Cwpan FA Lloegr: Blackburn 4-1 Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Chwaraewr wrecsam a blackburn

Mae Wrecsam allan o gwpan FA Lloegr ar ôl cael eu curo gan Blackburn Rovers yn y bedwaredd rownd.

Colli fu hanes Wrecsam o 4-1 yn erbyn Blackburn Rovers yn Ewood Park.

Er i'r tîm cartref gael sawl cyfle yn y munudau cyntaf, Wrecsam aeth ar y blaen diolch i ymdrech Cannon wedi ugain munud.

Fe darodd y tîm cartref yn ôl gan sgorio dwy gôl o fewn dwy funud i'w gilydd, y gyntaf yn ergyd gan Szmodics a'r ail o droed Gallagher.

Sgoriodd Szmodics ei ail gôl o'r gêm gan sicrhau buddugoliaeth o 3-1 i'r tîm cartref ar yr egwyl.

Parhau i greu cyfleoedd wnaeth y crysau gwynion ar ddechrau'r ail hanner gyda Tronstad yn sgorio pedwaredd gôl Blackburn wrth daro'r bêl i gornel y rhwyd.

Er gwaetha gobeithion Wrecsam o greu sioc unwaith yn rhagor yng Nghwpan FA Lloegr, roedd Blackburn yn llwyr haeddu'r fuddugoliaeth a'r tîm o'r Bencampwriaeth sy'n mynd ymlaen i'r bumed rownd.