Y Bencampwriaeth: Caerlŷr 3-1 Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Dewsbury yn sgorio

Roedd 'na fuddugoliaeth o 3-1 i Gaerlŷr yn erbyn Abertawe yn y Bencampwriaeth nos Fawrth.

Yn Stadiwm King Power roedd hi'n gychwyn addawol i'r tîm cartref wrth iddyn nhw fynd ar y blaen wedi tair munud yn unig o'r gêm, diolch i ymdrech Kiernan Dewsbury-Hall. Hon oedd unig gôl yr hanner cyntaf.

Er i Abertawe ddechrau'n gryfach yn yr ail hanner, aeth Caerlŷr ymhellach ar y blaen gyda dwy gôl o fewn munudau i'w gilydd, y gyntaf gan Stephy Mavididi o'r smotyn a'r ail gan Yunus Akgün.

Tarodd Abertawe 'nôl ym munudau ola'r gêm gyda gôl gan Joe Allen, ond roedd hi'n fuddugoliaeth gyfforddus i Gaerlŷr.