XL Bully: Perchnogion yn pryderu am ffawd eu cŵn

  • Cyhoeddwyd
XL BullyFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llywodraeth y DU yn dweud fod yr XL Bully yn gi ffyrnig, ac ei bod hi'n amhosib rhagweld ymateb y cŵn i sefyllfaoedd

Mae staff lloches anifeiliaid yn Sir y Fflint yn annog perchnogion sy'n ystyried cael gwared o'u cŵn XL Bully i "beidio mynd i banig", wrth i'r elusen nodi cynnydd mewn ceisiadau gan bobl sy'n chwilio am gartref newydd i'w cŵn.

Yn dilyn cyfres o ymosodiadau erchyll, mae Prif Weinidog y DU, Rishi Sunak, yn bwriadu gwahardd y brîd erbyn diwedd y flwyddyn.

Ers y cyhoeddiad mae North Clwyd Animal Rescue, yn Nhrelogan ger Treffynnon, yn dweud eu bod wedi gorfod gwrthod XL Bully a naw ci bach gan fod y lloches eisoes yn llawn.

Dywedodd Nicky Owen, rheolwr y lloches, fod ganddyn nhw bedwar XL Bully ar hyn o bryd ond eu bod yn disgwyl mwy dros yr wythnosau nesa'.

'Rhai o'r straeon yn arswydus'

Ar hyn o bryd maen nhw'n gofalu am 80 o gŵn amrywiol a dros 400 ar restr aros, yn bennaf medda nhw oherwydd effaith y cyfnodau clo.

Does ganddyn nhw ddim lle i ragor o gŵn, ac maen nhw'n poeni be fydd yn digwydd i'r cŵn XL Bully pan na fydd rhai perchnogion eu heisiau wrth i'r gwaharddiad ddod i rym.

Disgrifiad o’r llun,

Nicky Owen: "Does yr un ci bach byth yn cael ei eni'n ymosodol"

Mae'r lloches yn cydweithio â thri awdurdod lleol, ac er nad oes ganddyn nhw le i ailgartrefu mwy o gŵn, mae'n nhw'n gorfod cymryd cŵn strae.

Ac mae'n nhw'n poeni y bydd rhai perchnogion, oherwydd y rheolau newydd, yn gadael i'w cŵn fynd.

Yna, mi fydd wardeniaid yn dod â nhw i'r lloches.

"Mae rhai o'r straeon yn arswydus," meddai Nicky wrth Newyddion S4C.

"Dwi'n deall yn iawn pam fod rhaid gwneud rhywbeth. Ond, dwi'n meddwl bod y llywodraeth wedi mynd yn rhy bell wrth ddweud ei fod yn waharddiad llawn.

"Nid dyna'r ateb.... cyfran fechan o'r anifeiliaid sy'n beryglus."

Ychwanegodd mai perchnogion y cŵn "sy'n eu gwneud fel y mynnent".

"Maen nhw'n gŵn hyfryd.

"Does yr un ci bach byth yn cael ei eni'n ymosodol.

"Pobl sy'n newid cŵn fel nhw."

'Babi fi 'dio'

Ym Mhenrhyndeudraeth mae gan Elliw Hughes gi XL Bully blwydd oed.

Mae hi'n deud fod Storm, ei "babi bach", yn gi cyfeillgar ac wrth ei fodd yng nghwmni plant a phobl.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Elliw Hughes a Storm

"Dwi reit confident, mae Storm yn lyfio kids, mae o'n lyfio oedolion hefyd.

"Dwi'n teimlo'n saffach efo fo wrth ymyl fi.

"Os ti'n 'di dod â ci chdi i fyny yn iawn, mae o'n mynd i fod yn fine.

"Dwi'n coelio mewn trainio cŵn chdi'n iawn, a dwi wedi bwcio lle ar gwrs yn Lerpwl... cwrs sbesial ar gyfer trainio XL Bullies."

"So fyddai'n mynd i fanna mis nesa' i gael o wedi sortio, ac iddo fo basio bob dim.

Dwi'n gw'bod neith o, ond dwi just isio cymryd extra precaution, achos babi fi di o."

Disgrifiad o’r llun,

Elliw Hughes: "Dwi'n teimlo'n saffach efo fo wrth ymyl fi"

Fe ychwanegodd: "'Dwi 'di mynd â fo allan unwaith ers y ban.

"Dwi'n teimlo reit confident, ond mae 'a lot o bobl stêrio arna chi ac yn rhoi evil looks arna chdi, a 'di o'm yn neis iawn.

"Yndi, ma' Storm yn fawr ond 'sa fo ddim yn brifo neb."

Dywedodd Elliw ei bod wedi dychryn o glywed am yr ymosodiadau diweddar, ac yn cytuno fod rhaid i'r gwleidyddion wneud "rhywbeth".

Ond mae hi'n rhwystredig bod pobl yn beio cŵn nad oedd wedi gwneud dim o'i le.

Dywedodd fod ymateb pobl i'r brîd wedi newid yn ystod yr wythnosau diwethaf a'i bod ofn mynd â Storm am dro.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Storm yn flwydd oed

"Dim ban the breed, ban the owners," meddai.

"Geno fi lot o ffrindiau sydd efo XLs a ma' nhw'n lyfli, absolutely lovely. Ma' nhw just weithia yn y dwylo wrong."

'Maen nhw mor bwerus'

Mae Llywodraeth y DU yn dweud eu bod nhw'n gŵn ffyrnig, ac ei bod hi'n amhosib rhagweld eu hymateb i sefyllfaoedd.

Ganol Medi, ar ôl i Ian Price o Walsall gael ei ladd gan ddau gi sy'n cael eu hamau o fod yn XL Bullies, mae 'na adolygiad i geisio diffinio'n gyfreithiol beth ydi'r brîd, cyn mynd ati i greu gwaharddiad.

Mae yna blant wedi eu lladd hefyd y llynedd gan gŵn, yn eu plith, Jac Lis o Gaerffili a oedd yn 10 oed a Bella-Rae Birch o Lannau Mersi a oedd yn 17 mis oed.

Ddechrau'r mis, yn Rhosllanerchugog, cafodd 24 o ddefaid beichiog eu lladd mewn ymosodiad ffyrnig gan gŵn XL Bully.

Disgrifiad o’r llun,

Glyn Morris: "Mae o fath â rhoi car Formula 1 i berson cyffredin ar y stryd i yrru o gwmpas"

Mae Glyn Morris o Brestatyn yn hyfforddwr cŵn: "Problem XL Bully ydy eu bod nhw mor bwerus."

"'Di o'm fath â rhan fwyaf o gŵn.

"Os ydi cŵn yn ymosod, tydyn nhw, fel arfer, ddim yn gwneud gymaint o niwed â be' 'sa XL Bully yn ei wneud."

Mae'n dweud fod angen hyfforddi pob ci o oed ifanc er mwyn cael rheolaeth lawn, ac yn pryderu fod nifer yn prynu cŵn sydd ddim yn addas i'w ffordd o fyw.

"Mae o fath â rhoi car Formula 1 i berson cyffredin ar y stryd i yrru o gwmpas - 'san ni'm yn para canllath, na 'san?!

"Mae rhai yn cymryd cŵn sydd efo gormod o egni, a nhwytha yn bobl sydd ddim yn cerdded rhyw lawer neu ddim yn fodlon rhedeg efo nhw.

"Mae isio dewis ci ar gyfer y math o fywyd da chi yn ei ddilyn"

Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Jack Lis o Gaerffili yn dilyn ymosodiad gan gi o frid Bully XL yn 2021

Mae Llywodraeth y DU yn gobeithio cael trefn ar waharddiad yr XL Bullies erbyn diwedd y flwyddyn.

Ond mae'r rhai sy'n cyfri'r cŵn XL fel rhan o'u teulu, yn dweud mai targedu perchnogion anghyfrifol ddylai fod yn flaenoriaeth.

Pynciau cysylltiedig