Gweinidog yn gwadu gwastraffu arian ar gynllun fferm £4.25m
- Cyhoeddwyd
Mae un o weinidogion Llywodraeth Cymru wedi gwadu gwastraffu arian drwy brynu fferm ym Mhowys am £4.25m.
Mae'r cynllun i helpu cwmni Gŵyl y Dyn Gwyrdd drwy brynu fferm Gilestone wedi cael ei atal, ar ôl darganfod pâr o weilch yn nythu yno.
Dywedodd aelod o'r Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd bod "tipyn o 'dywedais i wrthych chi'" am yr hyn ddigwyddodd ar y safle yn Nhal-y-bont ar Wysg.
Ond dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, bod ffermwyr yn parhau i ddefnyddio'r safle.
Fe wnaeth y drafodaeth yn y Senedd arwain at ffrae ar ôl i Mr Gething gyhuddo'r aelod Ceidwadol James Evans o wneud datganiadau anghywir am yr hyn yr oedd o wedi'i ddweud.
Dywedodd Mr Gething wrth yr AS dros Frycheiniog a Sir Faesyfed: "Dylai ddeall na fyddaf yn anghofio'r ffordd y mae o wedi ymddwyn."
Dywedodd Mr Evans bod agwedd y gweinidog yn "warthus ac yn ddiangen" a'i fod yn anaddas i fod yn brif weinidog.
Gwadodd gweinidog yr economi ei fod wedi gwastraffu arian cyhoeddus ar y fferm ym Mhowys, a gafodd ei brynu gyda'r nod o helpu gŵyl y Dyn Gwyrdd i ehangu.
Mae parth cyfyngedig o 750m wedi'i osod o gwmpas y nyth a gafodd ei ganfod y llynedd, er mwyn gwarchod yr adar.
Roedd Grŵp Cadwraeth Dyffryn Wysg wedi dweud wrth un o bwyllgorau'r Senedd ym mis Hydref 2022 fod gweilch yn cael eu "cofnodi'n aml yn defnyddio'r fferm ac yn bwydo yn yr afon".
'Anwybyddu pryderon'
Yn y Senedd dywedodd Mr Evans ei fod wedi rhybuddio am sefyllfa fel hyn.
"Mae llawer o bobl yn fy nghymuned yn flin iawn am y sefyllfa," meddai.
Dywedodd yr AS Ceidwadol bod pryderon yn y gymuned am fioamrywiaeth a rhywogaethau ar y safle wedi cael eu hanwybyddu.
Honnodd fod asiantau tir lleol wedi dweud bod y safle "yn werth llawer llai nawr na'r hyn y talodd Llywodraeth Cymru amdano".
Mewn ymateb dywedodd y Gweinidog Economi: "Nid yw arian cyhoeddus wedi cael ei wastraffu. Rydym wedi prynu ased am ychydig yn llai na'i werth ar y farchnad.
"Mae gennym ni fusnes fferm masnachol ar y safle - mae'r safle yn cael ei ddefnyddio."
Dywedodd ei fod yn iawn i'r llywodraeth gefnogi busnesau fel Gŵyl y Dyn Gwyrdd i dyfu a bod llawer o'r dicter ynghylch y cynllun wedi "troi at sarhad", oedd yn golygu bod rhai pobl wedi "cymryd saib o'u bywyd cyhoeddus".
Ychwanegodd: "Rwyf wedi gweld gohebiaeth gan etholwyr yr aelod yn honni fy mod wedi gwneud datganiadau nad ydw i, a rheiny wedi dod ganddo.
"Rwyf wedi cael sgwrs ag ef y tu allan i'r siambr hon. Mae ei ymddygiad yn fater iddo ef.
"Ond dylai ddeall na fyddaf yn anghofio'r ffordd y mae wedi ymddwyn ac rwy'n gobeithio am well ganddo yn y dyfodol."
Agwedd 'gwbl warthus'
Dywedodd yn ddiweddarach nad oedd "yn ofni bod yn gadarn lle mae anghytundeb neu ymddygiad nad wyf yn credu ddylai basio heb sylw".
Dywedodd Mr Gething ei fod yn "lwyddiant" bod y gweilch wedi cael eu gweld yn nythu am y tro cyntaf ers mwy na 200 mlynedd "mor bell i'r de".
Fe ofynnwyd i'r llywodraeth am enghreifftiau o'r hyn roedd Mr Gething yn cyfeirio ato.
Mewn datganiad a gafodd ei ryddhau yn ddiweddarach, dywedodd Mr Evans: "Roedd agwedd y gweinidog yn y siambr heddiw yn gwbl warthus ac yn ddiangen".
"Os nad ydi o'n gallu delio gyda chraffu rhesymol gan aelod etholedig ar fater lleol, yna sut mae o'n mynd i ymdopi gyda'r pwysau o fod yn brif weinidog?
"Unwaith eto mae'n dangos nad yw'n ffit ar gyfer y swydd."
Yr aelod Llafur Joyce Watson wnaeth godi'r mater yn y Senedd, ac fe ddywedodd hi ei "bod wrth ei bodd am y gweilch".
Dywedodd Cefin Campbell o Blaid Cymru ei fod yn croesawu'r "darganfyddiad hanesyddol o'r gweilch", ond dywedodd fod y fferm yn ddadleuol o'r dechrau.
Ychwanegodd ei fod yn destun ffrae cynllunio fawr, adolygiadau barnwrol, achos llys apêl, ymholiadau cynllunio a bod y perchnogion blaenorol "wedi gorfod gadael y fferm".
Dywedodd Mr Gething bod y Dyn Gwyrdd wedi amlinellu cynllun busnes a bod Archwilio Cymru "wedi bod trwy hyn ac na fu unrhyw feirniadaeth o briodoldeb yr ased".
Roedd Archwilio Cymru wedi canfod bod gweinidogion Cymru wedi gweithredu "gyda brys y gellid ei osgoi" wrth brynu'r fferm yn 2022.
Dywedodd gweinidogion ar y pryd bod yr adroddiad yn ei gwneud yn glir bod y pryniant yn dilyn "prosesau priodol" a'i fod yn "werth am arian".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Ionawr
- Cyhoeddwyd19 Mai 2022
- Cyhoeddwyd15 Rhagfyr 2022