Diciâu: Awgrym AS i 'ddod o hyd i fusnes arall' yn 'ysgytwol'
- Cyhoeddwyd
Mae gwleidydd Llafur wedi cael ei beirniadu am awgrymu y dylai ffermydd llaeth gyda heintiau diciâu buchol cyson "ddod o hyd i fusnes arall".
Roedd Joyce Watson, Aelod o'r Senedd dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, yn siarad ar ôl datganiad gan y gweinidog materion gwledig ddydd Mawrth.
Dywedodd undeb ffermio NFU Cymru fod sylw Ms Watson yn "ysgytwol", "gresynus" ac "ansensitif".
Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Samuel Kurtz, ei bod wedi dangos "diffyg empathi llwyr", tra bod Llyr Gruffydd ar ran Plaid Cymru wedi galw arni i ymddiheuro am ei sylwadau "anwybodus ac ansensitif".
Dywedodd Ms Watson yn ddiweddarach ei bod yn "siarad am sawl fferm sydd wedi cael eu heffeithio'n barhaus gan y diciâu, a phwysau parhaus y systemau presennol".
Roedd y Gweinidog Lesley Griffiths wedi bod yn siarad am strategaeth bum mlynedd gyda'r nod o wneud Cymru'n rhydd o'r clefyd diciâu mewn gwartheg erbyn 2041.
Gofynnodd Ms Watson iddi: "Ydych chi wedi edrych ar unrhyw ffermydd sydd â statws diciâu parhaol, ac a ydych chi wedi ystyried y cwestiwn a ddylai'r ffermydd penodol hynny fod yn ffermydd llaeth o gwbl?
"Oherwydd os yw'n wir eu bod nhw mewn statws haint diciâu parhaol, does bosib bod angen iddyn nhw ddod o hyd i fusnes arall?"
Ni atebodd Ms Griffiths y cwestiwn.
Mae rhanbarth Ms Watson - Canolbarth a Gorllewin Cymru - yn cwmpasu llawer o gefn gwlad Cymru yn ardaloedd Powys, Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion.
Wrth ysgrifennu at Ms Watson, dywedodd Roger Lewis o NFU Cymru ei fod yn "wirioneddol drist a siomedig" o glywed ei "sylwadau ansensitif".
"Rwy'n ei chael hi'n anodd rhoi mewn geiriau fy rhwystredigaeth y gallai Aelod o'r Senedd a etholwyd i gynrychioli Canolbarth a Gorllewin Cymru wneud sylwadau mor druenus, mor brin o empathi a pharch tuag at y teuluoedd fferm yn eich etholaeth sy'n mynd drwy'r uffern emosiynol o ddelio ag achos o ddiciâu mewn gwartheg ar eu fferm," ysgrifennodd.
Cytunodd Mr Kurtz fod yr AS Llafur wedi dangos "diffyg empathi llwyr i deuluoedd fferm sy'n dioddef o ganlyniad i ddiffyg cynnydd Llywodraeth Cymru ar ddileu diciâu mewn gwartheg".
Dywedodd Llyr Gruffydd bod sylwadau Ms Watson "yn troi'r gyllell ar adeg pan fo'r sector yn wynebu heriau aruthrol a phwysau digynsail, ac yn anwybodus ac ansensitif".
Dechreuodd Lloegr ddifa moch daear 10 mlynedd yn ôl er mwyn helpu i reoli lledaeniad diciâu mewn gwartheg, ond mae difa wedi'i wahardd yng Nghymru ac mae mwy o ffocws ar brofion ar wartheg.
'Straen enfawr'
Wrth ymateb i'r feirniadaeth, dywedodd Ms Watson: "Pe bai gen i fwy o amser i siarad byddwn wedi egluro fy mod yn sôn am sawl fferm sydd wedi cael eu heffeithio'n barhaus gan y diciâu, a phwysau parhaus y systemau presennol.
"Rwy'n gwybod bod y cylch o orfod profi, difa, yna dechrau eto yn achosi straen enfawr i ffermwyr llaeth.
"Yn yr achosion hynny, rwy'n meddwl y dylai fod sgwrs am sut y gellir datrys y sefyllfa honno, neu o leiaf, gwella.
"Mae Cymru wedi bod â rhaglen dileu diciâu ar waith ers 2008 ac, gan gydnabod y straen a'r gofid y gall diciâu ei gael ar deuluoedd fferm, mae llywodraeth Lafur Cymru yn parhau i gynnig cymorth."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Awst 2023
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd14 Gorffennaf 2021