw yn y cymoedd.
"Oherwydd y ffordd wnaethon nhw drin fy nheulu, alla i ddim ymddiried yn yr heddlu," meddai.
Ychwanegodd ei bod hi'n dal i gredu bod ei mab wedi cael ei "ladd yn anghyfreithlon", ac y dylai "fod gyda ni heddiw".
Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod wedi cyfeirio eu hunain at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC), sy'n ymchwilio i ymateb y llu i farwolaeth Christopher Kapessa.
"Rydym yn gobeithio y bydd y craffu annibynnol yma a chanlyniad y cwest yn rhoi mwy o wybodaeth i ni am y materion sydd wedi'u codi am yr achos yma."
Dywedodd yr IOPC bod eu hymchwiliad wedi canfod "rhai ffaeleddau" yn y ffordd y bu'r llu yn delio gyda theulu Christopher, gan ddweud yn enwedig y byddai modd gwella'r cyfathrebu gyda nhw.
Ond dywedon nhw nad oedd y ffaeleddau yn ddigon i gynnal achos disgyblu yn erbyn unrhyw swyddog.
Galw am ailystyried peidio erlyn
Wedi hynny cafwyd datganiad gan gyfreithiwr ar ran y teulu, a ddywedodd bod casgliadau'r crwner yn "cyfiawnhau ymgyrch y teulu".
Ychwanegodd eu bod yn teimlo fod Jayden Pugh wedi bod yn "anonest a chamarweiniol" am yr hyn ddigwyddodd cyn i Christopher fynd i mewn i'r dŵr.
"Rydym nawr yn gwahodd Gwasanaeth Erlyn y Goron i ailystyried eu penderfyniad i beidio ag erlyn," meddai.
Dywedodd Gwasanaeth Erlyn y Goron eu bod wedi penderfynu nad oedd erlyn rhywun "o ddiddordeb cyhoeddus" yn yr achos hwn, a bod hynny wedi cael ei gefnogi gan y Llys Gweinyddol yn 2022.
Beth yw'r cefndir?
Fe glywodd cwest fod Christopher Kapessa wedi disgyn i mewn i Afon Cynon ger Aberpennar yn Rhondda Cynon Taf, ar ôl mynd yno gyda chriw o ffrindiau ar 1 Gorffennaf 2019.
Ar y diwrnod hwnnw, roedd rhai o'r grŵp wedi bod yn neidio i mewn i'r afon o bont gyfagos.
Pan aeth Christopher i mewn i'r dŵr, fe aeth i drafferthion ac fe wnaeth rhai o'i ffrindiau oedd yno neidio mewn i geisio ei achub, ond doedden nhw ddim yn llwyddiannus.
Dywedwyd wrth y cwest fod Christopher wedi tynnu ei grys, ac yn cael hwyl gyda'i ffrindiau, ond nad oedd yn siŵr a oedd am fynd i mewn i'r dŵr.
Dywedodd un tyst oedd yno, Killian Haslam, ei fod wedi clywed Christopher yn dweud nad oedd yn gallu nofio'n dda, ac fe ddywedodd eraill wrth y cwest nad oedden nhw'n credu ei fod yn gallu nofio.
Fe wnaeth un bachgen, Jayden Pugh, wneud cyswllt corfforol gyda Christopher cyn iddo fynd i mewn i'r dŵr.
Dywedodd Jayden Pugh, oedd yn 14 ar y pryd, wrth y cwest ei fod wedi "cwympo" i mewn i Christopher, ac nad oedd wedi ei wthio'n fwriadol gyda'i ddwylo.
Roedd cyswllt, meddai, "ond wnes i ddim ei wthio i mewn". Dywedodd fod y garreg lle roedd Christopher yn sefyll yn wlyb a llithrig.
Cafodd yr alwad 999 gyntaf ei wneud am 17:40, ac roedd yr heddlu, y gwasanaeth tân, y gwasanaeth ambiwlans ac hofrennydd heddlu i gyd yn rhan o'r chwilio.
Cafwyd hyd i Christopher am 19:25, ac fe gafodd ei gludo i'r ysbyty ble cafwyd cadarnhad ei fod wedi marw.
Daeth archwiliad post mortem i'r casgliad ei fod wedi bod yn y dŵr am tua 105 o funudau, a'i fod wedi marw o ganlyniad i suddiad dan ddŵr (submersion).
Ail holi'r tystion
Dywedodd y Prif Swyddog Ymchwilio i farwolaeth Christopher, y Ditectif Brif Arolygydd Matt Powell, wrth y cwest mai'r gred i ddechrau oedd fod Christopher wedi cwympo i mewn i'r dŵr.
Pan ddechreuodd si fynd o gwmpas yn ddiweddarach yn y mis ei fod wedi cael ei wthio, meddai, cafodd y tystion i gyd eu holi eto.
Dywedodd DCI Powell wrth y cwest nad oedd wedi dod o hyd i unrhyw dystiolaeth fod hiliaeth wedi chwarae rhan ym marwolaeth Christopher Kapessa.
Ychwanegodd fod ymgyrch ar y pryd wedi galw am "gyfiawnder i Christopher" gan awgrymu ei fod yn achos tebyg i lofruddiaeth Stephen Lawrence, ond nad oedd wedi dod o hyd i "unrhyw dystiolaeth o gwbl" fod hynny'n wir.
Dywedodd DCI Powell nad oedd yn credu mai mam Christopher, Alina Joseph oedd yn gyfrifol am ryddhau gwybodaeth anghywir i'r cyhoedd drwy siarad gyda'r cyfryngau neu bostio ar y cyfryngau cymdeithasol.
Ond fe wnaeth gwybodaeth anghywir gan y grŵp ymgyrchu, meddai, arwain at "densiynau uwch" yn yr ardal.
Cafodd datganiad gan Ms Joseph hefyd ei ddarllen ar ddiwrnod cyntaf y cwest, ble soniodd hi am flynyddoedd o gamdriniaeth hiliol roedd y teulu wedi ei ddioddef ar ôl symud i dde Cymru o Lundain, gan ychwanegu y byddai'n "ymladd am gyfiawnder" i Christopher.
Yn dilyn marwolaeth Christopher, fe benderfynodd Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) i beidio ag erlyn Jayden Pugh am na fyddai hynny, yn ôl y CPS, o fudd i'r cyhoedd.
Fe wnaeth Ms Joseph herio'r penderfyniad hwnnw yn yr Uchel Lys, a hynny ar ôl iddi gyhuddo'r CPS a Heddlu De Cymru o hiliaeth sefydliadol am beidio ag erlyn.
Ond mewn gwrandawiad yn Llundain ym mis Ionawr 2022, fe wnaeth dau farnwr gefnogi'r penderfyniad i beidio â dwyn achos.
Ym mis Mawrth 2021 fe wnaeth Swyddfa Annibynnol Cwynion yr Heddlu (IOPC) gwblhau eu hymchwiliad nhw i gwynion gan y teulu am Heddlu'r De, ond fydd y canfyddiadau ddim yn cael eu rhyddhau'n gyhoeddus tan i'r cwest ddod i ben.
Wrth ddod â'r cwest i ben, cydymdeimlodd y crwner, Mr Regan, gyda theulu Christopher gan ddweud ei fod yn "wir ddrwg" ganddo am eu colled.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Ionawr
- Cyhoeddwyd10 Ionawr
- Cyhoeddwyd8 Ionawr