Canfod gweilch ar fferm £4.25m yn difetha cynllun Dyn Gwyrdd
- Cyhoeddwyd
Mae cynllun Llywodraeth Cymru i helpu cwmni Gŵyl y Dyn Gwyrdd drwy brynu fferm ym Mhowys am £4.25m wedi cael ei atal, ar ôl darganfod pâr o weilch yn nythu yno.
Roedd y llywodraeth wedi prynu Fferm Gilestone er mwyn sicrhau bod gan y cwmni "gartref parhaol" yng Nghymru.
Ond yn ôl arbenigwyr mae'n rhaid gosod parth cyfyngedig o 750m o gwmpas y nyth, sy'n golygu nad oes modd defnyddio'r safle ar gyfer digwyddiadau fel y bwriad.
Cadarnhaodd rheolwr gyfarwyddwr yr ŵyl eu bod yn chwilio am "gyfleoedd eraill", a dywedodd Gweinidog Economi Cymru mai "lles yr adar a'u nyth yw'r flaenoriaeth o ystyried pwysigrwydd hanesyddol y datblygiad".
Bydd swyddogion nawr yn ystyried a ddylid gwerthu'r safle ger Tal-y-bont ar Wysg, ond dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig na ddylai'r llywodraeth fod wedi prynu'r safle yn y lle cyntaf.
Beth ydy hanes y safle?
Fe gafodd y fferm ei phrynu gan y llywodraeth yn 2022 gyda'r bwriad o helpu'r Dyn Gwyrdd. Ers hynny mae'r cwmni wedi bod mewn trafodaethau i brydlesu'r safle.
Bwriad y trefnwyr oedd parhau i ffermio yn Gilestone, ond roedden nhw hefyd eisiau defnyddio'r lleoliad ar gyfer digwyddiadau eu hunain, gyda phrif ŵyl y Dyn Gwyrdd yn aros ym Mharc Glan Wysg.
Er bod y syniad wedi derbyn cefnogaeth y cyngor lleol, roedd yn ddadleuol iawn, gyda phryder y gallai'r perchnogion gynnal digwyddiadau ar gyfer cymaint â 3,000 o bobl.
Roedd y gwrthbleidiau hefyd wedi cwestiynu pam y prynodd y llywodraeth y fferm cyn i'r Dyn Gwyrdd gyflwyno cynllun busnes.
Daeth i'r amlwg yn ddiweddarach bod yn rhaid i'r Dyn Gwyrdd ddibynnu ar weinidogion Cymru i brynu'r fferm gan nad oedd yn gallu dod o hyd i'r arian ei hun.
Roedd gweinidogion Llafur Cymru wedi gweithredu gyda "brys osgoadwy" wrth brynu'r fferm ym Mhowys, yn ôl Archwilydd Cyffredinol Cymru.
Ond ym mis Awst y llynedd, daeth i'r amlwg fod pâr o weilch wedi nythu ar y fferm - y tro cyntaf iddynt gael eu gweld mor bell i'r de yng Nghymru ers tua 200 mlynedd.
Mae gweilch yn cael eu gwarchod o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981.
Beth fydd yn digwydd i'r fferm?
Dywedodd Gweinidog yr Economi, a'r ymgeisydd am arweinyddiaeth Llafur Cymru, Vaughan Gething ei fod "wedi synnu ac wrth ei fodd" o glywed am yr adar.
Ychwanegodd mai'r nod oedd "cael cyngor ar sut i ofalu am y safle, gan geisio gwireddu yr un pryd ein huchelgais ar gyfer datblygu economaidd cynaliadwy".
Ond wedi iddi ddod i'r amlwg y byddai gofyn am greu parth 750m o gwmpas y nyth, fe benderfynodd y llywodraeth y byddai hi'n "amhosibl" i wireddu'r amcanion gafodd eu nodi yn y cynllun busnes.
Dywedodd Mr Gething bod y llywodraeth wedi ymrwymo i barhau i helpu'r Dyn Gwyrdd i "sicrhau sylfaen hirdymor addas yng Nghymru".
Beirniadodd ei ddatganiad ysgrifenedig ymddygiad rhai oedd yn gwrthwynebu'r cynlluniau, gan ddweud nad yw gweinidogion yn "newid penderfyniadau ar sail bygythiadau gan drydydd parti".
"Mae'r un mor siomedig bod swyddogion etholedig a phartneriaid busnes wedi bod yn destun ymosodiadau parhaus a phersonol ar y mater hwn," ychwanegodd, gan ddweud bod merched wedi ysgwyddo baich y "feirniadaeth bersonol a difrïol".
Ychwanegodd fod yna "gyfleoedd ar gyfer ffermio cynaliadwy a datblygu economaidd" ar y safle o hyd, ac y byddai gweinidogion yn ymestyn y denantiaeth fferm presennol.
Pan ofynnwyd os oedd Llywodraeth Cymru yn ystyried gwerthu'r safle, dywedodd llefarydd y bydden nhw'n ystyried defnyddio asedau ar gyfer cyflawni polisïau amgen yn y lle cyntaf, cyn ei gynnig i grwpiau eraill yn y sector cyhoeddus, ac yn olaf cyn iddo gael ei cael ei gynnig ar werth ar y farchnad agored.
Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Gŵyl y Dyn Gwyrdd, Fiona Stewart eu bod wedi eu "siomi" ond eu bod yn "ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi cefnogi prosiect fferm Gilestone".
"Mae mynd i'r afael a'r argyfwng hinsawdd, cefnogi cenedlaethau'r dyfodol a thaclo anghyfartaledd o ran cyfoeth ac oedran yn parhau yn faterion hynod bwysig yng nghanolbarth Cymru," meddai.
'Llanast'
Dywedodd James Evans, Aelod Seneddol y Ceidwadwyr Cymreig dros Frycheiniog a Sir Faesyfed: "Ni ddylai prynu Fferm Gilestone byth fod wedi digwydd yn y lle cyntaf.
"Cafodd pryderon cadwraeth eu codi yn gynnar yn y broses hon, ynghyd â phryderon am brynu'r fferm ei hun, a nawr mae'r llywodraeth Lafur yn canfod ei hun yn dal ased drud at ddiben sy'n gwbl ddieithr i'w chynllun gwreiddiol."
Dywedodd Aelod o'r Senedd Plaid Cymru, Cefin Campbell, bod yr achos wedi bod yn "llanast o'r cychwyn cyntaf - o gwestiynau am y pryniant, i ddiffyg ymgysylltu ystyrlon yn lleol".
"Yr hyn sydd fwyaf rhwystredig yw y gallai'r £4.25m fod wedi gwneud gwahaniaeth go iawn i ddatblygiad gwledig yng nghanolbarth Cymru ar adeg pan fo cyllidebau mor dynn."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd19 Mai 2022
- Cyhoeddwyd13 Mai 2022