Llywodraeth Cymru'n 'gwneud dim i helpu ffermwyr'

  • Cyhoeddwyd
Coed wedi eu plannu
Disgrifiad o’r llun,

Mae elfen goedwigo Cynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru wedi achosi cryn ddadl

Mae yna ymateb chwyrn wedi bod ar ôl i ymchwil gael ei wneud i effeithiau posib Cynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru.

Llywodraeth Cymru sydd wedi comisiynu'r gwaith gan ymchwilwyr ac ystadegwyr annibynnol ADAS, Pareto Consulting SRUC a Choleg Prifysgol Dulyn.

Mae'n awgrymu y bydd yna ostyngiad o 10.8% yn nifer yr anifeiliaid i gael eu cynhyrchu ar ffermydd Cymru - 122,200 yn llai o wartheg, sy'n cyfateb i tua 800,000 yn llai o ddefaid.

Byddai 11% o ostyngiad hefyd yn nifer y gweithwyr ar ffermydd Cymru, sy'n golygu 5,500 yn llai o swyddi, medd yr ymchwil.

Angen 'dihuno lan'

Ym marchnad da byw Caerfyrddin, beirniadaeth gyffredinol oedd yna i'r cynllun fydd yn dod i rym yn 2025.

Yn ffermio yng Ngheredigion, Melva Phillips yw'r wythfed genhedlaeth i amaethu'r tir.

Ond mae'n ansicr am y dyfodol i'w phlant, gyda'r tri ohonyn nhw yn awyddus i barhau o fewn y diwydiant.

"Mae pethau yn edrych yn weddol dywyll arno' ni," meddai.

"Mae ishe'r llywodraeth i ddihuno lan. Mae Llywodraeth Cymru yn hopeless. So nhw'n neud dim i'n helpu ni o gwbl."

Disgrifiad o’r llun,

Mae hi'n edrych "yn weddol dywyll" ar y sector amaeth ar hyn o bryd, medd Melva Phillips

Roedd Melva yn ymateb i Gynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, a fydd yn disodli'r hen daliadau o gyfnod yr Undeb Ewropeaidd.

Mae'r gofyn i ffermydd sicrhau bod 10% o'u tir wedi'i blannu â choed wedi bod yn un o agweddau mwyaf dadleuol y cynllun.

Ers blynyddoedd bellach, mae arweinwyr o fewn y diwydiant wedi rhybuddio bod cynhyrchu bwyd o dan fygythiad yn sgil ymdrech y llywodraeth i frwydro yn erbyn newid hinsawdd a cholli byd natur.

'Dim llawer o amser'

Mae undeb NFU Cymru'n dweud bod y ffigyrau diweddaraf yn amlygu sefyllfa arswydus i'r diwydiant.

"Dwi'n bryderus braidd eu bod wedi gadael pethau mor hwyr," dywedodd llywydd yr undeb, Aled Jones.

Disgrifiad o’r llun,

Rhaid i'r ymgynghoriad ystyried barn ffermwyr a busnesau gwledig, medd Aled Jones

"Maen nhw'n ymgynghori rŵan, a maen nhw'n awyddus i ddechrau pethau yn 2025. Does gynnon ni ddim llawer o amser.

"Mae'n hollbwysig fel rhan o'r ymgynghoriad bod ymateb y ffermwyr a busnesau gwledig yn cael eu clywed.

"Mae nifer o'r cynigion sydd wedi arwain at yr asesiad yma yn parhau o fewn yr ymgynghoriad diweddaraf.

"Mae NFU Cymru wedi rhybuddio'n gyson am effaith rhai o'r cynigion sydd o fewn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy - yn eu plith, yr anghenion plannu coed a chynefino ar 10% o dir."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r asesiad economaidd yn ddarn pwysig o waith a helpodd i lywio ein hymgynghoriad er mwyn gallu mynd i'r afael â'r materion hynny.

Nid yw'n asesiad o'r ymgynghoriad presennol.

"Mae manylion llawn ein cynigion yn yr ymgynghoriad a byddem yn annog pobl i gymryd rhan a mynegi eu barn."

'Anwybyddu'r pryderon'

Dadlau bod Llywodraeth Cymru yn gosod rhwystrau i bobl ifanc sy'n gobeithio sicrhau bod yna ddiwydiant i'r dyfodol wnaeth Hefin Jones, sy'n ffermio ger Llanarthne yn Sir Gaerfyrddin.

"Beth mae'r cynllun hyn yn ei wneud yw anwybyddu'r pryderon, a llais unrhyw un sydd ddim o blaid yr agenda goedwigo," dywedodd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Hefin Jones yn ofni y bydd y cynllun yn cyflawni'r gwrthwyneb i'w amcanion

"Mae rhesymeg pob sector wedi ei anwybyddu, ond am yr agenda yma i goedwigo. A mae'n rhagrith hollol pan y chi'n edrych ar deitl y ddogfen sef 'Cadw Ffermwyr i Ffermio'.

"Mae'r cynllun yma yn gwneud yn hollol i'r gwrthwyneb o'r hyn sy'n cael ei ddweud."

Tywydd eithafol yn fygythiad

Wrth gyhoeddi'r cynlluniau, a fydd yn agored i ymgynghoriad tan fis Mawrth, dywedodd y Gweinidog dros Faterion Gwledig Lesley Griffiths eu bod eisoes wedi siarad yn helaeth gyda phartïon â diddordeb.

"Rydym wedi gweld yn uniongyrchol effaith patrymau tywydd eithafol fel sychder a llifogydd, ar ffermydd," meddai.

"Bydd y digwyddiadau hyn ond yn dod yn amlach a dyna yw'r bygythiad mwyaf i'n gallu i gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy.

"Dyna pam mae'n rhaid i ni sicrhau bod y gefnogaeth i'r diwydiant yn y dyfodol yn mynd i'r afael â'r broblem hon, fel bod ffermwyr Cymru'n gallu ei gwrthsefyll ac yn gallu parhau i gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cynllun fel y mae yn rhy wan, ym marn Iolo Williams

Ond mae un amgylcheddwr amlwg iawn, y naturiaethwr Iolo Williams, yn dadlau nad yw'r cynlluniau yn mynd yn ddigon pell.

"Gallwn ni ddim cario ymlaen fel ydan ni," meddai.

"'Da ni'n gweld llifogydd, 'da ni'n gweld argyfwng ym myd natur, 'da ni'n gweld argyfwng newid hinsawdd.

"Mae angen gwobrwyo yr ychydig ffermwyr hynny sydd yn gwneud stwff i helpu bywyd gwyllt ac angen eu gwobrwyo nhw'n iawn.

"Ond mae'r cynllun sydd gynno ni ar hyn o bryd ar bapur yn llawer rhy wan.

"Mae angen ei gryfhau o, a mae angen ei fonitro fo hefyd i wneud yn siŵr bod y canllawiau sydd lawr yn gweithio."

Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai'r cynlluniau yn help wrth wneud ffermwyr Cymru yn "arweinwyr byd" mewn ffermio cynaliadwy.