Canlyniadau Caerdydd ac Abertawe yn y Bencampwriaeth

  • Cyhoeddwyd
Chakvetadze a Grant

Buddugoliaeth i Gaerdydd, ond colli oedd hanes Abertawe yn y Bencampwriaeth ddydd Sadwrn.

Watford 0-1 Caerdydd

Cafodd Caerdydd fuddugoliaeth bwysig yn erbyn Watford yn Vicarage Road brynhawn Sadwrn.

Gyda'r ddau dîm yn chwilio am gyfle i ddringo i ran uchaf y Bencampwriaeth, yr ymwelwyr aeth ar y blaen ddwy funud cyn yr egwyl a hynny drwy ergyd Josh Bowler o du allan i'r cwrt cosbi.

Er i'r naill dîm na'r llall gael cyfleon pellach i sgorio yn yr ail hanner, arhosodd y sgôr yn 0-1 gyda Chaerdydd yn sicrhau tri phwynt pwysig yn eu hymdrech i gyrraedd y gemau ail-chwarae ar ddiwedd y tymor.

Abertawe 0-1 Plymouth

Syrthio ymhellach i waelodion y Bencampwriaeth fu hanes yr Elyrch gartref yn erbyn Plymouth Argyle brynhawn Sadwrn.

Yr ymwelwyr sgoriodd unig gôl yr hanner cyntaf a hynny o droed chwith Morgan Whittaker, cyn chwaraewr Abertawe, yn dilyn cic gornel wedi deunaw munud o chwarae.

Er gwaethaf cyfleon di-ri yn yr ail hanner, methu â sgorio fu hanes Abertawe gyda Plymouth yn mwynhau eu buddugoliaeth oddi cartref gyntaf y tymor hwn.