Cwest: Mouayed Bashir wedi marw o effeithiau cocên

  • Cyhoeddwyd
Mouayed BashirFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Mr Bashir ei atal gan swyddogion yr heddlu yn ei gartref a bu farw yn ddiweddarach yn yr ysbyty

Mae cwest i farwolaeth dyn 29 oed o Gasnewydd a fu farw ar ôl cael ei atal gan yr heddlu, wedi dod i'r casgliad iddo farw o effeithiau cocên, gyda chyflwr aflonyddwch ymddygiadol (ABD) hefyd wedi cyfrannu at ei farwolaeth.

Cafodd swyddogion eu galw i gartref Mouayed Bashir ym mis Chwefror 2021, a bu farw yn yr ysbyty ar ôl cael ataliad ar y galon mewn ambiwlans.

Dywedodd y crwner nad oedd yr hyn ddigwyddodd iddo wedi deillio o weithredoedd y swyddogion.

Clywodd y cwest nad oedd gan yr heddlu "ddigon o wybodaeth na dealltwriaeth" o ABD.

Wedi tair wythnos o ystyried y dystiolaeth fe wnaeth y rheithgor yng Nghasnewydd gofnodi canlyniad naratif wedi i uwch-grwner Gwent, Caroline Saunders, ddweud mai dim ond canlyniad o'r fath fyddai'n addas yn yr achos hwn.

O glywed y dystiolaeth dywedodd wrth y rheithgor mai'r un fyddai'r canlyniad hyd yn oed petai'r heddlu neu'r gwasanaeth ambiwlans wedi gweithredu'n wahanol.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Daeth y cwest i farwolaeth Mouayed Bashir i'r casgliad iddo farw o effeithiau cocên

Clywodd y rheithgor bod Mr Bashir yn teimlo'n sâl ddydd Mercher, 17 Chwefror 2021 wedi iddo gymryd cyffuriau anghyfreithlon.

Roedd wedi cau ei hun yn ei ystafell wely ym Maesglas yng Nghasnewydd, yn gorwedd ar y llawr, ac roedd y dodrefn yn ei ystafell wedi malu.

Fe alwodd ei rieni ambiwlans a'r heddlu, a orfododd eu ffordd i'w ystafell.

Clywodd y gwrandawiad bod Mr Bashir wedi cael ei atal gan swyddogion yr heddlu - roedd ei freichiau wedi'u clymu a'i goesau wedi'u clymu gan dâp at ei gilydd er mwyn ei ddiogelwch ef ac eraill.

Roedd y lluniau o gamerâu corff plismyn a welwyd yn ystod y cwest yn dangos Mr Bashir yn ceisio cicio swyddogion.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd plismyn eu galw i gartref Mouayed Bashir yn sgil pryderon am ei ddiogelwch

Ymhlith y ffactorau a gafodd eu hystyried gan y rheithgor oedd defnydd Mr Bashir o gocên am nifer o flynyddoedd, cyflwr aflonyddwch ymddygiadol o ganlyniad i hynny, a'r defnydd o ataliaeth gan Heddlu Gwent.

Clywodd y cwest bod ABD yn gallu gwaethygu wrth i berson gael ei atal, a bod presenoldeb yr heddlu hefyd yn gallu gwaethygu'r cyflwr.

Dywedodd y patholegydd wrth y cwest bod gan Mr Bashir gymysgedd o gyffuriau yn ei waed, gan gynnwys cocên a diazepam, ac ychwanegodd ei fod yn credu ei fod yn dioddef o ABD o ganlyniad i'w ddefnydd o gocên.

Fe wnaeth arbenigwr meddygol dystio y gallai Mr Bashir fod wedi marw o ganlyniad effeithiau cocên yn unig.

Wrth grynhoi nodwyd bod Mr Bashir wedi marw o effeithiau cocên, a bod y cyflwr o aflonyddwch ymddygiadol wedi cyfrannu at ei farwolaeth wedi cyfnod o ataliaeth.

Ar ddiwedd y cwest fe wnaeth y crwner gydymdeimlo â theulu Mouayed Bashir, a dywedodd y byddai'n ysgrifennu at brif gwnstabl Gwent am adnabod arwyddion ABD.