Jeremy Miles: Cynigiodd Hillary drefnu dêt ag arweinydd byd i mi
- Cyhoeddwyd
Pan eisteddodd Jeremy Miles drws nesa' i Hillary Clinton, aeth y sgwrs ar drywydd annisgwyl.
Cynigodd cyn-ysgrifennydd gwladol yr Unol Daleithiau drefnu dêt iddo.
Wrth eistedd gyda'i gilydd mewn digwyddiad ym Mhrifysgol Abertawe, diolchodd y gweinidog addysg iddi am gyfeirio at hawliau LHDT yn ei haraith, cyn egluro mai ef yw'r gweinidog cabinet hoyw cyntaf mewn llywodraeth yng Nghymru.
Eglurodd: "Fe holodd hi oedd cymar gyda fi, ac ro'n i newydd ddod yn sengl ar y pryd ac fe gynigodd hi'n garedig i 'nghyflwyno i i rai o'i ffrindiau.
"Gan gynnwys - heb enwi neb - arweinydd byd.
"Dderbynies i ddim, ro'n i'n meddwl byddai hynny'n gam rhy bell."
'Dod mâs yn arbennig o boenus'
Roedd hynny'n fyd gwahanol o'i arddegau yn Ysgol Gyfun Ystalyfera yng Nghwm Tawe, lle mae'n dweud ei fod yn mynd i'r gwely'n gobeithio dihuno "ddim yn hoyw".
Mewn cyfweliad llawn gyda phodlediad BBC Cymru, Walescast, fe ddywedodd iddo straffaglu heb lawer o fodelau rôl hoyw positif, ac nad oedd ei deulu'n trafod y peth o gwbl ar y pryd.
"Ro'n i'n gwybod 'mod i'n wahanol a do'n i ddim yn gwybod ym mha ffordd yn union, ond ro'n i'n gwybod mod i'n wahanol.
"Ac wrth gwrs, erbyn i fi gyrraedd fy arddegau roedd gen i ymwybyddiaeth lawer cryfach mod i'n hoyw ond doeddech chi ddim yn gweld hynny o gwbl, doedd e ddim yn cael ei drafod yn yr ysgol o gwbl.
"Doedd fy nheulu i yn bendant ddim yn siarad amdano fe. A phan ddes i mas iddyn nhw lawer hwyrach, roedd hynny'n arbennig o boenus."
'Eisiau dihuno ddim yn hoyw'
"Roedd amser hir pan fydden i wedi rhoi unrhyw beth i beidio â theimlo fel 'na.
"Ro'n i'n arfer mynd i'r gwely'n gweddïo y bydden i'n dihuno ddim yn hoyw.
"Mae hynny wedi newid nawr, yn amlwg, diolch byth. Ond mae'r math yna o beth, mae'n gadael ei ôl.
"Ac rwy'n meddwl, wrth edrych nôl ar fy ieuenctid, rwy'n credu iddo fe siŵr o fod effeithio fy hyder, fy synnwyr o beth allen i gyflawni."
Ymunodd Mr Miles â'r Blaid Lafur yn 16 oed cyn mynd i'r brifysgol i New College yn Rhydychen i astudio'r Gyfraith
Arweiniodd at rôl annisgwyl yn nyddiau cynnar Downton Abbey. Fel cyfreithiwr i'r rhwydwaith teledu Americanaidd NBC roedd ynghlwm â gwerthu'r sioe, ac mae'n dweud iddo gyfarfod â nifer o'r cast.
Yn Weinidog Addysg Cymru bellach, mae Mr Miles yn dweud bod ei brofiadau fel myfyriwr wedi llunio'i gred bod rhaid gwneud ysgolion yn le i bawb fod yn gyfforddus.
Mae'n amddiffyn cwricwlwm addysg rhyw newydd y llywodraeth, wynebodd adolygiad barnwrol aflwyddiannus gan rieni.
"Rhaid i chi allu gweld eich hunan a'ch teimladau a'ch lle yn y byd yn cael ei adlewyrchu mewn rhyw ffordd ym mywyd yr ysgol," meddai.
Ychwanegodd bod Llywodraeth Cymru'n edrych ar "arweiniad i gefnogi ysgolion, i gefnogi pobl ifanc traws a chymuned yr ysgol yn ehangach" gyda'r gobaith o'i gyhoeddi cyn diwedd y flwyddyn.
Dywedodd bod pwysigrwydd bod yn gynhwysol yn ymestyn i bolisi Llywodraeth Cymru o brydau bwyd am ddim i bawb - gyda'r nod bod pob plentyn oed cynradd yn gallu cael prydau bwyd am ddim erbyn 2024.
O gael ei herio bod prydau am ddim i bawb yn golygu na all y llywodraeth ariannu prydau am ddim yn ystod gwyliau ysgol, dywedodd Mr Miles bod yr agwedd gyffredinol o fwydo pawb yn bwysig.
"Cael gwared â stigma yw'r allwedd i'r holl resymeg tu ôl darpariaeth gyffredinol," eglura.
"Felly mae'n anodd, rwy'n meddwl, i unrhyw un werthfawrogi pa mor anodd yw hi i gael eich eithrio fel rhywun sy'n cael prydau bwyd am ddim.
"Yn y gorffennol, ry'n ni wedi gallu darparu prydau ysgol am ddim yn ystod gwyliau... ry'n ni nawr mewn sefyllfa lle na all y gyllideb ganiatáu hynny."
Gan edrych ymlaen at yr etholiad cyffredinol nesaf, sy'n gorfod cael ei chynnal cyn diwedd Ionawr 2025, dywedodd Mr Miles mai'r "canlyniad gorau posibl" yn ei farn ef fyddai llywodraeth Lafur yn San Steffan a llywodraeth Lafur ym Mae Caerdydd er mwyn "buddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus".
"Dyna sut allwn ni wneud cynnydd go iawn gyda rhai o'r heriau mwyaf sydd wedi bod yn anodd i'w datrys," meddai.
'Llais Cymreig cryf'
Dywedodd os na all Llywodraeth y DU yn San Steffan "barchu egwyddorion datganoli yna mae'n setliad bregus".
"Rhaid cael system sy'n parchu bod trefniant pedair cenedl gyda ni yn y deyrnas.
"Ac fe fydden i'n dweud mod i'n meddwl bod y mwyafrif o bobl yng Nghymru, a dweud y gwir, beth ydyn ni moyn yw llais Cymreig cryf o fewn hynny, a dosraniad tecach o bŵer ar draws y DU."
Ond wrth drafod ai'r cam nesaf i'w yrfa fyddai sefyll fel Prif Weinidog ar ôl ymddeoliad Mark Drakeford o'r swydd, fe wrthododd wneud sylw.
"Rwy'n mawr obeithio pan ddaw'r amser hwnnw bydd y drafodaeth am syniadau a gweledigaeth, nid dim ond pwy sy'n sefyll," meddai.
"Ond mae hynny'n drafodaeth i ddiwrnod arall dwi'n meddwl."
Gallwch wylio'r cyfweliad ar Walescast am 22:40 ar ddydd Mercher, 9 Awst ar BBC One Wales, ar iPlayer neu wrando ar BBC Sounds.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd22 Rhagfyr 2022