Cwpan FA Lloegr: Bournemouth 5-0 Abertawe
- Cyhoeddwyd

Chwaraewr canol cae Cymru, David Brooks yn dathlu sgorio yn erbyn Abertawe nos Iau
Mae Abertawe allan o Gwpan FA Lloegr wedi i Bournemouth eu trechu yn y bedwaredd rownd.
Roedd y gêm drosodd i bob pwrpas wedi i'r Elyrch ildio pump o goliau yn ystod hanner cyntaf hollol hunllefus.
Daeth y tair gôl gyntaf o fewn chwarter awr, gan Lloyd Kelly (7), Alex Scott (10) a Luis Sinisterra (14) ond roedd camgymeriadau amddiffynnol hefyd yn ffactor.
David Brooks oedd wedi creu'r ddwy gôl gyntaf, a chwaraewr canol cae Cymru wnaeth sgorio pedwaredd gôl y tîm o'r Uwchgynghrair (35) cyn i Dominic Solanke (44) wneud hi'n 5-0.

Roedd hi'n noson i'w hanghofio i Abertawe a'u rheolwr Luke Williams
A dweud y lleiaf roedd yna dalcen caled felly i'r Elyrch wedi'r egwyl, ond doedd yna ddim eilyddio gan y rheolwr newydd Luke Williams ar ddechrau'r ail hanner.
Ond fe ddaeth Kieffer Moore i'r maes yn lle Solanke ac fe fu bron i ymosodwr Cymru sgorio gyda'i gyffyrddiad cyntaf.
Fe wnaeth yr Elyrch eu gorau i frwydro'n ôl a chesio adennill rhywfaint o hunan-barch, ond doedd y tîm cartref ddim am orffwys ar eu rhwyfau 'chwaith.
Serch hynny, doedd dim goliau pellach yn Stadiwm Vitality ac mae Bournemouth yn llwyr haeddu eu lle ym mhumed rownd y gystadleuaeth.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Ionawr 2024
- Cyhoeddwyd13 Ionawr 2024
- Cyhoeddwyd7 Ionawr 2024