Noel Thomas: 'Angen dileu cytundebau Cymreig Fujitsu'
- Cyhoeddwyd
Mae cyn is-bostfeistr a gafodd ei garcharu ar gam fel rhan o sgandal Swyddfa'r Post wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ddileu cytundebau cyhoeddus Cymreig gyda Fujitsu.
Cwmni Siapanaidd Fujitsu oedd yn gyfrifol am raglen gyfrifiadurol ddiffygiol Horizon.
Rhwng 1999 a 2015, cafodd dros 900 o is-bostfeistri eu herlyn, wedi i'r rhaglen gyfrifiadurol nodi bod arian wedi diflannu o'u canghennau.
Mae Fujitsu wedi ymddiheuro am eu rhan yn y sgandal a dywed Fujitsu Group eu bod yn trin y mater hwn gyda'r difrifoldeb mwyaf.
Y gred yw mai dyma'r achos mwyaf o gamweinyddu cyfiawnder yn hanes ein system gyfreithiol.
Miliynau o arian Cymreig
Un o'r rhai gafodd ei erlyn ar gam yw Noel Thomas o Ynys Môn.
Yn 2006, cafodd ei garcharu wedi iddo dderbyn cyngor cyfreithiol i bledio'n euog i "gadw cyfrifon ffug".
Cafodd y dyfarniad ei wrthdroi dair blynedd yn ôl.
Yn 2019, dyfarnodd yr Uchel Lys bod nam ar system gyfrifiadurol Horizon, ac mai dyna arweiniodd at erlyniadau anniogel gan Swyddfa'r Post.
Mae Newyddion S4C wedi canfod bod miliynau o bunnoedd o arian cyhoeddus Cymreig wedi ei wario ar gytundebau gyda Fujitsu wedi i'r Uchel Lys dynnu sylw at ffaeleddau'r cwmni.
Wrth siarad o'i gartref yng Ngaerwen, dywedodd Noel Thomas y byddai "yn licio gweld" cytundebau cyhoeddus Cymreig gyda Fujitsu yn dod i ben "ar ôl yr holl stŵr maen nhw wedi achosi - I mi, mae hynny yn ugain mlynedd bron".
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau mai nhw oedd yr awdurdod cytundebu ar gyfer dau gytundeb werth cyfanswm o fwy na £2m.
Cafodd y cytundebau yna eu rhoi i Fujitsu ym mis Awst 2022 - flwyddyn a hanner wedi i Noel Thomas a 38 cyn is-bostfeistr arall glirio'u henwau yn yr Uchel Lys yn Llundain.
'Maegan Fujitsu gontracts yn bob man'
"Rwy' wedi siomi, a dweud y gwir," oedd ymateb Mr Thomas pan gafodd wybod am y cytundebau.
"Pam eu bod nhw wedi mynd i lawr y lôn yma?
"Mae i'w weld bod gan Fujitsu gontracts yn bob man.
"Mae'n syndod bod y cytundebau yma yn mynd yn eu blaenau, yn y wlad yma - yng Nghymru."
Mae Fujitsu wedi dweud eu bod nhw yn rhoi'r gorau i wneud cais am gytundebau cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig tan bod yr ymchwiliad cyhoeddus i sgandal Swyddfa'r Post yn dod i ben.
Dyw'r cwmni ddim wedi ymateb eto i gais gan Newyddion S4C oedd yn gofyn a yw hynny'n cynnwys cytundebau Llywodraeth Cymru.
Yn San Steffan, mae Pwyllgor Trysorlys Tŷ'r Cyffredin wedi cysylltu gyda 21 o gyrff cyhoeddus, yn gofyn am fanylion unrhyw gytundebau posib gyda Fujitsu ers Rhagfyr 2019.
Maen nhw'n cynnwys y Swyddfa Gartref, yr adran Gyllid a Thollau a'r Bathdy Brenhinol.
Gofynnodd Newyddion S4C i Lywodraeth Cymru a fyddai hawl gan Fujitsu i wneud cais am gytundebau fydd yn dod i ben yn hwyrach eleni.
Dywedodd llefarydd bod "deddfwriaeth yn ei gwneud hi'n bosib i brynwyr sector cyhoeddus i eithrio cynigiwr o'r broses gaffael os dyfernir bod un neu fwy o gamau eithrio yn berthnasol iddyn nhw, fel yr esbonir yn y ddeddfwriaeth, er mwyn sicrhau integriti y darparwyr rydyn ni'n cytundebu â nhw".
Cytundeb rhwng Fujitsu a Thrafnidiaeth Cymru
Mae Newyddion S4C hefyd wedi dod o hyd i gytundeb arall, gwerth miliwn o bunnau'r flwyddyn, rhwng Fujitsu a Thrafnidiaeth Cymru.
Cafodd y cytundeb ei ymestyn am ddwy flynedd y llynedd heb broses dendro.
Llywodraeth Cymru sydd berchen ar Drafnidiaeth Cymru yn llwyr. Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth bod hyn "yn fater gweithredol i Drafnidiaeth Cymru. Does dim byd gan Lywodraeth Cymru i'w wneud â hyn."
Dywedodd Llefarydd Trafnidiaeth Plaid Cymru, Delyth Jewell: "Mae Llywodraeth Cymru wedi parhau, wrth oruchwylio, i weld cytundebau yn cael eu dyfarnu i Fujitsu.
"Mae hynny'n codi cwestiynau am y broses wirio i gwmnïau sydd yn derbyn buddsoddiad cyhoeddus."
Dywedodd llefarydd ar ran Trafnidiaeth Cymru ei bod hi'n rhatach adnewyddu eu contract gyda Fujitsu na phrynu offer o'r newydd.
Ymateb Fujitsu
Dywedodd Fujitsu nad ydyn nhw'n ymateb i gwestiynau penodol, ond fe wnaethon nhw ddweud bod "Fujitsu Group yn trin y mater hwn gyda'r difrifoldeb mwyaf ac yn cynnig eu hymddiheuriad dyfnaf i'r is-bostfeistri a'u teuluoedd.
"Mae'r ymchwiliad cyhoeddus, lle mae ein cwmni Prydeinig yn cynnig cydweithrediad llwyr, yn archwilio digwyddiadau cymhleth ddigwyddodd dros nifer o flynyddoedd.
"Wedi i'r ymchwiliad ddod i gasgliadau, byddwn yn gweithio gyda llywodraeth y DU ar weithrediadau addas, gan gynnwys cyfraniad at iawndal.
"Mae Fujitsu Group yn gobeithio am ddiwedd cyflym sydd yn sicrhau canlyniad teg i'r dioddefwyr."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Ionawr 2024
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2024